Twf mewn gweithgarwch angylion buddsoddi yng Nghymru wrth i Fanc Datblygu Cymru nodi disgwyliadau mawr ar gyfer 2021

Steve-Holt
Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
steve holt

Gwelwyd twf mewn buddsoddiadau ym musnesau Cymru gan syndicadau o angylion buddsoddi er gwaethaf yr ansicrwydd i fusnesau yn ystod 2020 yn ôl Banc Datblygu Cymru.

Cofrestrwyd chwe phrif fuddsoddwr newydd a 57 o angylion buddsoddi newydd gydag Angylion Buddsoddi Cymru yn 2020, a buddsoddwyd bron i £2 filiwn mewn naw cytundeb. Cwblhawyd chwech o’r rhain ar ôl i’r cyfyngiadau symud ddod i ben yn ystod chwarter olaf 2020 gan annog twf parhaus disgwyliedig ar gyfer 2021.

Yn ystod 2020, buddsoddwyd £1.045m gan syndicadau o brif fuddsoddwyr gan arwain at £931,800 o gyllid cyfatebol gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, wedi’i reoli gan Fanc Datblygu Cymru.  Mae dros 230 o angylion bellach wedi dangos diddordeb mewn buddsoddi ym musnesau Cymru a’r diwydiannau biotechnoleg, technoleg ariannol, technoleg iechyd a SaaS yw’r rhai mwyaf atyniadol.

Yn ystod tri mis olaf 2020 llwyddodd Angylion Buddsoddi Cymru i hwyluso cytundebau, gan gynnwys y canlynol:

  • Mae’r cwmni cyfyngedig Rescape Innovation sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn gwmni arloesol sy’n defnyddio realiti rhithwir i ddatrys heriau ym maes gofal iechyd.  Bu’r prif fuddsoddwr Andrew Diplock yn arwain syndicâd a gododd dros £482,500 ynghyd â £42,500 o arian cyfatebol gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru. Mae hyn yn ychwanegol at y cylch codi arian cyntaf sy’n creu cyfanswm o £250,000 ar gyfartaledd.
  • Busnes gweithgynhyrchu wedi’i leoli yn Llanrhaeadr yw’r cwmni cyfyngedig Atherton Bikes. Bu’r prif fuddsoddwr Rhys Owen yn arwain syndicad o wyth angel buddsoddi o Ogledd Cymru gan godi dros £76,000 ynghyd â £76,000 yn ychwanegol gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru.
  • Mae’r busnes SaaS Mercury Labs Limited yn arbenigo mewn blaenoriaethu rheoli symiau mawr o e-byst a chanddo gefnogaeth y prif fuddsoddwr David Hulston a syndicâd o wyth angel buddsoddi. Cyfanswm y buddsoddiad oedd £250,000 gyda £125,000 ohono gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru.
  • £300,000 ar gyfer y cwmni Elen Financial Software Ltd sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Buddsoddwyd £150,000 gan syndicad o angylion a chafwyd £150,000 yn ychwanegol gan Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru.

 

David Hulston yw’r prif fuddsoddwr yn Mercury Labs Limited. Meddai: “Gall y cyfnod cynnar wrth sefydlu busnes fod yn un heriol ac ni fyddai llawer o’r cwmnïau llwyddiannus y gwyddom amdanynt heddiw wedi llwyddo heb angel buddsoddi, yn arbennig o fewn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.  Drwy gefnogi entrepreneuriaid, gall buddsoddwyr fel fi gynorthwyo i ysgogi arloesedd a rhannu’r risg drwy gyd-fuddsoddi ochr yn ochr ag eraill ac mae Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru y Banc Datblygu yn rhan mor bwysig o hynny. Drwy gydweithio gallwn sicrhau fod ein cyfalaf tymor estynedig yn cael effaith go iawn.  Mae hefyd yn deimlad hynod gyffrous sy’n rhoi llawer o foddhad bod yn rhan o sefydlu busnes a’i weld yn tyfu.”

Meddai Steve Holt, Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru: “Yn amlwg cafwyd cyfnod o ansicrwydd gwirioneddol i fusnesau a buddsoddwyr fel ei gilydd yn ystod 2020 ond daeth y flwyddyn i ben ar nodyn cadarnhaol, a chwblhawyd chwe chytundeb â chymorth yn ystod chwarter olaf y flwyddyn.  Mae’r cynnydd hwn yng ngweithgaredd y Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru yn dangos apêl buddsoddi ‘syndicad’ i angylion buddsoddi yn gyffredinol.

“Mae’r buddiannau a geir yn sgil rhannu risg a gwybodaeth â chyd-fuddsoddwyr sydd â’r un meddylfryd yn strategaeth ddeniadol i lawer o angylion yng Nghymru, ac yn bendant wedi dylanwadu ar benderfyniadau angylion buddsoddi yn ddiweddar.

Mae chwe ‘phrif’ fuddsoddwr newydd wdi’u penodi erbyn hyn, a rhai o’r prif sectorau a gaiff eu cefnogi yw technoleg ariannol, biotechnoleg, technoleg iechyd a TGCh, gyda phob un ohonynt yn gydnaws â strategaeth twf economaidd Llywodraeth Cymru.

“Wrth i fusnesau a buddsoddwyr yng Nghymru gynllunio i adfer o effaith y pandemig, disgwyliwn weld parhad yn nhueddiadau cadarnhaol yr angylion buddsoddi hyn. Mae digon o waith i’w wneud o hyd er mwyn datblygu ecosystem yr angylion yng Nghymru, ond yn sgil y twf sylweddol i’n carfan fuddsoddi Angylion Buddsoddi Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym yn teimlo’n optimistaidd y gwelwn lawer o gytundebau llwyddiannus yn 2021.”

Mae’r Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru sy’n werth £8 miliwn yn ffynhonnell allweddol o gyllid amgen i fusnesau Cymru ac yn annog mwy o fuddsoddiad gweithredol gan angylion. Mae’r gronfa pum mlynedd yn cefnogi’r broses o greu syndicadau a rhwydweithiau angylion ledled Cymru drwy ddarparu benthyciadau ac ecwiti hyd at £250,000 i fuddsoddwyr sy’n awyddus i gyd-fuddsoddi.

Tom Preene yw Rheolwr Gweithrediadau Angylion Buddsoddi Cymru.  Meddai: “Mae ein Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru ar gael i syndicadau o fuddsoddwyr sy’n edrych tuag at gyd-fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Caiff y syndicadau eu rheoli gan fuddsoddwyr arweiniol sydd wedi cael eu cymeradwyo’n flaenorol gan y Banc Datblygu ac rydym wrthi’n chwilio am fuddsoddwyr arweiniol newydd mewn sectorau allweddol i ymestyn cwmpas y gronfa.

“Mae gan bob un o’n buddsoddwyr fynediad at ein platfform buddsoddi pwrpasol ar-lein sy’n ddull defnyddiol iawn o baru buddsoddwyr â busnesau. Mae hefyd yn galluogi busnesau i lanlwytho gwybodaeth am gytundebau i’r platfform, gan eu harddangos yn uniongyrchol i unigolion gwerth-net-uchel cofrestredig yn ogystal â darparu ffynhonnell o gyfleoedd busnes hawdd a hygyrch i fuddsoddwyr ei hadolygu ar unrhyw adeg. Rydym yn sicr y bydd hyn yn parhau i chwarae rhan allweddol yn ystod 2021.”