
Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan W2 Global Data Solutions.
Mae W2, darparwr atebion a gwasanaethau meddalwedd SaaS, B2B heddiw wedi cyhoeddi ei fod wedi cwblhau rownd ariannu Cyfres A £3 miliwn gyda buddsoddiad gan fuddsodddwyr o Mercia Technologies PLC a Banc Datblygu Cymru.
Mae’r cyllid sylweddol hwn yn adeiladu ar flwyddyn eithriadol i W2, a welodd dwf cyflym mewn cleientaid, penodiadau gweithwyr allweddol a momentwm yn y farchnad mewn sectorau targed megis taliadau, betio a hapchwarae newydd.
Bydd y cyllid hwn yn helpu W2 i ehangu ei ymdrechion gwerthu a marchnata ymhellach ynghyd â lledaenu a chyflymu datblygiad cynhyrchion ac ymestyn ei gyrhaeddiad byd-eang.
Mae W2 yn cynnig i’w gwsmeriaid y gallu i symleiddio caffaeliad cwsmeriaid a rheoli risg rheoleiddiol trwy berfformio dilysiad hunaniaeth mewn amser gwirioneddol, archwiliadau gwrth-olchi arian a gwrth-dwyll yn erbyn defnyddwyr a chyrff corfforaethol ar lefel ryngwladol.
Mae’r cwmni yn targedu cwmnïau yn y gymuned reoledig, llywodraeth a busnes ar draws y byd, ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar werthu i’r marchnadoedd hapchwarae, taliadau a chyfnewidiadau tramor ar gontractau refeniw aml-flwyddyn.
Sylfaenwyd W2 yng Nghasnewydd gan y Prif Swyddog Gweithredol Warren Russell yn 2011 ar ôl profiad arwyddocaol yn y marchnadoedd gwrth-olchi arian, twyll a dilysu hunaniaeth.
Meddai Warren Russell, Prif Swyddog Gweithredol W2: “Gyda chymorth parhaus gan Mercia a Banc Datblygu Cymru, byddwn yn medru parhau i sefydlu ein lle fel chwaraewr allweddol byd-eang yn ein maes. Bydd y buddsoddiad pellach hwn yn ein galluogi i ehangu ein cynlluniau gwerthu rhyngwladol a thyfu ein tîm ymhellach i gefnogi ein busnes sy’n ehangu’n gyflym. Mae’n anrhydedd bod ein buddsoddwyr presennol yn ein cefnogi bob cam o’r ffordd.”
Meddai Julian Viggars, Prif Swyddog Buddsoddi gyda Mercia Technologies PLC: “Ar ôl cefnogi W2 yn wreiddiol drwy ein cronfeydd rheoledig, rydym wrth ein boddau yn parhau i gefnogi’r busnes a’i dîm rheoli profiadol iawn wrth iddo ddod yn un o’r Sêr diweddaraf i ymuno â’n portffolio buddsoddi uniongyrchol. Mae technoleg SaaS yn parhau i fod yn un o feysydd ffocws allweddol i Mercia ac rydym yn gweld potensial arwyddocaol i gyflenwi gwerth cyfranddalwyr dros y tymor canol wrth i W2 barhau i dyfu.”
Meddai Richard Thompson, Uwch Swyddog Gweithredol Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym wrth ein boddau yn cyd-fuddsoddi unwaith eto gyda Mercia yn y rownd ddiweddaraf hon i gefnogi Warren a’i dîm. Mae W2 wedi gwneud cynnydd eithriadol yn y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn eiddgar i weld beth fydd y cyllid hwn yn ei wneud i’r busnes. Gyda’r buddsoddiad hwn a’r gofynion cynyddol mewn cydymffurfedd reoleiddiol, mae W2 mewn sefyllfa dda i ddod yn chwaraewr arweiniol yn eu marchnad.”