Wesley clover a Banc Datblygu Cymru yn arwain buddsoddiad diweddaraf ar gyfer Codeherent

Carl-Griffiths
Rheolwr Cronfa Sbarduno Technoleg
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
codeherent

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Codeherent.

Mae'n bleser gan Codeherent gyhoeddi ei fod wedi cwblhau rownd ariannu gan godi £400,000. Mae hyder yn rhagolygon masnachol Codeherent wedi cael ei gymeradwyo gan danysgrifiadau a wnaed gan y buddsoddwyr gwreiddiol Wesley Clover, The Waterloo Foundation a Buddsoddwyr Angel. Mae'r Cwmni hefyd yn croesawu Banc Datblygu Cymru fel buddsoddwr ecwiti newydd.

Crëwr platfform meddalwedd greddfol yw Codeherent sy'n galluogi busnesau i reoli eu seilwaith cwmwl yn hyderus. Trwy ganoli cyfleusterau prosesu a storio cyfrifiaduron mewn canolfannau data, y gellir eu cyrchu ‘ar alw’, mae cyfrifiadura cwmwl yn caniatáu i sefydliadau osgoi’r costau ymlaen llaw sy’n gysylltiedig â chaffael seilwaith TG mewnol.

Bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn cyflymu datblygiad nodweddion delweddu a golygu cwmwl Codeherent. Gall busnesau sy’n defnyddio platfform Codeherent leihau costau cwmwl, cyflymu mabwysiadu cwmwl, a gwella diogelwch TG.

Dyfarnwyd buddsoddiad cychwynnol i Codeherent ar ôl graddio o The Alacrity Foundation, yr elusen addysgol o Gasnewydd sy'n creu cenhedlaeth o gwmnïau uwch-dechnoleg sydd â phencadlys yng Nghymru.

Mae busnesau yn gorfod cyflymu a gwella ansawdd meddalwedd yn gyson. Mae cyflwyno prosesau cyflymach, cydweithrediad agosach rhwng datblygwyr meddalwedd a gweithrediadau TG (GwDat), a thwf cyfrifiadura cwmwl i gyd wedi helpu i danio'r duedd hon.

Mae'r farchnad Cyfrifiadura Cwmwl, y rhagwelir iddo dyfu 17% yn 2020, wedi cael ei gyflwyno i'w gynulleidfa ehangaf erioed oherwydd Cofid-19 a'r cyfnod llwyrgloi rhyngwladol byd-eang sydd wedi sbarduno ffrwydriad yn y defnydd o gymwysiadau sy'n seiliedig ar gwmwl fel Zoom. Ac eto, er gwaethaf ei gyffredinrwydd ymysg y cyhoedd yn gyffredinol, mae Codeherent yn credu mai lleiafrif bach yn unig o fusnesau sy'n gwybod sut i wneud y mwyaf o botensial cwmwl oherwydd diffyg gwybodaeth a rennir am Seilwaith fel Cod (SfC). Rheoli seilwaith cyfrifiadurol gan ddefnyddio offer meddalwedd yw SfC.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Codeherent, Paul Sheehan: “Gyda phwyslais uwch ar feirniadaeth seilwaith technoleg rhagorol, dylai pob busnes allu cynyddu buddion Seilwaith fel Cod i gyflymu’r broses o ddarparu meddalwedd, lleihau costau, a gwella ansawdd y cynnyrch. P'un ai oherwydd bwlch sgiliau, diffyg gwybodaeth, neu anallu i'w ddefnyddio ar raddfa, mae angen i Seilwaith fel Cod gael ei wneud yn fwy hygyrch i groestoriad ehangach o'r gymuned fusnes. Rydym yn gyffrous ein bod yn lansio ein platfform i'r gofod hwnnw."

Dywedodd Dr Carl Griffiths, rheolwr cronfa sbarduno technoleg Banc Datblygu Cymru:

“Mae ein buddsoddiadau ecwiti sbarduno yn helpu i ddatgloi potensial cwmnïau technoleg cyffrous, sydd â photensial twf uchel. Ar adeg pan mae busnesau ledled y byd yn trawsnewid yn ddigidol i esblygu a chystadlu, mae Codeherent yn darparu sefydliad cwmwl datblygedig a datrysiad seilwaith. Mae’r buddsoddiad ecwiti hwn yn nodi ein hyder yng ngallu Codeherent i wneud gwahaniaeth sylweddol i fyd busnes wrth iddo fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio.”