Y cwmni Cysylltiadau Cyhoeddus (CC) tarfol, JournoLink, yn sicrhau buddsoddiad o £500k i ddarparu ateb CC fforddiadwy i bob busnes.

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
journolink

Mae JournoLink, y llwyfan CC sy'n darparu offer a gwasanaethau i helpu busnesau i ddal sylw'r cyfryngau, wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti o £500k dan arweiniad Banc Datblygu Cymru

Bydd y rownd ddiweddaraf o gyllid yn galluogi JournoLink i ddatblygu'r llwyfan ar-lein ymhellach a helpu i greu ateb CC hawdd a fforddiadwy ar gyfer busnesau o bob maint.

"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi denu cefnogaeth Banc Datblygu Cymru wrth arwain ein rownd fuddsoddi ddiweddaraf. Mae brand JournoLink wedi cael ei gydnabod fel y llwyfan dewisol i fusnesau bach ei ddefnyddio i gael eu newyddion ger bron y cyfryngau, ac erbyn hyn mae gennym y cyfle i ehangu ein cyrhaeddiad a chyflwyno technoleg sy'n arwain y farchnad i'r gwasanaeth tra'n cynnal ein pris cystadleuol ar yr un pryd," meddai Peter Ibbetson, Cyfarwyddwr a chyd-sylfaenydd JournoLink.

Bellach yn canolbwyntio ar wasanaethau'r llwyfan, y prisio a chyflwyno technoleg newydd, mae JournoLink yn bwriadu cael effaith darfol ar y farchnad cysylltiadau cyhoeddus a sefydlu ei hun fel arweinydd yn y diwydiant. Yn gyntaf oll, mae'r cwmni'n paratoi ar gyfer twf trwy ymestyn i Gaerdydd, lle mae'n agor swyddfa yng nghanol y ddinas ac fe fydd yn cyflogi aelodau newydd o staff.

Dywedodd y Swyddog Buddsoddi Technoleg yn y banc datblygu, Ann Casey: "Mae JournoLink wedi dod o hyd i fwlch yn y farchnad cysylltiadau cyhoeddus ac maent wedi cerfio busnes sydd eisoes yn llwyddiannus. Mae eu llwyfan yn gyfoes, yn hawdd ei ddefnyddio ac mae’n defnyddio technoleg arloesol er mwyn tynnu sylw at straeon eu cwsmeriaid. Rydym yn falch o allu eu helpu wrth iddynt ddatblygu eu technoleg ymhellach ac ehangu eu gwasanaethau cyhoeddus a chysylltiadau cyhoeddus fforddiadwy."

Wedi'i lansio yn 2014, mae JournoLink wedi cyd-gysylltu mwy na 4500 o fusnesau gyda dros 7000 o newyddiadurwyr yn chwilio am astudiaethau achos, sylwadau a llefarwyr. Bydd y buddsoddiad yn helpu i JournoLink gyrraedd a darparu ei wasanaethau i hyd yn oed mwy o fusnesau sy'n chwilio am gysylltiadau cyhoeddus hygyrch.

Mae'r newyddion buddsoddi yn dilyn penodiad Lisa Ashworth yn ddiweddar, sef cyn Brif Weithredwr Rhanbarth EMEA PR Newswire, fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar JournoLink.