Y Fenni yn nodi'r fan a'r lle i Xavier Rush

Nicola-Crocker
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
x-stream properties

Mae'r cyn chwaraewr i’r Crysau Duon a Chapten y Gleision Du Caerdydd Xavier Rush yn mynd i adnewyddu capel Pen Y Fal, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, yn Y Fenni i chwech o dai trefol o ansawdd uchel gyda chymorth benthyciad o £1.1 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru. 

Nid yw Xavier yn ddieithr i adeiladau rhestredig nac i eglwysi ychwaith, wedi iddo chwarae rhan gydag Eglwys Fethodistaidd Ffordd Albert ac Ysguboriau Gorllewin Aberthaw sy'n adeiladau rhestredig Gradd II a gafodd ei henwebu am wobr.

Sefydlodd Xavier X-Stream Properties Limited yn 2016 ar ôl iddo ymddeol o rygbi proffesiynol. Yn sgil ei brosiect diweddaraf gweddnewidiwyd Ysguboriau Gorllewin Aberthaw ganddo i eiddo modern a gafodd ei gaffael gan Orbis Education and Care, fel preswylfa ar gyfer oedolion awtistig.

Wedi'i leoli o fewn tir hen ysbyty Pen-y-Fal, bydd y capel Fictorianaidd ar Sycamore Avenue hardd yn y Fenni yn cael ei adnewyddu dros gyfnod o naw mis.

Esboniodd Xavier ei weledigaeth ar gyfer y prosiect: "Byddant yn cael eu rhannu dros dri llawr, ac fe fydd y chwe tŷ tref yn cael eu lleoli'n berffaith mewn parcdir hardd, ond eto, bydd yn llai na 5 munud o gerdded o dref farchnad brysur Y Fenni. Mae'n lleoliad gwych i gymudwyr gan fod gorsaf drenau gerllaw a mynediad cyflym at gysylltiadau ffordd gynradd. Gall y sawl sy'n hoff o fwyd hefyd fwynhau'r ŵyl fwyd sy’n rhyngwladol enwog ynghyd â rhai o'r bwytai gorau yng Nghymru!"

"Bydd y benthyciad gan y banc datblygu yn ein galluogi ni i anadlu bywyd newydd i'r capel gan weithio yn unol â’r fanyleb uchaf; byddwn yn creu llety sy'n rhagori ar ddisgwyliadau'r prynwyr mwyaf gwybodus.

"Yr hyn sy'n wych yw bod y broses o wneud penderfyniad ar y benthyciad wedi bod yn gyflym iawn ac yn syml ac rydym wedi cael cymorth swyddog datblygu eiddo ymroddedig i sicrhau bod y cyllid wedi'i deilwra i ddiwallu ein hanghenion penodol ni. Ni allem fod wedi gofyn am fwy."

Nicola Crocker yw'r swyddog datblygu eiddo gyda'r banc datblygu sydd wedi bod yn gweithio gyda Xavier. Meddai: "Rydyn ni yma i helpu datblygwyr bach a chanolig i gael effaith fawr ar draws Cymru. Gweledigaeth Xavier yw creu mannau byw unigryw mewn lleoliadau dymunol a gyda gobaith bydd hwn yn un ymysg nifer o ddatblygiadau tebyg i Xavier. Yr oeddem yn awyddus iawn i gefnogi ei ddatblygiad diweddaraf o ystyried atyniad y Fenni ac apêl yr eiddo sy'n cael eu creu. Bydd y cyfnod datblygu byr yn ein galluogi i ailgylchu'r cronfeydd i gyfleoedd datblygu pellach yng Nghymru."

Ariennir Cronfa Eiddo Cymru gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnig benthyciadau eiddo masnachol tymor byr o £150,000 i £4 miliwn ar gyfer datblygiadau preswyl a defnydd cymysg. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am fenthyciad datblygu eiddo ewch i weld developmentbank.wales/get-business-finance/property-development-loans i ganfod mwy.