Y Wild Water Group yn arwyddo cytundeb cynghreiriol gyda chwmni logisteg blaenllaw sy'n gweithredu ledled y byd

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
wild water group and gac

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Wild Water Group.

Mae'r Wild Water Group, cwmni storio a dosbarthu tymheredd mwyaf pwrpasol De Cymru, wedi arwyddo cytundeb cynghreiriol gyda'r cawr cyflenwi logisteg byd-eang, GAC, i gefnogi gofynion anfon nwyddau rhyngwladol y Wild Water Group o fis Ionawr 2019.

Cafodd y cytundeb hwn ei arwyddo wedi i'r Wild Water Group brynu adeilad 130,000 troedfedd sgwâr ar safle 12 erw yn Aberbargoed (Medi 2018), a fydd yn gallu creu hyd at 120 o swyddi newydd ar draws  meysydd rheoli, goruchwylio, mewn warysau ac mewn rolau prentisiaeth.

Cafodd y pryniant hwn ei ariannu trwy gyfrwng Bancio Masnachol Banc Lloyds a Banc Datblygu Cymru, ac fe'i cefnogir gyda chyllid ariannu Llywodraeth Cymru o dan y contract economaidd newydd.

Y cytundeb cynghreiriol hwn a  gafodd ei negodi gyda GAC oedd y cam hanfodol nesaf yng nghynllun strategol y Wild Water Group i hyrwyddo cyfleoedd mewnforio ac allforio rhyngwladol i'w cwsmeriaid, yn ôl y Rheolwr Gyfarwyddwr, Ken Rattenbury.

"Ar ôl sicrhau safle Aberbargoed, y cam rhesymegol nesaf yn ein cynllun ehangu oedd cysylltu ein hunain â chwmni logisteg blaenllaw sy'n gweithredu ledled y byd sydd â'r arbenigedd i ategu ein hamcanion busnes hirdymor.

"Mae gan GAC y 'pedigri' hwnnw ac rydym yn hynod gyffrous ein bod wedi llofnodi cytundeb gyda chwmni byd-eang mor bwysig.

"Fel un o lawer o 'Gyd-grynwyr bwyd' yn y DU, rydym eisoes yn pacio cynwysyddion ar ran ein cwsmeriaid ac yn eu hallforio i wledydd mor bell â Seland Newydd a Siapan, neu ar draws y sianel i Sbaen yn Ewrop, felly rydym yn ymwybodol o'r cymhlethdodau niferus sy'n ymwneud â symud nwyddau yn eu blaen.

"Ac wrth i ni gael ein gweld yn gynyddol fel partner strategol allweddol ar gyfer y sector bwyd yng Nghymru, yn ogystal â chwmnïau bwyd rhanbarthol a byd-eang eraill, rydym am iddynt deimlo'n ddiogel bod yr hyn yr ydym yn ei gynnig fel gwasanaeth pwrpasol ar draws ein 5 is-gwmni yn cael ei gefnogi gan sefydliad sefydledig megis GAC."

Cred Mr Mark Horton, Rheolwr Cyffredinol Gwasanaethau Cludiant GAC UK, fod y cyfuniad o seilwaith lleol y Wild Water Group, cyrhaeddiad byd-eang Grŵp GAC a gwybodaeth arbenigol braich Gwasanaethau Amser Critigol GAC UK yn rysáit ar gyfer llwyddiant.

"Fel un o nifer o 'Gyd-grynwyr bwyd' yn y DU, rydym eisoes yn pecynnu buddion cleientiaid o ganlyniad i gynghreiriau cryf a hir sefydledig  gyda chludwyr mawr drwy’r awyr a thros cefnforoedd yn ogystal â chael mynediad i'n rhwydwaith aml-ddull a'r arbedion cost cysylltiedig. Ac mae ein hachrediad Gweithredwr Economaidd Awdurdodedig (GEA) yn cadarnhau ein bod yn meddu ar yr hyn sydd ei angen i ddarparu cefnogaeth tollau a dogfennaeth sy'n gyflym ac effeithlon.

"Mae'r bartneriaeth Wild Water Group - GAC yn cynnig gwasanaethau cadwyn oer gwirioneddol o un pen i'r llall ddau ddeg pedwar awr y dydd, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y Dwyrain Canol. Mae Grŵp GAC wedi bod yn weithgar ers dros 60 mlynedd yn y Dwyrain Canol, lle mae wedi datblygu adnoddau logisteg helaeth gan gynnwys warysau cadwyni oer ac awyrgylchol. Mae'r seilwaith hwnnw'n addas iawn i wasanaethu cwsmeriaid y Wild Water Group, cwsmeriaid sy'n bodoli'n barod a darpar rai."

Mae'r ffigur busnes adnabyddus, Nigel Payne, sy'n gyfarwyddwr anweithredol i'r bwrdd cynghori, yn dweud ei fod yn gweld cyfle enfawr i'r Wild Water Group nawr bod y cytundeb hwn yn ei le gyda GAC.

"Mae'r sector Bwyd a Diod bellach wedi ei nodi gan Lywodraeth Cymru fel sector sefydledig ac yn un o yrwyr economaidd allweddol ein heconomi.

"Y llynedd, cynyddodd allforion o Gymru yn y sector hwn 20%, a'r Almaen yw'r farchnad dderbyn fwyaf ar gyfer Cynhyrchion Cymru. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 9.5% ar gyfer y DU yn gyffredinol dros yr un cyfnod.

"Felly, mae'n holl bwysig ein bod ni yn y Wild Water Group yn cefnogi mentrau llywodraeth Cymru ac yn arbennig masnach allforio Cymru yn y sector hwn."

Ychwanegodd, "Bydd cynnig gwasanaeth mewnforio ac allforio'r Wild Water Group Grŵp gyda GAC yn fuddiol i'r ddwy ochr ar sawl lefel yn y diwydiant ac yn agor cyfleoedd ar y farchnad ranbarthol a rhyngwladol.

"Mae ein cynghrair yn darparu cysylltiad agos â chludwyr hedfan mawr megis Qatar Airways, sydd eisoes wedi gweld potensial maes awyr Rhyngwladol Caerdydd fel prif ganolfan teithwyr a nwyddau.

"Mae hefyd yn creu cyfle i gysylltu â gweithredwyr storfeydd oer eraill ledled y byd ac i geisio trafod cytundebau masnach cyfatebol."