Y Wild Water Group yn cefnogi cludiant cynnyrch llaeth Calon Wen i Doha

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
wild water

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Wild Water Group.

Mae Calon Wen, prif gyflenwr Cymru o Gynhyrchion Llaeth Organig, wedi cyhoeddi bod eu cynhyrchion allforio yn mynd i gael eu cludo am y tro cyntaf i ddosbarthwr yn Doha, Qatar, ac maent wedi dewis y Wild Water Group i ddarparu atebion storio a dosbarthu cynnyrch oer o un pen i'r daith i’r llall, gan ddefnyddio cadwyn gyflenwi integredig y cwmni ar draws eu his-gwmnïau warysu, cyd-becynnu a chludiant.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer danfon nwyddau trwy gynghrair y Wild Water Group gyda'r arbenigwyr logisteg cludo nwyddau byd-eang, y GAC Group, sydd wedi bod yn weithgar yn y Dwyrain Canol ers dros 60 mlynedd ac wedi datblygu perthynas hir sefydledig gyda chwmnïau hedfan mawr, megis Qatar Air.

Bellach mae grŵp cydweithredol Calon Wen, sy'n cynnwys 20 o ffermwyr llaeth organig ac sy'n cyflenwi archfarchnadoedd blaenllaw megis Tesco, Morrisons a Waitrose, eisoes yn gyfarwydd â masnach ryngwladol, ar ôl iddynt ddechrau allforio i Asia a gwledydd eraill y Dwyrain Canol ddwy flynedd yn ôl.

Meddai Stuart McNally, Rheolwr Gwerthiannau a Datblygu Busnes gyda Calon Wen, "Er ein bod ni eisoes mewn sefyllfa dda mewn gwledydd eraill yn y Dwyrain Canol, mae Qatar yn sianel ddosbarthu hollol newydd i ni. Fodd bynnag, mae ein hymchwil marchnad wedi nodi potensial galw ffigyrau dwbl ar gyfer cynhyrchion organig ac felly rydym yn gyffrous iawn ynghylch y rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

"Rydyn ni'n delio â chynhyrchion sy'n sensitif i dymheredd," ychwanegodd, "ac felly mae'n holl bwysig, er enghraifft, nad yw ein menyn organig yn cael ei gynhesu ar unrhyw adeg ar hyd y gadwyn gyflenwi. Mae angen ei gadw ar dymheredd cyson ar gyfer y daith gyfan - o'n cyfleusterau cynhyrchu ar draws Cymru i eiddo ein dosbarthwyr yn Doha.

“Rydyn ni'n credu bod seilwaith lleol y Wild Water Group sy'n tyfu'n gynyddol ynghyd â'u galluoedd storio pwrpasol, a hefyd gallu ym maes cludiant blaenyrru nwyddau a logisteg arbenigol byd-eang y GAC Group, yn enwedig o fewn y Dwyrain Canol, yn taro'r meini prawf cywir i gael eu dethol. Roeddem yn chwilio am 'siop un stop' ac rydym yn awr yn hyderus y bydd y ddau gwmni ar y cyd yn darparu ar gyfer cludo cynhyrchion Calon Wen i'w cyrchfan olaf yn Doha."

Meddai Ken Rattenbury, Rheolwr Gyfarwyddwr y Wild Water Group, "Mae cael y brand Cymreig, Calon Wen, fel ein harcheb allforio bwyd cyntaf i Doha yn wirioneddol arbennig. Mae'r prosiect hwn yn tynnu sylw at ac yn amlygu'r gwir werth sy'n cael ei gynnig i'n cwsmeriaid allforio, sef ein cynghrair gyda'r GAC Group a'u perthnasau hirdymor gyda chwmnïau hedfan a chludwyr llongau mawr.

"Gall y Wild Water Group yn awr gynnig gwasanaeth cadwyn oer byd-eang o un pen i'r daith i’r llall i gwsmeriaid, yn ogystal â chynnig y cyfle i gysylltu â gweithredwyr storfeydd oer eraill ar hyd a lled y byd er mwyn ceisio trafod cytundebau masnach cyfatebol. Rydym wir eisiau dymuno pob lwc i Calon Wen gyda'u menter allforio newydd." 

Bydd y Wild Water Group a'r GAC Group yn proffilio eu datrysiad allforio allwedd-dro i bobl sy'n mynychu digwyddiad Blas Cymru yn y Celtic Manor ar yr 20fed a'r 21ain o Fawrth 2019.