Yimba yn codi rownd ychwanegol o fuddsoddiad cyn lansiad marchnad y DU a chyhoeddi partneriaeth strategol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
yimba

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Yimba.

Mae'r busnes newydd ddechrau sy'n seiliedig yng Nghymru, Yimba, megis platfform amlgyfrwng a marchnata sy'n gwella integreiddiadau waledi digidol bancio, wedi cwblhau rownd bont o gyllid gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru a grŵp o fuddsoddwyr preifat. Bydd y cyllid newydd hwn yn cefnogi integreiddiadau rhwydwaith a banciau uniongyrchol Yimba yn ogystal â chyflymu datblygiad nodweddion cenhedlaeth nesaf i’w blatfform craidd.

Dywedodd Robert Dowd, Prif Weithredwr a Chyd-sylfaenydd Yimba:

“Mae Banc Datblygu Cymru wedi bod gyda ni o’r dechrau ac mae eu cefnogaeth barhaus fel partner a buddsoddwr ecwiti nid yn unig yn ardystiad o’n model busnes ond hefyd i gyfeiriad strategol y cwmni. Caniataodd eu buddsoddiad sbarduno i ni greu platfform technoleg cwbl weithredol a bydd y cyllid ychwanegol hwn yn ein galluogi i gyflawni sawl gwelliant platfform sylweddol, cefnogi cysylltedd rhwydwaith a banciau ychwanegol yn ogystal â sbarduno twf pellach yn y busnes”.

Mae Yimba yn blatfform technoleg meddalwedd arloesol sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n gwella cysylltiadau Banc presennol ag Apple Pay, Samsung Pay a Google Pay. Mae cynhyrchion a gwasanaethau'r cwmni gan gynnwys CRM, CMS a Gwasanaethau Marchnata yn unigryw yn yr ystyr eu bod yn cael eu darparu trwy system yn y cwmwl ac wedi'u hintegreiddio'n uniongyrchol ar draws y rhwydwaith taliadau perchnogol.

Ar ôl mynd i’r afael â’r heriau o fewn yr ecosystem daliadau, mae diwydiant wedi croesawu cynnig Yimba ac mae mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y twf yn y defnydd o waledi digidol.

Ychwanegodd David Blake, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru:

“Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi Yimba ymhellach gyda'r rownd ddiweddaraf hon o gyllid ecwiti. Mae eu platfform yn helpu defnyddwyr i ymgysylltu â chynhyrchion bancio digidol trwy wella profiad y cwsmer o unrhyw waled ddigidol. Bydd y pecyn cyllido diweddaraf hwn yn eu cefnogi i gynyddu a masnacheiddio ymhellach y darn arloesol hwn o FinTech. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cam nesaf yn eu taith twf fel partneriaid tymor hir.”

I gysylltu â thîm Yimba i gael trafodaeth neu gyflwyniad archwiliadol ewch i weld www.yimba.com