Ymddiriedolaeth y GIG yn ymuno â phlatfform Conversant

Tom-Rook
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
patrick copping

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Conversant Technology.

Mae Conversant Technology o Gwmbrân wedi ennill contract gydag Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Swydd Caergrawnt a Peterborough i wella llwyfannau cyfathrebu ar draws y Tîm Ymateb Cyntaf iechyd meddwl a Hybiau Gweinyddol.

Sefydlwyd Conversant yn 2015 fel darparwr platfform SaaS ac mae bellach yn ddarparwr gwasanaethau llais a chymwysiadau llais sy'n tyfu gyflymaf gan weithio'n frodorol â Microsoft Teams. Bydd y cwmni nawr yn cyflwyno nodweddion Llais ar gyfer Teams, Recordio Galwadau, a Chanolfan Gyswllt ar gyfer Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG, sy'n cyflogi tua 4,000 o staff ac yn cefnogi dros filiwn o bobl gyda gwasanaethau iechyd meddwl.

Dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr, Patrick Copping, mae Conversant yn arbenigo mewn darparu datrysiadau Cyfathrebu Unedig cwbl integredig i gwsmeriaid a phartneriaid. Fe wnaeth y cwmni elwa o becyn benthyciad ac ecwiti ar y cyd gwerth £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru ac un o is-gwmnïau Tata Steel,  UK Steel Enterprise, yn 2018.

Meddai Patrick Copping, Rheolwr Gyfarwyddwr Conversant Technology: “Mae cyfathrebu o fewn y GIG yn bwysicach nag erioed ac rydym yn falch o gael ein dewis i gefnogi Ymddiriedolaeth Sefydledig  y GIG Swydd Caergrawnt a Peterborough gyda’u dull gweithredu hirdymor i wella eu systemau telathrebu.”

“Mae ein cynnig yn bwerus a chyflawn, gan gynnig siop un stop i’n cwsmeriaid gyflymu eu strategaethau Cyfathrebu Unedig drwy MS Teams. Bydd ein gwasanaeth Llwybro Uniongyrchol yn caniatáu i aelodau o’r Tîm Ymateb Cyntaf a Hybiau Gweinyddol weithredu mewn amgylchedd diogel drwy weithio o bell mewn ffordd ystwyth a hyblyg. Bydd ein Canolfan Gyswllt ar gyfer datrysiadau Teams wedyn yn galluogi cyfathrebu a chynhyrchu ystadegau mwy effeithlon, gan gynnwys cyfeirio galwadau at yr aelod gorau o’r tîm, ac adrodd a recordio pob galwad mewn amser real.”

Meddai Tom Rook o Fanc Datblygu Cymru: “Mae Conversant yn ddarparwr telathrebu gyda nod pendant – buddsoddi mewn technoleg a phobl er mwyn datblygu’n barhaus ei gynnig i gwsmeriaid sy’n defnyddio MS Teams i wella cyfathrebu”

“Mae’r contract newydd hwn gydag Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Swydd Caergrawnt a Peterborough yn cadarnhau cryfder eu cynnig yn y farchnad a chyflawnder eu datrysiad mewn amgylcheddau cymhleth a heriol. Mae hefyd yn arbennig o braf  gweld yr effaith y bydd Conversant yn ei chael ar wasanaethau iechyd meddwl mewn cyfnod mor anodd i gynifer o bobl sy’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl o ganlyniad i Covid-19.”