Diweddariad pwysig: mae angen cwblhau pob cais erbyn 9am 18 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darganfod mwy.

Ymgynghoriaeth amgylcheddol newydd yn anelu at ddiogelu ein dyfodol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Sentinel

Mae micro fenthyciad micro gan Fanc Datblygu Cymru wedi galluogi'r arbenigwyr amgylcheddol Daniel Roberts a Luke Jones i uno eu harbenigedd a lansio Sentinel Environmental Consultancy Limited.

Gyda swyddfeydd yn Yr Wyddgrug a Wrecsam, bydd Sentinel yn darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer monitro asbestos a radon i sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012 ac IRR99. Mae hyn yn cynnwys cynnal arolygon asbestos; monitro aer, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth ar draws ystod eang o sectorau gan gynnwys y sectorau preswyl, diwydiant ac addysg.

Dywedodd Heather Abrahams, Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru bod gan y pâr hanes cryf o weithio ar gyfer ymgynghoriaethau amgylcheddol mawr: "Mae Daniel a Luke yn elwa ar gymwysterau rhagorol a gwybodaeth fusnes gadarn. Maent wedi dangos eu gallu i gynhyrchu refeniw ac erbyn hyn mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol i ddarparu gwasanaeth arbenigol sy'n rhoi hyblygrwydd a gwerth am arian i gleientiaid ar draws Gogledd Cymru. Roedden nhw'n gweddu yn ddelfrydol ar gyfer ein cronfa micro fenthyciadau sy'n cynnig benthyciadau o £1,000 i £50,000."

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Daniel Roberts: "A ninnau wedi gweithio gyda'n gilydd yn flaenorol, mae Luke a minnau'n rhannu’r un ymrwymiad cadarn tuag at ddatblygu busnes sy'n canolbwyntio ar ansawdd y gwasanaeth a gofal cwsmeriaid. Mae'r benthyciad hwn gan y banc datblygu yn golygu ein bod eisoes yn brysur yn gweithio gyda chwsmeriaid i ddiogelu ein dyfodol; gan gynghori ar weithdrefnau, polisïau a dogfennau yn unol â rheoliadau'r llywodraeth a chodau ymarfer cymeradwy. Mae’r diolch wirioneddol am yr ymagwedd 'gallwn wneud hyn' sydd gan yr arbenigwyr buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru a dyna pam rydym wedi llwyddo i gael y busnes oddi ar y ddaear."

Gyda phrofiad helaeth o'r diwydiant, mae Daniel a Luke yn meddu ar bob Ardystiad BOHS sy'n berthnasol i'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt, gan gynnwys BOHS P401, P402, P403, P404, P405 a P406. Mae gan Daniel hefyd Dystysgrif Cymhwysedd BOHS mewn Asbestos.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Cronfa Fenthyciadau Micro Fusnes Cymru wedi buddsoddi mewn 390 o fusnesau newydd a busnesau sefydledig dros y pum mlynedd ddiwethaf; gan ddiogelu neu greu rhyw 2000 o swyddi ar hyd a lled Cymru. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae'r gronfa wedi cynyddu o £6 miliwn i £18 miliwn yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am Sentinel yn www.sentinelenvironmental.co.uk