YnNi Teg yn sicrhau hat-tric gan Fanc Datblygu Cymru i bweru ynni adnewyddadwy yng Ngheredigion

Nicola-Griffiths
Uwch Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Technoleg busnesau
Ariannu
Cynaliadwyedd
YnNi Teg

Mae Banc Datblygu Cymru yn rhan-ariannu trydydd prosiect ynni adnewyddadwy ar gyfer y datblygwr ynni cymunedol YnNi Teg gyda benthyciad o £412,000 ar gyfer Tyrbin Gwynt Penrhiw Fach ger Aberaeron, Ceredigion.

Disgwylir i Dyrbin Gwynt Penrhiw 900KW ddechrau cynhyrchu ynni glân eleni (2026), a bydd yn cynhyrchu ynni glân i bweru 750 o gartrefi bob blwyddyn a thorri 9,750 tunnell o CO₂ dros ei oes o 25 mlynedd. Mae'r tyrbin wedi'i ailgylchu o safle yn yr Almaen ac wedi'i adnewyddu'n llwyr gan Renewables Facilities Management, cwmni arbenigol wedi'i leoli yn Ne Cymru a fydd hefyd yn gosod y tyrbin.        

Mae YnNi Teg hefyd wedi lansio cynnig cyfranddaliadau cymunedol, gan wahodd pobl leol i ddod yn berchnogion ynni gan anelu at elw blynyddol o 6%. Mae hyn yn ogystal â chronni o leiaf £250,000 i'w cronfa gymunedol leol.

Y benthyciad ar gyfer Penrhiw Fach yw'r trydydd buddsoddiad gan y Banc Datblygu ar gyfer YnNi Teg. Wedi'i sefydlu yn 2018, mae Tyrbin Gwynt Geraint Gwynt yn Sir Gaerfyrddin bellach wedi'i baru â fferm solar Bwlchgwynt, gan ei wneud yn safle cyd-gynhyrchu cymunedol cyntaf Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r tyrbin gwynt 900KW a'r arae ffotofoltäig solar 575kW yn pweru mwy na 1,000 o gartrefi, gan arbed 1,850 tunnell o CO2 yn flynyddol, a chynhyrchu £260,000 ar gyfer mentrau cymunedol.

Cafodd y safle ei ariannu'n rhannol gan fenthyciad o £1.3 miliwn ar gyfer Tyrbin Gwynt Geraint Gwynt yn 2017 gan y Banc Datblygu (a elwid yn Cyllid Cymru ar y pryd). Yna cafodd fferm solar Bwlchgwynt ei hariannu'n rhannol gan fenthyciad o £222,000 gan y Banc Datblygu ym mis Mawrth 2024.

Meddai Jon Townend, Cyfarwyddwr Gweithredol YnNi Teg: “Rydym wedi ymrwymo i helpu i gyflawni dyfodol ynni carbon isel a chost isel gan gynhyrchu asedau sy’n eiddo i Gymru, fel y gall y manteision economaidd lifo’n uniongyrchol i deuluoedd, busnesau a chymunedau Cymru.

Mae cefnogaeth y Banc Datblygu yn golygu ein bod yn gyrru camau gweithredu amgylcheddol cadarnhaol ac yn helpu i adeiladu economi wydn. Yn fwy na hynny, gall pobl leol elwa o lansio ein cynnig cyfranddaliadau sy'n rhoi'r cyfle iddynt gymryd perchnogaeth o'u hanghenion ynni. Bydd yn talu difidendau nid yn unig i'r rhai sy'n buddsoddi, ond i Gymru a'r blaned.”

Dywedodd Nicola Griffiths o’r Banc Datblygu: “Mae YnNi Teg wedi profi llwyddiant wrth gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy cynaliadwy, sy’n eiddo i’r gymuned, sy’n cynyddu cynhyrchiant cymunedol, wrth greu Cymru fwy gwydn. O dan fodel YnNi Teg, mae pob punt a fuddsoddir o fudd i Gymru, gan greu effaith lluosogydd sy’n cryfhau economïau lleol wrth adeiladu annibyniaeth ynni.

“Rydym yn falch o fod yn ariannu datblygiad prosiectau ynni cymunedol sy’n cyfrannu at ein dyfodol carbon isel ac yn dod â manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd hirdymor i gymunedau lleol ledled Cymru.”

Mae’r benthyciad o £412,000 ar gyfer Tyrbin Gwynt Penrhiw Fach o'r Gronfa Ynni Lleol sy'n cael ei rheoli gan y Banc Datblygu. Darperir y cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy'r gyfarwyddiaeth newid hinsawdd, ynni a chynllunio. Mae'n darparu buddsoddiad o hyd at £2 filiwn i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy bach sy'n methu â chael mynediad at gyllid masnachol. Mae telerau hyd at 20 mlynedd ar gael.