Yr hyn mae busnesau Cymru yn ei wneud i oroesi a ffynnu wrth symud yn raddol o'r cyfnod llwyrgloi

Rhian-Elston
Cyfarwyddwr Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
dylan's

Mae Pandemig Cofid 19 wedi creu heriau i'r economi fyd-eang. Yn sgil cyflwyno mesurau hanfodol i ffrwyno lledaeniad coronafirws, cyflwynwyd mesurau llwyrgloi ar draws y DU ar y 23ain o Fawrth. Bu'n rhaid i fusnesau Cymru archwilio ffyrdd newydd o barhau i fasnachu. Mae ffigurau diweddar FfBB Cymru yn dangos, er bod hanner y busnesau bach wedi cau pan gyhoeddwyd y cyfnod llwyrgloi, fe wnaeth y gweddill barhau i weithio. Mae llawer wedi gweithio o bell, gyda busnesau eraill yn gwneud newidiadau corfforol i siopau a swyddfeydd neu'n cyflwyno gwasanaethau cludo / tecawê a dosbarthu newydd.

Yng Nghymru, mae cwmnïau wedi cael cefnogaeth Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru trwy gynlluniau grantiau a benthyciadau presennol, gostyngiadau mewn cyfraddau busnes a grantiau, a thrwy Gynllun Benthyciadau Busnes Cofid-19 Cymru (CBBC) gwerth £100 miliwn. Mae CBBC wedi profi i fod yn achubiaeth bwysig i lawer. Erbyn y 5ed o Fehefin, roedd y Banc Datblygu wedi rhoi benthyg £77.8 miliwn i dros 1,200 o fusnesau yng Nghymru. Mae nifer sylweddol wedi cymryd y gefnogaeth a gynigiwyd gan y llywodraeth, gan gynnwys y gefnogaeth a gynigir trwy gyfrwng Cronfa Cydnerthedd Economaidd Cymru.

Wrth i gyfyngiadau godi, mae'n rhaid i fusnesau Cymru archwilio beth fydd eu 'normal newydd' a pha gefnogaeth sydd ar gael i helpu i ddiwallu hynny.

Cynhaliodd FfBB Cymru arolwg rhwng 23 a 30 Ebrill eleni. Mae'r canlyniadau'n dangos bod y cyfnod llwyrgloi wedi arwain at lawer o fusnesau yn newid sut maen nhw'n gweithio yn ddramatig, gan ddefnyddio technoleg yn aml i wneud hyn. Mae dau ddeg dau y cant wedi symud i weithio gartref a gweithio o bell erbyn canol y broses llwyrgloi, gydag 20% yn defnyddio technolegau digidol fel Zoom a Microsoft Teams i gefnogi hyn. Nododd cwmnïau hefyd newidiadau ac arallgyfeirio o ran y ffordd y maent yn gweithredu ac yn rhyngweithio â chwsmeriaid, gwnaeth 11% newidiadau corfforol i'w hadeiladau i ddilyn rheolau pellhau cymdeithasol newydd gyda 17.5% yn symud ar-lein am y tro cyntaf i gynnig cynhyrchion neu wasanaethau. Mae'r FfBB yn disgwyl y bydd angen i fwy o fusnesau wneud newidiadau corfforol a chyflwyno mwy o gyfleoedd i weithio o bell wrth i'r pandemig barhau.

Mae dau o gwsmeriaid Banc Datblygu Cymru sydd wedi gwneud newidiadau i'r ffordd y maent yn gweithredu yn cynnwys La Crème Patisserie a Bwytai Dylan.

Gwelodd La Crème Patisserie fwyafrif eu cadwyn gyflenwi draddodiadol yn edwino wrth i'w cwsmeriaid busnes gael eu gorfodi i ganslo digwyddiad ar ôl y digwyddiad. Fe benderfynon nhw arallgyfeirio eu busnes trwy gynnig gwasanaeth dosbarthu cacennau, te prynhawn, pwdinau, bara byr a brownis. Gellir prynu'r rhain trwy adran siopa newydd ar eu gwefan - www.lacremepatisserie.co.uk

“Fel rheol, dyma un o'n hadegau prysuraf o'r flwyddyn, pan fyddwn i'n cyflenwi digwyddiadau fel yr Henley Regatta, y Criced yn Lord's a lleoliadau fel Gerddi Kew a Thŵr Llundain, ond gyda'r pandemig yn cael ei ddatgan ym mis Mawrth, mae bron pob un o'r rhain wedi gorfod canslo neu gau eu drysau,” esboniodd Sian Hindle, Rheolwr Gyfarwyddwr La Crème Patisserie.

“Rydyn ni wedi dechrau cynnig ein cacennau moethus a the prynhawn i'w danfon ar-lein. Yn ystod ein hwythnos gyntaf cawsom werth dros £7,000 o archebion. Mae busnes wedi bod yn rhagorol. Er ein bod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i normal pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny, rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cynnig gwasanaeth newydd a chyrraedd cwsmeriaid newydd trwy gyfrwng gwerthiannau ar-lein. Mae llawer o fusnesau yn anfon anrhegion at staff a chleientiaid er mwyn cadw cysylltiad.”

Caeodd Dylan’s eu drysau ar Fawrth yr 20fed, gan ailagor eu safle cyntaf ar gyfer tecawê saith wythnos yn ddiweddarach.

“Mae'r help rydyn ni wedi'i gael gan y Banc Datblygu wedi bod yn wych. Roedd gallu cael gafael ar gymorth ariannol trwy CBBC yn hanfodol i’n helpu i ddal ati fel busnes ” meddai David Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Dylan's.

“Fe wnaethon ni benderfynu cau pob un o'n bwytai pan gyhoeddwyd y cyfnod llwyrgloi, gan roi unrhyw gyflenwadau bwyd a fyddai'n mynd yn wastraff i fanciau bwyd lleol. Rydw i a’r tîm yn Dylan’s wedi chwarae ein rhan wrth helpu i fwydo staff rheng flaen y GIG, pobl ddigartref, a’r rheini sydd ar y rhestr gysgodi dros yr ychydig fisoedd diwethaf o dan y prosiect Neges hefo Menter Môn. Wrth i ni weithio, fe wnaetho' ni edrych ar ffyrdd y gallem ail agor ein bwytai mewn ffordd ddiogel. Mae ein bwyty yn Borth bellach ar agor bob dydd o'r wythnos ar gyfer tecawê / prydau ar glyd, ac mae nifer o'n bwytai eraill hefyd yn mynd i agor. Rydym yn edrych ar ffyrdd y gallwn addasu ein lleoliadau i ganiatáu i gwsmeriaid ddod yn ôl yn ddiogel wrth i'r cyfyngiadau lacio'r haf hwn."

Dywedodd Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Banc Datblygu Cymru: “Rydyn ni wedi clywed rhai straeon anhygoel am gydnerthedd a dyfeisgarwch gan ein cwsmeriaid trwy gydol y broses llwyrgloi. ‘Does dim amheuaeth y bydd y pandemig yn arwain at rai newidiadau parhaol i'r ffordd yr ydym yn gweithio a bydd y busnesau sy'n rhagweld ac yn ymateb i'r newidiadau hyn mewn sefyllfa dda ar gyfer twf yn y dyfodol. Dangosodd yr arolwg hefyd fod bron i chwarter y busnesau wedi rhoi’r gorau i ddatblygu cynnyrch er mwyn cadw llif arian. Mae hyn yn ddealladwy fel ymateb yn y fan a'r lle, ond rydym yn awyddus i gefnogi dychweliad y buddsoddiad hwn i sicrhau bod busnesau'n gallu addasu a thyfu.

“Mae ein staff wedi bod yn gweithio’n ddiflino i gynnig cefnogaeth i fusnesau Cymru ac mae’n hynod o werth chweil clywed eu stori a’r effaith ehangach maen nhw wedi’i chael.”

Dywedodd Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol FfBB Cymru: “Rydyn ni wedi clywed rhai straeon ysbrydoledig am fusnesau sydd wedi arallgyfeirio er mwyn llywio drwy’r pandemig. Nid yn unig y mae cwmnïau wedi arallgyfeirio i oroesi, maent hefyd yn helpu i gefnogi eu cymunedau trwy gynnig pethau fel danfon nwyddau, sy'n helpu'r rhai na allant siopa y tu allan i'r cartref, datblygu glanweithydd dwylo ar gyfer cartrefi gofal Cymru ac ymateb i'r her o ddarparu Offer Diogelwch Personol hanfodol.

“Yr allwedd i allu cwmni i arloesi ac arallgyfeirio ar hyn o bryd yw bod cefnogaeth y llywodraeth yn rhoi amser a lle i fusnes gynllunio ar gyfer sut y gallant newid eu dull busnes arferol. Rydym wedi bod yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn dylanwadu ar y Gronfa Cydnerthedd Economaidd a byddem yn annog unrhyw gwmnïau nad ydynt eto wedi cymhwyso ar gyfer y cynllun i roi cynnig ar yr offeryn cymhwysedd eto ganol mis Mehefin, oherwydd mae meini prawf ail gam y gronfa wedi newid yn dilyn llawer o ymgyrchu gan y FfBB.

“Symudodd Banc Datblygu Cymru ar gyflymder gwirioneddol i ddarparu achubiaeth hanfodol trwy ei Gronfa Benthyciadau Cofid-19, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r Banc Datblygu wrth i ni gefnogi busnesau i oroesi’r achosion o coronafirws.”