Ysgrifennydd yr Economi yn agor cyfleuster newydd Creo Medical yng Nghas-gwent

Richard-Thompson
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Creo Medical

Bu Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yng Nghas-gwent i agor cyfleuster newydd cwmni lleol sy'n tyfu, Creo Medical, sydd wedi cyflogi 22 aelod newydd o staff yn ddiweddar.

Mae'r cwmni dyfeisiau meddygol yn arbenigo ym maes endosgopi llawfeddygol sy'n dod i'r amlwg, sy'n cynorthwyo llawdriniaethau sy’n aflonyddu cyn lleied â phosibl trwy ddefnyddio ynni microdon a thonnau radio.

Yn 2016 derbyniodd Creo Medical fuddsoddiad o £2 filiwn gan Cyllid Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru - sydd bellach wedi newid i Fanc Datblygu Cymru  ac sydd wedi helpu i sicrhau buddsoddiad o £20 filiwn, gan hwyluso creu 22 o swyddi o safon uchel sy'n cael eu talu'n dda. Yn ogystal â hynny, mae'r cwmni wedi derbyn cyngor buddsoddi gan Raglen Twf Cyflymu Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, i gefnogi'r buddsoddiad hwn.

Mae Creo Medical hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy gyfrwng buddsoddiad ecwiti o £3 miliwn gan Cyllid Cymru a sicrhaodd eu bod yn adleoli eu prif swyddfa o Gaerfaddon i Gas-gwent ac mae hynny wedi bod yn fuddsoddiad hanfodol i gynorthwyo ehangiad y cwmni.

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Mae'n bleser bod yng Nghas-gwent i agor y cyfleuster newydd yma yn Creo Medical.

"Bydd y cyfleuster newydd nid yn unig yn gwella rôl Creo fel chwaraewr allweddol yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol, bydd hefyd yn gwella gallu'r cwmni i ddatblygu cynhyrchion newydd i fynd i'r afael â'r sialensiau cynyddol yn y sector iechyd.

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi chwarae eu rhan wrth gefnogi twf Creo.

"Mae'r gefnogaeth honno wedi cyfrannu at symud pencadlys y cwmni o Gaerfaddon i Gas-gwent ac mae wedi rhoi hwb go iawn i'r economi leol, gan ddarparu 22 o swyddi ychwanegol sy'n cael eu talu'n dda yng Nghas-gwent.

Meddai Craig Gulliford, Prif Weithredwr Creo Medical:

"Rydym wrth ein bodd bod Ysgrifennydd Economi yn agor ein cyfleuster newydd yn ffurfiol yng Nghas-gwent. Mae ein cyfleuster wedi cael ei gynllunio i’n caniatáu ni ehangu wrth i ni barhau i gyflawni ein cerrig milltir. Gyda chymorth parhaus Llywodraeth Cymru, Banc Datblygu Cymru a'n buddsoddwyr eraill, credwn fod gennym y llwyfan cywir a fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd ein nod yn y pen draw o ddod â chyfres o ddyfeisiau llawfeddygol arloesol, sy'n aflonyddu cyn lleied â phosib i'r farchnad, ar hyn oll yn gweithredu oddi ar ein llwyfan electrolawdriniaeth CROMA sy'n torri tir newydd, gyda'r nod o leihau'r costau a'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithdrefnau GI a hynny tra'n gwella canlyniadau cleifion.

Meddai Dr Richard Thompson o Fanc Datblygu Cymru:

"Rydym yn falch o fod yn fuddsoddwr ecwiti hirdymor yn Creo Medical. Bu'n wych gweithio gyda thîm rheoli mor angerddol dros y pum mlynedd ddiwethaf. Ers iddynt symud i Gymru mae Creo wedi mynd o nerth i nerth, gan ddenu nifer o rowndiau arian cyllido a rhestru ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (MBA) ym mis Rhagfyr y llynedd. Mae gan eu technoleg a'u chynhyrchion arloesol y potensial i ddarparu buddion i gleifion ac yn y pen draw i achub miloedd o fywydau."