A yw eich busnes chi angen mentor?

Guy-Bates
Cyfarwyddwr Portffolio
Newidwyd:
business mentor

Weithiau gall deimlo'n unig bod yn entrepreneur neu'n berchennog busnes bach. Mae gennych lawer ar eich plât ac mae'r cyfrifoldeb i gyd yn disgyn arnoch chi. Roeddech chi'n gwybod mai felly fyddai pethau pan ddechreuoch chi'ch busnes, ond nid yw hynny'n golygu na fyddech chi weithiau'n hoffi cael ychydig o gefnogaeth.

Dyna lle gall mentora chwarae rhan. Mae'n wasanaeth amhrisiadwy i berchnogion busnes ac unig fasnachwyr fel chi, gan gynnig cyngor, arweiniad a help a allai fod yn hanfodol. Gallwch gysylltu â gweithiwr proffesiynol o'r un anian â chi fel eich mentor, a fydd â phrofiad ac arbenigedd yn eich maes.

Mae'r canllaw hwn wedi'i anelu at berchnogion busnes neu weithwyr proffesiynol sy'n credu y gallai fod angen mentor arnynt. Bydd yn egluro beth yw mentora busnes, beth y gall ei gynnig, a phryd y gall ecih busnes fod angen mentor. Yn olaf, byddwn yn siarad am Raglen Fentora Busnes Cymru, gwasanaeth am ddim sy'n rhoi cyfle i berchnogion busnes yng Nghymru gysylltu â mentoriaid profiadol.

 

Beth yw mentora busnes?

Ar ei symlaf, mae mentora busnes yn berthynas rhwng entrepreneur neu berchennog busnes, a mentor sydd â'r budd o feddu ar brofiad eang.

Y syniad o gael mentor busnes yw eu bod nhw'n gweithredu fel tywysydd, gan gynnig cyngor ymarferol a chyffredinol i helpu busnesau llai, ifancach i ddechrau, tyfu neu ddatblygu. Mae'r perthnasau mentoriaeth gorau fel arfer yn cynnwys mentoriaid a mentoreion yn yr un maes. Efallai bod y mentor wedi bod yn yr un sefyllfa â'u mentorai rai blynyddoedd ynghynt, felly bydd ganddo fo / hi brofiad ac arbenigedd uniongyrchol i'w gynnig.

Nid yw mentor busnes yn gyflogai i'r cwmni maen nhw'n ei helpu, ac nid yw’n ymgynghorydd dan gontract hyd yn oed. Gan amlaf, gwirfoddolwyr yw mentoriaid busnes. Maent yn cynnig eu hamser a'u profiad am ddim er mwyn helpu busnesau a gweithwyr proffesiynol eraill i lwyddo.

Efallai bod eu profiad eu hunain wedi cynnwys ymdrechu i godi busnes oddi ar y ddaear, neu redeg cwmni mawr, ffyniannus. Y naill ffordd neu'r llall, gallant gynnig y math o arweiniad a chefnogaeth a all wneud byd o wahaniaeth. Maent hefyd yn gwybod bod busnesau llwyddiannus yn arwain at economi gadarn ac mae hynny'n dda i bawb.

Bydd union natur y berthynas rhwng mentor a'r busnes y mae'n ei helpu yn wahanol. Bydd yn dod ar y ffurf fel ei fod yn gallu darparu'r help mwyaf i'r cwmni dan sylw. Wrth siarad yn gyffredinol, gall cyswllt rhwng mentoriaid a mentoreion ddigwydd trwy gyfrwng cyfarfodydd wyneb yn wyneb, ffôn neu e-bost.

Gall mentoriaeth fod yn berthynas anffurfiol achlysurol iawn, lle mae mentoriaid yn syml yn sicrhau eu bod ar gael dros y ffôn os a phryd y gallai eu mentorai fod eu hangen. Efallai y byddant yn dod at ei gilydd o bryd i'w gilydd i drafod cynlluniau busnes a sut y gall busnes ddatblygu.

Ar y llaw arall, fe all pethau fod yn fwy ffurfiol. Gellir trefnu cyfarfodydd yn rheolaidd a'u cynllunio fel eu bod yn cwmpasu materion penodol. Mewn rhai achosion, gall mentoriaid hyd yn oed gytuno i ddarparu cefnogaeth fwy uniongyrchol arall, megis rhoi cyflwyniadau i staff neu helpu mewn ffyrdd eraill.

 

Pryd fyddwch chi angen mentor efallai?

Nid yw llwyddo mewn busnes yn hawdd. Mae'n cymryd ymroddiad, amser ac nid dim ond rhyw aberth bach dwy a dimau. Trwy gylch bywyd busnes, bydd yna lawer o wahanol heriau.

Mae yna lawer o adegau pan allai help mentor olygu’r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant. Dyma rai enghreifftiau:

  • Pan fyddwch chi'n dechrau o'r dechrau Mae yna lawer o heriau'n gysylltiedig â dechrau busnes newydd - o ddod o hyd i adeiladau i godi cyllid. Gall mentor sydd wedi bod drwy hyn i gyd wneud i bethau fynd yn llawer mwy llyfn. Fe alla' nhw eich helpu i osgoi peryglon, bachu cyfleoedd a gallant hyd yn oed eich cysylltu chi â chysylltiadau eraill a all helpu.
  • Os yw twf wedi arafu Gall pob busnes brofi cyfnodau o farweidd-dra. Ar ôl twf cynnar, gall pethau arafu, ac yn aml gall perchnogion busnes sylweddoli nad ydyn' nhw'n gwybod sut i ddianc rhag cylch deiflig cyfnodau o'r fath. Gall mentor gynnig syniadau hanfodol a ffyrdd ymlaen. Byddant yn gallu edrych ar bethau o safbwynt gwahanol a gall hynny fod o gymorth mawr.
  • Wrth weithredu newid – Weithiau mae angen newid cyfeiriad mawr i dyfu busnes. Gallai hynny olygu newid eich cwsmeriaid targed, datblygu cynhyrchion newydd neu gyflwyno arferion newydd. Gall y mathau hynny o newidiadau mawr fod yn frawychus. Gall cael clust brofiadol i gynnig eich syniadau wneud pethau gymaint yn haws.
  • Os ydych chi'n teimlo'n ddifflach - Weithiau gall hyd yn oed y perchnogion busnes mwyaf ymroddedig deimlo eu bod wedi mynd yn sownd mewn rhigol. Efallai bod pethau wedi mynd yn ddiflas ac mae'n ymddangos nad yw popeth a wnewch yn cael fawr o effaith, os o gwbl. Gall mentor ddarparu syniadau a nodau newydd i'w cyrraedd. Gall y math hwn o gefnogaeth fod yr union beth sy'n angenrheidiol i chi gael eich egnio a'ch ysbrydoli o'r newydd.
  • Os bydd problem benodol yn codi – Mae cyngor ac arweiniad yn hanfodol os yw'ch busnes yn dioddef anhawster. Efallai bod cystadleuydd newydd wedi dod i'r amlwg, er enghraifft, neu efallai eich bod wedi colli contract a oedd yn asgwrn cefn i'r hyn rydych chi'n ei wneud. Gall mentor sydd wedi mynd trwy rywbeth tebyg helpu. Fe alla' nhw egluro sut y gwnaeth eu busnes wella a rhoi cyngor i chi ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud.
  • Ar adegau pan fo gennych ddiffyg hyder – Nid yw'r penderfyniadau y mae'n rhaid i chi eu gwneud fel entrepreneur neu berchennog busnes yn rhai pitw bach. Mae'n gofyn cael llawer o hyder yn eich barn eich hun i wneud y penderfyniadau heb unrhyw gymorth allanol. Gall eich mentor eich helpu chi i deimlo'n ddewr am eich argyhoeddiadau fel eich bod yn barod i fentro.  

 

Beth all mentor busnes ei gynnig?

Os ydych chi'n adnabod sefyllfa bresennol eich cwmni ymysg y rhestr uchod, efallai eich bod angen mentor. Gall mentoriaid da gynnig llawer o bethau i fusnesau bach:

Profiad

Mae mentoriaid yn aml yn weithwyr proffesiynol sydd wedi bod mewn busnes ers amser maith ac sydd wedi profi llwyddiant a methiant. Mae'r profiad hwnnw'n amhrisiadwy - yn enwedig i unrhyw un a allai fod yn wynebu'r un heriau maen nhw eisoes wedi eu goroesi.

Brwdfrydedd

Mae'r mwyafrif o fentoriaid yn wirfoddolwyr sy'n ceisio cynnig eu help. Maent yn angerddol am fusnes yn gyffredinol a'u maes eu hunain yn enwedig. Gall yr angerdd hwnnw fod yn heintus i unrhyw fentorai a rhoi bywyd newydd iddynt. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i berchnogion busnes sy'n teimlo'n ddiysbryd neu'n sownd mewn rhigol.

Sgiliau

Fel pobl fusnes profiadol, mae gan fentoriaid amrywiaeth o sgiliau ymarferol. Yn ystod eu blynyddoedd mewn busnes, byddant wedi datblygu sgiliau nad oes gan entrepreneuriaid iau. Gallant ddysgu'r sgiliau hynny a throsglwyddo gwybodaeth am arferion busnes perthnasol.

Didueddrwydd

Mae mentoriaid yn darparu persbectif newydd ar faterion busnes. Gall staff, cydweithwyr a ffrindiau i gyd gynnig cyngor, ond gall cyngor gael ei lywio gan eu swyddi a'u perthynas â'r busnes. Gall mentoriaid weithredu fel seinfwrdd diduedd. Mae hynny'n holl bwysig pan fydd yn rhaid gwneud y penderfyniadau anoddaf.

Hyder

Weithiau nid y cyngor ymarferol y mae mentoriaid yn ei gynnig sydd bwysicaf. Yn syml, gall cael rhywun i drafod pethau â nhw wneud byd o wahaniaeth. Gall ennyn yr hyder sy'n ofynnol i wneud penderfyniadau a dilyn ymlaen gyda chynlluniau.

Herio

Mae llawer o entrepreneuriaid a pherchnogion busnes yn hoffi cael eu herio. Dyma sut maen nhw a'u busnesau yn tyfu. Gall mentor gyflwyno set o nodau ac amcanion newydd. Yn y ffordd honno, mae gan fentoreion rywbeth newydd i anelu ato a byddant yn teimlo'n llawn egni.

Nid yw mentor yn fwled arian a fydd yn datrys unrhyw broblem gydag unrhyw fusnes. Fel y dengys yr uchod, fodd bynnag, gallant gynnig cefnogaeth hanfodol mewn amryw o wahanol ffyrdd. Os yw'ch busnes wedi'i leoli yng Nghymru a'ch bod chi'n meddwl y gall eich busnes fod angen mentor, gallai Busnes Cymru fod y lle i droi.

 

Mentora busnes gyda Busnes Cymru

Mae Busnes Cymru yn rhedeg rhaglen fentora am ddim i berchnogion busnes yng Nghymru sydd eisiau cefnogaeth gan berson busnes profiadol. Os oes angen help arnoch i farchnata neu dyfu eich busnes, gweithredu newid, neu i fynd i’r afael â her benodol, yna gallai'r rhaglen hon roi arweiniad amhrisiadwy i chi.

I gymryd rhan, cofrestrwch gyda Busnes Cymru. Yna bydd asiant mentora lleol yn estyn allan i drafod eich anghenion mentora. Yn seiliedig ar yr anghenion hynny, mae cwmnïau'n cael eu paru â'r mentor mwyaf priodol, sy'n meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau perthnasol. Daw'r mentor hwnnw o gronfa ddata o bobl fusnes lwyddiannus o ystod eang o ddiwydiannau.

Bydd yr asiant mentora yn siarad â'r mentor a'r cwmni am y paru posibl. Os yw'r ddau'n cytuno, yna trefnir cyfarfod cychwynnol. Os yw popeth yn iawn, cytunir ar fentoriaeth a threfnir cyswllt pellach. Os bydd unrhyw broblemau, bydd yr asiant mentora bob amser wrth law ar gyfer mentoriaid a mentoreion.

Canfyddwch fwy am Raglen Fentora Busnes Cymru.