Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Lewis Homes i ddechrau gweithio yn Woodlands Green gyda buddsoddiad o £3.2 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru

Karl-Jones
Uwch Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Lewis Homes

Mae Lewis Homes wedi dechrau gweithio ar 76 o gartrefi newydd yn Woodlands Green yn Nhonyrefail wrth i'r deiliaid cyntaf symud i mewn i'w cartrefi newydd yn Nôl Werdd, Plasdŵr ym mis Awst.

Mae pecyn cyllido gwerth £3.3 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru wedi galluogi gwaith i ddechrau ar safle Tonyrefail gyda'r 61 plot preifat i gyd wedi'u cadw'n ôl, yn amodol ar gontract. Mae hyn yn dilyn benthyciad tymor byr o £4.75 miliwn i ariannu'r gwaith o adeiladu 56 cartref, gan gynnwys pedwar tŷ cymdeithasol a phedwar cost isel, yn Nôl Werdd, Plasdwr.

Wedi’i disgrifio fel dinas gardd ar gyfer yr 21ain Ganrif, mae Plasdŵr wedi ei fodelu ar egwyddorion mudiad dinas gardd wreiddiol sef “awyr iach, golau haul, anadlu ac ystafell chwarae”. Cynlluniwyd y datblygiad i gyd-fynd â thopograffi naturiol yr ardal a bydd hyd at 40% yn fan gwyrdd, gan gynnwys coetir treftadaeth a reolir, parciau ac ardaloedd chwarae. Mae canolfan ardal gyda siopau, swyddfeydd, cyfleusterau iechyd a hamdden a thafarndai a bwytai hefyd ar y gweill ar gyfer y datblygiad, ynghyd â phedair canolfan leol lai. Pan fydd wedi gorffen, bydd Plasdŵr hefyd yn gartref i bedair ysgol gynradd newydd ac ysgol uwchradd.

Mae'r benthyciadau diweddaraf ar gyfer Lewis Homes yn dod â chyfanswm y cyllid a ddarperir gan y Banc Datblygu i £16.645 miliwn gan alluogi'r busnes teuluol i fod wedi adeiladu a gwerthu 373 o gartrefi ers 2014. Mae hyn yn cynnwys 43 o dai fforddiadwy a chost isel.

Dywedodd Marc Lewis, Cyfarwyddwr Lewis Homes: “Mae ein perthynas gyda’r Banc Datblygu yn dyddio’n ôl i 2014 pan wnaethant gamu i’r adwy gyntaf i helpu i ariannu ein safle Brynteg Green ym Meddau, Pontypridd.

“373 eiddo yn ddiweddarach ac rydym bellach wedi benthyca dros £16 miliwn gan y Banc Datblygu, y mae pob un wedi’i ad-dalu neu, yn achos Woodlands Green a Dôl Werdd yn cael ei ad-dalu o fewn dwy flynedd. Mae eu cefnogaeth wedi ein galluogi i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel a chreu swyddi, wrth gyfrannu dros £1.75miliwn i'r cymunedau lleol rydyn ni wedi'u hadeiladu ynddynt. Rydyn ni wedi mynd o adeiladu deg i 15 tŷ y flwyddyn i 52 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Rydyn ni nawr yn cyflogi 30 o bobl ac rydyn ni'n falch iawn o'r enw da rydyn ni wedi'i ddatblygu ar gyfer cartrefi o ansawdd adeiladu, mwy na'r cyffredin am brisiau sy'n werth am arian.

Dywedodd Karl Jones, Swyddog Datblygu Eiddo gyda Banc Datblygu Cymru: “Cyn gynted ag y byddwch yn camu y tu mewn i ddrws tŷ a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan Lewis Homes, byddwch yn gwybod eich bod gartref. Gan eu bod yn fusnes teuluol, maent yn credu mewn ansawdd, nid maint, ac mae eu holl eiddo wedi'u hadeiladu â chyffyrddiad personol.

“Mae'n werth chweil gweld yr effaith y mae'r busnes yn ei chael yn Ne Cymru ac rydym wrth ein bodd bod ein cyllid wedi chwarae rhan mor bwysig wrth helpu i ddod â thai a swyddi mawr eu hangen i'r ardal leol. Yn wir, nodir bod Plasdŵr yng Nghynllun Datblygu Lleol Caerdydd yn allweddol i dwf economaidd y ddinas.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi mewn datblygiadau preswyl, defnydd cymysg a masnachol trwy Gronfa Eiddo Cymru, Cronfa Eiddo Masnachol Cymru a Chronfa Safleoedd Segur. Mae'r cynlluniau hyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn ail gylchadwy ac mae'r arian a dderbynnir yn cael ei ail-fuddsoddi. Mae benthyciadau o £150,000 i £5 miliwn gyda thelerau hyd at bedair blynedd ar gael i ddatblygwyr bach a chanolig eu maint yng Nghymru, sy'n gweithio ar brosiectau preswyl, defnydd cymysg a datblygu masnachol yng Nghymru