Mae DEPLOY™, sydd wedi'i leoli ym Mhont-y-clun, yn tarfu ar y diwydiant storio dŵr gyda datblygiad y tanc dŵr parod i'w ddefnyddio cyntaf o’i fath a ddanfonir drwy’r awyr sy'n gwella hygyrchedd a chynaliadwyedd ar gyfer amaethyddiaeth a chymunedau gwledig.
Wedi'i weithgynhyrchu â ffabrig llawn concrit i sicrhau cadernid, ymwrthedd a dibynadwyedd, syniad gwreiddiol y peirianwyr Paul Mendieta o Ecwador a Beren Kayali o Dwrci yw DEPLOY™. Gyda'i gilydd, maent bellach wedi sicrhau cefnogaeth Banc Datblygu Cymru gyda buddsoddiad ecwiti o £250,000 ynghyd â £187,000 gan y Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd (a adwaenir fel SFC Capital) a grant Smart Cymru o £133,000.
Ar ôl ennill cefnogaeth Innovate UK hefyd, cyfarfu'r partneriaid busnes gyntaf wrth astudio gradd Meistr mewn Peirianneg Dylunio Arloesi yng Ngholeg Imperial a'r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn y cwblhaodd Paul interniaeth gyda Concrete Canvas o Bont-y-clun, gweithgynhyrchwyr deunydd cyfansawdd ffabrig llawn concrit. Mae DEPLOY™ bellach yn defnyddio Concrete Canvas Hydro ar gyfer cynhyrchu tanc dŵr DEPLOY™ gan ei fod yn ymgorffori geo-bilen PVC fel haen ychwanegol i ddarparu eiddo anhydraidd, gan ei wneud yn berffaith ar gyfer storio dŵr.
Caiff ei ddefnyddio gan y diwydiant amaeth ac ar gyfer lliniaru llifogydd, gellir cludo DEPLOY™ ar ffurf wedi plygu a gellir ei ddefnyddio'n hawdd trwy ei chwyddo ag aer. Defnyddir y buddsoddiad gan y Banc Datblygu, Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd a Smart Cymru i gyflymu cynhyrchu ar safle Pont-y-clun trwy osod llinell weithgynhyrchu. Bydd hyd at bedair swydd newydd yn cael eu creu yn ystod y flwyddyn nesaf cyn i'r cwmni ddechrau rhaglen o allforion rhyngwladol ddiwedd 2022.
Fel dewis arall fforddiadwy a mwy cynaliadwy yn lle tanciau dŵr concrit confensiynol, mae DEPLOY™ yn defnyddio 70% yn llai o CO2. Mae'n pwyso llai na 600kg wrth ei becynnu gan ddarparu gostyngiad pellach o 90% mewn allyriadau wrth eu cludo ynghyd â thanc DEPLOY™ yn lleihau'r defnydd o ddŵr 75% gan mai dim ond 216 litr o ddŵr sydd ei angen arno o'i gymharu â'r 875 litr a ddefnyddir gan danc concrit yn ystod y gweithgynhyrchu a’r broses osod.
Dywedodd y Prif Weithredwr Paul Mendieta: “ Dechreuodd ein cenhadaeth ar ôl i mi ddechrau dadansoddi materion yn ymwneud â dŵr mewn mwy na 175 o gymunedau yn Ecwador. Yna cwblheais fy interniaeth gyda Concrete Canvas ac ysbrydolodd hyn fy ymrwymiad i helpu cymunedau gwledig ledled y byd i gael mynediad haws at ddŵr yfed diogel.
“Ynghyd â Beren fel cyd-sylfaenydd, rydym wedi sefydlu DEPLOY™ ac yn gweithio gyda'r sector amaeth a chymunedau gwledig i helpu gyda rheoli eu hadnoddau dŵr trwy ddefnyddio atebion seilwaith arloesol i greu effaith gymdeithasol a chynaliadwy.
“Bydd yr arian hwn gan y Banc Datblygu, Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd a Smart Cymru yn trawsnewid y busnes, gan gyflymu ein datblygiad a helpu i fanteisio ar y cyfle i greu effaith wirioneddol yn ardaloedd gwledig y DU trwy ddarparu tanciau storio dŵr hyblyg a hirdymor sy’n fwy cyfeillgar i'r amgylchedd, cost-effeithiol, ac yn hawdd i’w gosod. Ryda' ni wedi dod o hyd i'n lle yng Nghymru ac yn falch o gael ein lleoli ochr yn ochr â'n ffrindiau yn Concrete Canvas a chael cefnogaeth ein buddsoddwyr. Mae hyn wedi rhoi i ni'r dilysiad a'r hyder oedd ei angen arnom i gynyddu ein graddfa a helpu eraill ar hyd y ffordd.”
Mae Andy Morris yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae hwn yn gyd-fuddsoddiad arall i ni ochr yn ochr â'r Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd ac ni allem fod wedi dewis busnes gwell i'w gefnogi gyda'i gilydd. Mae gan Paul a Beren weledigaeth wych ynghyd ag ymdrech wirioneddol i wneud gwahaniaeth yma yn y DU ac yn fyd-eang. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw fel partneriaid ecwiti. ”
Mae’r Gronfa Sbarduno Technoleg Cymru II gwerth £20 miliwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddiadau ecwiti rhwng £50,000 a £250,000 ar gael ar gyfer busnesau technoleg Cymru a'r rheini sy'n barod i adleoli i Gymru yn ystod y cam prawf-gysyniad.
Cynghorodd GS Verde Grŵp Banc Datblygu Cymru. Cynghorodd Geldards DEPLOY™ a gweithredodd Bennett Brooks ar gyfer y Clwb Cyllido Dechrau Busnes o’r Newydd.