Mentergarwyr ifanc yn cwblhau pryniant gan reolwyr Motomec Aberdare Ltd

Sally-Phillips
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Prynu busnes
Cyllid ecwiti
Dechrau busnes
Motomec

Mae benthyciad chwe ffigur sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru wedi helpu Alexander Sage a Carl Adams i gwblhau allbryniant rheolwyr o Motomec Aberdare Ltd gan ganiatáu iddynt gymryd drosodd perchnogaeth a rheolaeth y busnes yn Aberdâr.

Sefydlwyd Motomec gan Eddie Hawkins yn 1987 ac mae bellach yn un o garejis annibynnol mwyaf Aberdâr. Fel gweithdy gwasanaethu a thrwsio cerbydau modur llwyddiannus gyda sylfaen cwsmeriaid sy'n cynnwys unigolion preifat a fflydoedd corfforaethol, mae gan Motomec dair gorsaf waith, gorsaf MOT a pharcio ar gyfer tua 20 o gerbydau ar y safle. Mae gan y cwmni hefyd dechnegwyr sy'n gymwys i wneud gwaith atgyweirio a gwasanaethu cerbydau trydan a hybrid.

Dywedodd Alexander Sage, sy’n 27 oed: “Mae Eddie wedi adeiladu’r busnes o’r gwaelod i fyny a dod â’r busnes i lle mae o heddiw, lle mae’n parhau i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl.

“Rydyn ni wedi bod yn rhedeg y busnes yn gynyddol dros y flwyddyn ddiwethaf gan fod Eddie wedi paratoi ar gyfer ei ymddeoliad felly rydym wedi cael digon o gefnogaeth i bontio o fod yn weithwyr i berchnogion ond fel mentergarwyr ifanc, mae llawer i'w wneud o hyd. Dyna pam yr ydym mor ddiolchgar i'r Banc Datblygu am eu cymorth - mae eu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar atebion wedi ein galluogi i fanteisio ar y cyfle gwych hwn i symud y busnes yn ei flaen a chanolbwyntio ar ddyfodol y busnes. Mae Eddie wedi rhoi cyfle gwych i ni ac yn gobeithio y bydd yn mwynhau ei ymddeoliad haeddiannol.”

Mae Sally Phillips yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Mae Motomec yn fusnes proffidiol hirsefydlog sydd wedi bod yn gwasanaethu a thrwsio cerbydau yng nghymuned Aberdâr ers 36 mlynedd. Gydag enw da, mae'r tîm bach yn falch o'u gwaith ac wedi ymrwymo i sicrhau llwyddiant hirdymor y busnes.

“Yma ym Manc Datblygu Cymru, rydym yn frwd dros weithio gyda phobl ifanc i'w helpu i wireddu eu huchelgeisiau busnes. Mae digon o gymorth ar gael i fentergarwyr ifanc yng Nghymru, o gyngor busnes a gweithdai i fenthyciadau a chyllid grant ar gyfer busnesau newydd, caffael ac allbryniannau rheolwyr. Rydym yn falch ein bod wedi gallu helpu Alexander a Carl i ariannu eu allbryniant rheoli a’u helpu ar eu taith.”

Daeth y cyllid ar gyfer y pryniant gan reolwyr o Gronfa Busnes Cymru gwerth £204 miliwn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael gyda thymhorau’n amrywio o un i saith mlynedd ar gyfer busnesau bach a chanolig (y rhai sydd â llai na 250 o weithwyr) sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, neu sy’n barod i adleoli i Gymru.