Banc Datblygu yn mentro gyda sawna ger y môr

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cynllunio busnes a strategaeth
Marchnata
Dechrau busnes
Cynaliadwyedd
Môr a Sawna

Mae selogion dŵr gwyllt ac athletwyr yn mwynhau manteision sawna symudol newydd ger y môr yn y Barri sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan ficro-fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi’i sefydlu gan yr ymarferydd llesiant a’r seliwr dŵr oer Kathryn Donovan, Môr a Sawna yw’r sawna symudol cyntaf i gael ei leoli’n barhaol ym Mro Morgannwg. Mae’n edrych dros y môr yng Nghlwb Hwylio’r Barri ac mae ar gael i’w archebu mewn slotiau 55 munud. Gall y sawna ddal hyd at wyth o bobl mewn sesiynau cymunedol neu ddeg o bobl ar gyfer archebion preifat.

Dywedodd Kathryn: “Rwy’n angerddol am feddylfryd a therapïau cyfannol ac rwy’n hoff iawn o drochi mewn dŵr oer. Mae mor bwysig i ofalu am ein meddyliau yn ogystal â'n cyrff a ffordd wych o wneud hyn yw trwy newid rhwng sawna a phlymiadau oer. Mae'r manteision yn ddwys iawn gyda llawer o bobl yn defnyddio'r dechneg i'w cynorthwyo i ymlacio a gwella.

“Rydw i mor gyffrous i sefydlu Môr a Sawna nawr. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at gyflwyno mentrau llesiant a gweithdai newydd a fydd o fudd i bobl leol a thwristiaid fel ei gilydd ond ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth Banc Datblygu Cymru. Maen nhw wedi bod mor gymwynasgar a brwdfrydig; dod o hyd i atebion yn hytrach na rhwystrau i gyllid a chymryd yr amser i'm helpu drwy'r broses ymgeisio.”

“Rhaid i mi hefyd ddiolch i Glwb Hwylio’r Barri am eu cymorth a’u hanogaeth. Fel cefnogwyr mawr Môr a Sawna, rwy’n gobeithio y byddant yn elwa o’r busnes ychwanegol.”

Mae Donna Strohmeyer yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “O’r cwmnïau technoleg newydd diweddaraf i’r rhai sy’n cynnig ysbaid o’r byd digidol, mae ein cyllid yn helpu mentergarwyr i ddechrau a chynyddu busnesau ledled Cymru. Mae manteision corfforol a meddyliol o blymio i ddŵr oer ar ôl sawna yn golygu bod pobl o bob oed yn mwynhau ein awyr agored gwych a’n harfordir hardd, beth bynnag fo’r tywydd. Yn sicr mae gan Kathryn yr egni a’r angerdd i wneud i Môr a Sawna weithio a dymunwn bob llwyddiant iddi.”

Daeth y micro-fenthyciad ar gyfer Môr a Sawna o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, mae’r gronfa ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn a buddsoddiadau ecwiti ar gael am hyd at 15 mlynedd i fusnesau Cymru.