Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Beth mae Banc Datblygu Cymru yn ei olygu i’ch busnes chi?

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Banc Datblygu Cymru

Pan mae busnesau’n ffynnu, mae’r economi’n ffynnu hefyd.  Yng Nghymru, mae 99% o’i 250,000 o fusnesau naill ai’n fusnesau bach a chanolig neu’n microfusnesau sy’n cyflogi llai na naw person.  Mae cael mynediad hawdd at gyllid yn allweddol i’r busnesau hyn, p’un a ydynt yn bwriadu cychwyn o'r newydd, cryfhau neu dyfu.

Oherwydd hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Banc Datblygu Cymru yn ddiweddar. Dyma’r cyntaf o’i fath yn y DU ac mae wedi cael ei sefydlu i’w gwneud hi’n haws i fusnesau yng Nghymru gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i lwyddo.  Felly beth gall eich busnes chi ei ddisgwyl?

Mwy o arian ar gael

Mae disgwyl i’r banc datblygu fuddsoddi £400 miliwn yn uniongyrchol i fusnesau yng Nghymru erbyn 2021/22. Yn ogystal â hyn, bydd yn treblu faint o ficro-gyllid (benthyciadau o hyd at £50,000) fydd ar gael dros y pum mlynedd nesaf.  

Pecynnau hyblyg wedi’u teilwra i chi

Mae pecynnau hyblyg ar gael rhwng £1,000 a hyd at £5 miliwn a rhoddir benthyciadau ac ecwiti fel ei gilydd.  Mae hyn yn golygu bod cyllid yn gallu cael ei deilwra i anghenion unigol eich busnes yn hytrach na bod un ateb yn mynd i fod yn briodol i bawb.  

Cefnogaeth ar draws sectorau a chamau twf gwahanol

Nid yw’r banc datblygu wedi’i gyfyngu gan sectorau.  Mae’n cefnogi ystod eang o ddiwydiannau a sectorau ac mae ganddo hefyd dimau sector arbenigol ym maes technoleg ac eiddo.  Gall hefyd gefnogi busnesau ar gamau twf gwahanol yn cynnwys dechrau, tyfu a phrynu busnes. 

Dull personol y mae busnesau am ei weld

Mae gan y banc datblygu dros 45 o gynrychiolwyr lleol yn y maes yn ymweld â busnesau bob dydd.  Mae ganddo swyddfeydd rhanbarthol yng Nghaerdydd, Llanelli, y Drenewydd a Llanelwy ac mae’n cynnig cymorth parhaus penodol i’w holl gwsmeriaid. 

Effaith gadarnhaol ar Gymru

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae angen i fuddsoddiadau Banc Datblygu Cymru fod yn dda i Gymru, gan hybu nifer y swyddi mewn cymunedau a chryfhau economïau lleol.  Mae hefyd yn rheoli nifer o gronfeydd y gellir eu hailddefnyddio.  Mae hyn yn golygu bod yr arian sy’n dod yn ôl i mewn yn cael ei ail-fuddsoddi, gan helpu’r genhedlaeth nesaf o fusnesau llwyddiannus yng Nghymru.