Cyllid o £1,000 i'ch helpu i godi oddi ar y ddaear neu ar gyfer cefnogi eich blynyddoedd cynnar.
Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol

Mae 99% o gwsmeriaid yn ein hargymell ni *
- Timau lleol gydag ymagwedd wyneb i wyneb
- Cyllid wedi'i deilwra o gwmpas eich anghenion unigol
- Cefnogaeth barhaus ymroddedig
- Cyllid hyblyg sy’n cyd-weddu â’ch anghenion chi
- Rhwydwaith cryf o gynghorwyr busnes
Sut y gallwn ni helpu
Mae llawer i'w ystyried os ydych chi'n dechrau ar eich pen eich hun am y tro cyntaf.
- Rhentu neu brynu eiddo newydd
- Prynu offer neu wisgoedd gwaith
- Llogi staff
- Marchnata
- Prynu stoc
Pa bynnag sector rydych chi'n mynd i mewn iddo, gallwn eich helpu i dalu am y costau sefydlu.
Fe all mynd trwy'ch blynyddoedd cynnar olygu bod angen ychydig o gyllid ychwanegol arnoch ar gyfer ystod o anghenion:
- Rhentu neu brynu eiddo newydd
- Llif arian
- Hyfforddi staff
- Marchnata
- Stoc ychwanegol
- Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau
P'un ai yw'r arian ar gyfer sefydlogi'r llong neu er mwyn eich helpu i dyfu, gallwn ddarparu benthyciadau ac ecwiti.

Chwilio am fenthyciad hyd at £50,000 ar gyfer dechrau busnes?
Byddwn angen gweld:
- Crynodeb o gynllun busnes
- Cyfrifon hanesyddol (hyd at ddwy flynedd os ydynt ar gael)
- Rhagolwg llif arian 2 flynedd ar gyfer benthyciadau dros £25,000 (1 flwyddyn ar gyfer benthyciadau hyd at £25,000)
- Gwybodaeth reoli wedi ei diweddaru
- Datganiadau banc y chwe mis blaenorol (personol os mai busnes newydd ydyw)
- Datganiad asedau ac atebolrwydd
Os ydych chi'n chwilio am gyllid i lansio'ch busnes, fel arfer bydd angen cyfraniad arian parod personol.
Beth os nad oes gen i bob un o’r rhain ar hyn o bryd?
Peidiwch â phoeni, gallwch arbed eich cynnydd ar ein ffurflen gais ar-lein neu anfonwch eich dogfennau ategol atom yn nes ymlaen wedyn.
Cronfa Mentergarwch Canol Tref
Busnesau sy'n dechrau o'r newydd a micro fusnesau newydd sydd wedi bod yn masnachu heb fod yn hwy na 2 flynedd ac sydd wedi'u lleoli yng Nghanolfannau Tref Y Rhyl, Bangor, Wrecsam neu Fae Colwyn.
Os ydych chi'n fusnes newydd wedi'i leoli yng nghanol trefi'r Rhyl, Bangor, Wrecsam neu Fae Colwyn gallwch wneud cais am fenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ac fe ellir eu defnyddio fel cyllid cyfatebol i gael gafael ar gyllid grant Llywodraeth Cymru hyd at £10k.
Angen help gyda'ch cynllun busnes?
Ewch i wefan Busnes Cymru i gael help ar sut mae ysgrifennu cynllun busnes proffesiynol.
Ydych chi'n fenter gymdeithasol sy'n chwilio am gyllid?
Chwilio am chwistrelliad o gyllid dros £50,000?
Byddwn angen gweld:
- Crynodeb o gynllun busnes
- Cyfrifon hanesyddol (hyd at ddwy flynedd os ydynt ar gael)
- Rhagolygon Misol Integredig (dwy flynedd gan gynnwys Elw & Cholled, Llif Arian & Mantolen)
- Gwybodaeth reoli wedi ei diweddaru
- Datganiadau banc y chwe mis blaenorol (personol os mai busnes newydd ydyw)
- Datganiad asedau ac atebolrwydd
Os ydych chi'n chwilio am gyllid i lansio'ch busnes, yna bydd angen cyfraniad arian parod personol.
Beth os nad oes gen i bob un o’r rhain ar hyn o bryd?
Peidiwch â phoeni, gallwch arbed eich cynnydd ar ein ffurflen gais ar-lein neu anfonwch eich dogfennau ategol atom yn nes ymlaen wedyn.
Angen help gyda'ch cynllun busnes?
Ewch i wefan Busnes Cymru i gael help ar sut mae ysgrifennu cynllun busnes proffesiynol.
* Yn seiliedig ar sampl o arolwg adborth cwsmeriaid o 115 o fusnesau rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.