Doedd gennym ni mo’r adnoddau a oedd eu hangen i wneud y newid hwnnw. Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Fanc Datblygu Cymru drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd wedi bod yn wych. Mae’n gam niwtral o ran cost yn y tymor byr a bydd yn talu ar ei ganfed yn y tymor hir oherwydd byddwn yn gallu pweru ein fflyd yn gynaliadwy a thalu llai am ein hynni.
Gethin Dwyfor, Cyfarwyddwr, Bwydydd Oren
Trosolwg o’r cwmni
Mae Bwydydd Oren yn darparu cynnyrch ffres i fusnesau ac awdurdodau lleol ar hyd a lled gogledd a chanolbarth Cymru, o’i warws ar Stad Ddiwydiannol Griffin ger Penrhyndeudraeth.
Tîm rheoli
Gethin Dwyfor, Rheolwr Gyfarwyddwr – Sefydlwyd Bwydydd Oren Foods yng Nghricieth gan y cwpl Dei a Cheryl Jones ddechrau’r 1980au. DJ Fruit oedd enw'r busnes yn wreiddiol ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny drwy gaffaeliadau ac enw da. Mae bellach yn cael ei redeg gan eu mab, Gethin Dwyfor.
Pwrpas y busnes
Mae Bwydydd Oren yn gweithredu ar draws gogledd a chanolbarth Cymru. Mae ganddo ddeuddeg fan ddosbarthu sy’n cyflenwi ffrwythau a llysiau ffres, blasus ac organig i nifer o gwsmeriaid yn y sector preifat a chyhoeddus – gan gynnwys gwestai, siopau ac awdurdodau lleol.
Fel cwmni Cymreig balch, mae Bwydydd Oren yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn ogystal â chefnogi cynhyrchwyr a chyflenwyr lleol eraill yng Nghymru.
Gweithio gyda ni
Oherwydd dibyniaeth y busnes ar gludiant i werthu ei gynnyrch, roedd Gethin yn awyddus i ddod o hyd i ffordd fwy cynaliadwy o redeg ei fflyd.
Mae Bwydydd Oren bellach wedi gosod aráe paneli solar 60MWh a dau bwynt gwefru cerbydau trydan newydd yn ei warws, sy’n ei alluogi i ddechrau newid i gerbydau trydan.
Cafodd y gwaith gosod ei ariannu gan fenthyciad o £60,000 gan y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, sy’n cefnogi busnesau yng Nghymru sy’n awyddus i newid eu defnydd o ynni a lleihau eu hallbwn carbon. Dyma’r ail waith i’r busnes gael cymorth gan Fanc Datblygu Cymru, yn dilyn benthyciad pum ffigur gan Gynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru (CWBLS) yn 2020.
Beth mae pobl yn ei ddweud
Fel llawer o fusnesau, roedd newid i baneli solar ac ynni mwy gwyrdd yn gam nesaf amlwg i ni, ond doedd gennym ni mo’r adnoddau a oedd eu hangen i wneud y newid hwnnw. Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Fanc Datblygu Cymru drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd wedi bod yn wych. Mae’n gam niwtral o ran cost yn y tymor byr a bydd yn talu ar ei ganfed yn y tymor hir oherwydd byddwn yn gallu pweru ein fflyd yn gynaliadwy a thalu llai am ein hynni.
Pan wnaethon ni osod y paneli i ddechrau, doeddwn i ddim yn siŵr faint o ynni ychwanegol y bydden ni’n ei gael er mwyn pweru’r cerbydau trydan sydd gennym ni’n barod, ond pan mae’r haul allan, rydyn ni’n gallu eu gwefru i’r pwynt lle mae ynni solar yn pweru tua 300 milltir yr wythnos ar gyfer pob cerbyd.
Gethin Dwyfor, Cyfarwyddwr, Bwydydd Oren
Roedd yn bleser gweithio gyda Gethin a phawb yn Oren. Maen nhw’n fusnes llwyddiannus â gwreiddiau lleol cryf, sy’n cyflenwi bwyd ffres i gwsmeriaid bodlon ar hyd a lled Gogledd Cymru.
Fel llawer o fusnesau eraill sydd yn yr un cwch o ran gofynion ynni, roedden nhw wedi bod yn ceisio newid i fathau eraill o ynni ers cryn amser, ac fe wnaeth y Benthyciad Busnes Gwyrdd ddarparu’r cymorth a oedd ei angen arnyn nhw.
Andrea Richardson, Uwch Weithredwr Portffolio, Banc Datblygu Cymru