Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

ONJA Taste Of Tanzania

Charlotte-Price
Swyddog Buddsoddi

Mae'r benthyciad gan y Banc Datblygu wedi rhoi'r hyder i mi fentro a dilyn fy mreuddwydion.  Rwy’n teimlo fel fy mod i wedi cael fy ngeni i goginio, ac alla i ddim aros i rannu blas Tansanïa gyda Chaerdydd.

Justina John, Cyfarwyddwr, ONJA

Trosolwg o’r busnes

Mae ONJA Taste of Tanzania yn fwyty bywiog sy'n dod â blas Dwyrain Affrica i Gymru. Mae'r busnes wedi'i leoli ger Dewi Sant, sef canolfan siopa fwyaf Caerdydd.

Sylfaenydd

Justina John

 

Justina John - Cafodd Justina ei magu yn Nhansanïa, cyn symud i Gaerdydd dros 25 mlynedd yn ôl. Mae’n cyfaddef ei bod yn hoff iawn o fwyd ac mae’n fam i ddau o fechgyn. Mae gan Justina brofiad blaenorol o weithio yn y sector lletygarwch, ac mae wedi bod yn freuddwyd ganddi erioed i agor ei lle ei hun gan ddarparu bwyd ei mamwlad.

Pwrpas y busnes

Mae ONJA yn dod â blasau cyfoethog ac amrywiol bwyd traddodiadol Tansanïa i galon y ddinas. Mae'r busnes yn cynnig amrywiaeth o brydau sy'n darparu ar gyfer y galw cynyddol am fwyd rhyngwladol  yng Nghaerdydd.

Mae ONJA, a sefydlwyd yn 2024, yn darparu bwyd ei mamwlad ar gyfer bwyta i mewn, bwyd a gludir a bwyd tecawê. Ar y fwydlen ceir detholiad amrywiol o brydau, gan gynnwys opsiynau ar gyfer rhai sy'n hoff o gig, pysgod, llysieuwyr a figaniaid fel ei gilydd.

Mae ONJA ar agor ar gyfer cinio a phrydau yn gynnar gyda'r nos o ddydd Mercher i ddydd Sul, tra bod y bwyty gau ar ddydd Llun a dydd Mawrth ac mae’n darparu lle i tua 40.

Cyllid

ONJA Funding

 

Rhoddodd ein buddsoddiad fenthyciad i Justina i gynorthwyo gyda'i chostau cychwynnol, gan helpu i ariannu’r gwaith o ddodrefnu ei bwyty Affricanaidd a'i siop tecawê. Agorodd ONJA ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024, gan ddarparu profiad bwyta newydd i Gaerdydd sy'n rhoi blas o Dansanïa.

Beth mae pobl yn ei ddweud

Mae bwyd yn rhywbeth rhyngwladol sy'n meithrin heddwch ac yn creu hapusrwydd. Mae'n dod â phobl at ei gilydd, waeth beth fo’u statws neu gefndir, gan ein hatgoffa bod y llawenydd a geir wrth rannu pryd o fwyd yn brofiad cyffredin sy’n ein huno.

Rwy’n angerddol am fwyd. Rwyf wastad wedi bod wrth fy modd yn coginio ac mae gen i atgofion melys o fy mhlentyndod, yn helpu fy Mam yn y gegin gartref. Fodd bynnag, dydi’r amser erioed wedi bod yn iawn i adael swydd ddiogel. Mae'r benthyciad gan y Banc Datblygu wedi rhoi'r hyder i mi fentro a dilyn fy mreuddwydion.  Rwy’n teimlo fel fy mod i wedi cael fy ngeni i goginio, ac alla i ddim aros i rannu blas Tansanïa gyda Chaerdydd.

Justina John, Cyfarwyddwr, ONJA

Mae cariad Justina at fwyd yn heintus. Mae'n wych ei gweld yn dod â phrofiad bwyta unigryw i Gaerdydd mewn lleoliad mor wych ac rydym yn falch bod ein cefnogaeth wedi bod yn fodd i wireddu hyn.” 

Charlotte Price, Swyddog Gweithredol Buddsoddi, Banc Datblygu Cymru

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni