Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Parc Eirin

Nicola-Crocker
Rheolwr Cronfa

Mae Parc Eirin yn ddatblygiad 114 o dai ger Tonyrefail, gyda dros £24 miliwn o fuddsoddiad a chyllid grant gan Fanc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i'r gwaith ar Barc Eirin gael ei gwblhau erbyn diwedd 2027, ac mae’n cael ei arwain gan Ddatblygiadau Parc Eirin – rhan o grŵp Tirion – gyda’r gwaith adeiladu’n cael ei wneud gan y contractwyr Morganstone.

Mae’r prosiect yn cael £17.5 miliwn gan y Banc Datblygu – ei fuddsoddiad mwyaf erioed – a £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys £3.6 miliwn gan y Gronfa Carbon Isel a £3.9 miliwn gan y Gronfa Dulliau Adeiladu Modern.

Bydd pob un o’r 114 o gartrefi ym Mharc Eirin yn cael Tystysgrif Perfformiad Ynni gradd A, a byddant yn cynnwys nodweddion arbed ynni fel paneli solar, storfeydd batris cymunedol a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd 81 o dai â dwy a thair ystafell wely, ynghyd â 33 o fflatiau ag un ystafell wely wedi’u rhannu’n rhai i'w gwerthu ac yn rhai i'w rhentu ar draws y farchnad agored a rhentu cymdeithasol. 

Cefnogi sector eiddo Cymru

Rydym ni'n gweithio gyda datblygwyr ledled Cymru, gan ddarparu cyllid datblygu eiddo masnachol, defnydd cymysg a phreswyl tymor byr. Mae’r diwydiant eiddo ac adeiladu yn un o brif sbardunwyr ein heconomi yng Nghymru. Mae ein tîm eiddo yma i gefnogi datblygwyr bach a chanolig fel Cartrefi Tirion, gan eu helpu i gyflwyno safleoedd fel hyn a fydd yn creu cartrefi y mae mawr eu hangen ar gyfer pobl leol ac sy’n gynaliadwy ac yn defnyddio ynni’n effeithlon. 

Mae’r Banc Datblygu yn darparu rhwng £150,000 a £10 miliwn o gyllid datblygu eiddo masnachol, defnydd cymysg a phreswyl tymor byr o amrywiaeth o gronfeydd gan gynnwys Cronfa Eiddo Masnachol Cymru, Cronfa Eiddo Preswyl Cymru a’r Cymhelliant Datblygu Gwyrdd. 

“Yn falch o gefnogi'r prosiect hwn”

Cafodd y gwaith ei wneud ar y prosiect gan Nicola Crocker, Rheolwr y Gronfa Eiddo, a Karl Jones, Uwch Swyddog Gweithredol Datblygu Eiddo.

Dywedodd Nicola Crocker, Rheolwr y Gronfa Eiddo ym Manc Datblygu Cymru: “Rydym ni’n falch iawn o weithio gyda’r tîm ym Mharc Eirin i gefnogi’r prosiect hwn gyda’n buddsoddiad mwyaf erioed.

“Mae wedi bod yn waith tîm, ac rydym ni’n ddiolchgar i bawb sy’n gysylltiedig, gan gynnwys y cynghorwyr cyfreithiol Hugh James, y syrfewyr monitro Watts Group a’r contractwyr Morganstone.

“Rydym ni’n falch o gefnogi prosiect lle bydd cartrefi’n cael eu hadeiladu gan roi sylw i gynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni, a byddant yn cael eu cyflenwi ar draws marchnadoedd cymysg, gan ddarparu tai fforddiadwy a rhenti cymdeithasol yn yr ardal.”