Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cwmni technoleg o Gymru yn ceisio helpu cleifion â methiant y galon gyda £5 miliwn o fuddsoddiad ecwiti wedi'i arwain gan Fanc Datblygu Cymru

Tom-Davies
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Technoleg busnesau
Twf
Marchnata
Busnesau newydd technoleg
Ceryx

Mae Ceryx Medical yn fusnes o Gaerdydd sy'n gweithio ar dechnoleg rheolydd calon newydd chwyldroadol, gyda'r nod o helpu cleifion â methiant y galon hirdymor.

Mae'r busnes wedi llwyddo i gwblhau rownd buddsoddiad ecwiti gwerth £5, wedi'i harwain gan Fanc Datblygu Cymru a Parkwalk Advisors, buddsoddwr mwyaf y DU mewn cwmnïau deillio prifysgolion, ochr yn ochr â chyfraniadau gan BGF, Bristol Private Equity Club a buddsoddwyr eraill. 

Fel rhan o'r rownd, mae'r Banc Datblygu wedi buddsoddi £2 filiwn drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, ochr yn ochr â buddsoddiad o £1.75 miliwn gan Parkwalk. Bydd y buddsoddiad yn caniatáu i Ceryx fwrw ymlaen â threialon clinigol ar gyfer ei dechnoleg rheoli calon dros dro a datblygu fersiwn lai i'w defnyddio mewn rheolyddion calon y gellir eu mewnblannu. 

Er bod rheolyddion calon cyfredol wedi'u cynllunio i gadw curiad y galon yn gyson, mae technoleg niwronau artiffisial Ceryx yn caniatáu i reolyddion calon gael rheolaeth fwy amrywiol dros rythm y galon, gan ganiatáu iddo ymateb i gyfraddau anadlu ac ymarfer corff y claf. Mae hyn yn cydamseru'r galon â'r ysgyfaint, gan ganiatáu cynnydd yn swyddogaeth y galon. 

Dyma'r ail dro i Ceryx gael buddsoddiad gan y Banc Datblygu, ar ôl denu £3.8 miliwn mewn rownd gyllido yn 2022, lle y buddsoddodd y Banc Datblygu £1 miliwn, gan ganiatáu iddo gynnal treialon ar bobl o'r fersiwn allanol o'i reolydd calon am y tro cyntaf, yn dilyn astudiaeth glinigol fyd-eang wedi'i chanoli yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Meddai Stuart Plant, Prif Swyddog Gweithredol Ceryx Medical: “Mae ein technoleg yn argoeli i fod yn therapi effeithiol i’r rhai sy’n dioddef o fethiant y galon, gan roi’r cyfle iddynt adfer drwy efelychu rhythmau ac amrywioldeb calon iach. Amcangyfrifir bod 30 miliwn o bobl yn dioddef o fethiant y galon ledled y byd, a bod tua hanner yr holl gleifion yn marw o fewn y pum mlynedd gyntaf ar ôl cael diagnosis.

“Rydym yn edrych ymlaen at dreialu’r fersiwn nesaf o’n cynnyrch, ac rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y buddsoddiad hwn gan Fanc Datblygu Cymru a Parkwalk, sy'n caniatáu i ni symud ymlaen i’r cam nesaf.”

Dywedodd Tom Davies, Swyddog Gweithredol yn nhîm Buddsoddiadau Menter Technoleg ym Manc Datblygu Cymru: “Mae Ceryx yn gwmni technoleg feddygol arloesol Cymreig sy’n arwain y gwaith o ddatblygu triniaeth arloesol ar gyfer methiant y galon. Mae gan ei ddyfais rheoli cyflymder y galon y potensial i drawsnewid miliynau o fywydau ledled y byd, ac rydym yn falch o allu ei gefnogi gyda buddsoddiad ecwiti yn y rownd gyllido ddiweddaraf hon.”

Meddai Alun Williams, Cyfarwyddwr Buddsoddi Parkwalk Advisors: “Mae’r cyfle i chwyldroi triniaeth ar gyfer methiant y galon drwy dechnoleg rheolydd calon Ceryx yn amlwg - mae’n cyfuno gwerth cymdeithasol sylweddol â photensial aruthrol ar gyfer twf. Rydym ni yn Parkwalk wrth ein bodd o allu parhau i gefnogi cwmni ymchwil arall wrth iddo gychwyn ar gam nesaf ei daith tuag at drawsnewid bywydau cleifion mewn ffordd gadarnhaol, a hynny ar raddfa fawr.”

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru yn cynnig bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru am gyfnod o hyd at 15 mlynedd.