Wild Lakes

Nakeja Howell
Swyddog Portffolio

Roedd y gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu ei bod yn bosibl i ni symud o fathau hŷn o bŵer i ynni newydd, glanach, ac mae’n rhoi’r seilwaith sydd ei angen arnom i wneud gwelliannau tebyg yn y dyfodol.

Mark Harris, Cyd-sylfaenydd, Wild Lakes

Trosolwg o’r cwmni

Wild Lakes yw parc tonfyrddio cyntaf Cymru ac mae wedi dod yn fan poblogaidd ymysg tonfyrddwyr, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae yno hefyd barc dŵr, yn ogystal â wal ddringo fawr dan do, a gweinir bwyd stryd yn arddull De America yn y tipis sydd yno.

Tîm rheoli

Wild-Lakes-Wales

 

Mark Harris, Sarah Harris a Steph Harri, Cyd-sylfaenwyr - Mae'r brodyr a chwiorydd yn raddedigion mewn podiatreg, chwaraeon a gwyddorau cymdeithasol, a pheirianneg fecanyddol. Maen nhw wastad wedi ystyried Sir Benfro yn gartref iddyn nhw, ac roedden nhw’n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a roddodd gymaint iddyn nhw wrth dyfu i fyny.

Pwrpas y busnes

Wild-Lakes-Wales

 

Mae Wild Lakes Cymru, ger Arberth, yn atyniad llwyddiannus i deuluoedd sy'n cynnig anturiaethau dŵr dan arweiniad hyfforddwyr cymwys. Mae'r gweithgareddau yn y Parc Dŵr yn cynnwys tonfyrddio, reidiau ringo, a chwrs rhwystrau ar y dŵr.

Hefyd, mae yno wal bowldro dan do lle rydych yn dringo heb raffau na harneisiau, sy'n ei gwneud yn fwy hygyrch. Mae'n ffordd wych o roi hwb i’ch cryfder, eich hyblygrwydd, a’ch dycnwch cardiofasgwlaidd.

Bwyty sy’n dathlu coginio gyda glo a phren yw STOKED, ac mae’n defnyddio cynhwysion tymhorol, ffres a lleol mewn lleoliad hamddenol. Mae'r fwydlen, sy'n defnyddio bwyd o bedwar ban byd, yn cyfuno blasau beiddgar ac unigryw sydd wedi ennill enw da i'r bwyty.

Mae Wild Lakes hefyd yn croesawu cŵn, felly gall teuluoedd ddod â'u cyfeillion pedair coes gyda nhw. Drwy gydol y flwyddyn, mae'r parc yn cynnal calendr bywiog o ddigwyddiadau, gan gynnwys sinemâu awyr agored, nosweithiau jamio, digwyddiadau codi arian elusennol, a llawer mwy.

Cyllid

Wild-Lakes

 

Mae Wild Lakes wedi symud i ynni solar ar ôl cael benthyciad gwerth £40,700 gan Fanc Datblygu Cymru, drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mae aráe paneli solar 20kWh newydd wedi galluogi Wild Lakes i gyfnewid ei geblau tonfyrddio sy'n cael eu pweru gan ddisel am rai sy’n cael eu pweru gan ynni solar glân. Yn ogystal â hyn, mae cynlluniau i'r system bweru'r holl offer coginio yng nghegin y parc, gan leihau ei effaith ar yr amgylchedd ymhellach.

Roedd y benthyciad 

Beth mae pobl yn ei ddweud

Fel busnes awyr agored yn un o amgylcheddau naturiol mwyaf trawiadol Cymru, mae ein heffaith amgylcheddol ar flaen ein meddyliau ym mhopeth a wnawn, ac rydyn ni am gymryd pob cam posibl i leihau ein defnydd o ynni a’n hôl troed carbon. Rydyn ni’n gwybod bod hyn yn rhywbeth sydd hefyd yn bwysig iawn i’n cwsmeriaid, sydd wrth eu bodd â’r amgylchedd sydd gennym ni yma, felly rydyn ni eisiau gweithio gyda busnesau ac atyniadau sy’n gweithio’n galed i’w ddiogelu.

Roedd y gefnogaeth a gawsom gan Fanc Datblygu Cymru yn golygu ei bod yn bosibl i ni symud o fathau hŷn o bŵer i ynni newydd, glanach, ac mae’n rhoi’r seilwaith sydd ei angen arnom i wneud gwelliannau tebyg yn y dyfodol.

Mark Harris, Cyd-sylfaenydd, Wild Lakes

Mae Wild Lakes yn safle gwych wedi’i amgylchynu â rhai o’r golygfeydd naturiol gorau yng Nghymru, felly mae’n gwneud synnwyr perffaith iddyn nhw gymryd cam fel hyn i leihau’r effaith maen nhw’n ei chael ar yr amgylchedd o’u cwmpas.

Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd ar gael i gefnogi busnesau fel Wild Lakes sydd eisiau cymryd y cam nesaf, ond nad ydynt efallai’n gwybod ble mae dechrau. Mae wedi rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i symud i ffwrdd o fathau hŷn o ynni a pharatoi eu hunain am newidiadau tebyg yn y dyfodol, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi gallu eu helpu ar hyd y ffordd.

Nakeja Howell, Swyddog Gweithredol Portffolio, Banc Datblygu Cymru

Be' nesaf?

Gwiriwch i weld a yw'ch busnes yn gymwys neu dechreuwch ar eich cais ar-lein nawr.

Cysylltu â ni