Busnes trin cŵn lleol yn ehangu gyda microfenthyciad o £9,000 gan y Banc Datblygu

Boni-Koneti-Ash
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Prynu busnes
Twf
Marchnata
Shampooch Dog Spa

Mae busnes trin cŵn o Sir Fynwy wedi prynu un o'i gymheiriaid ac wedi tyfu i'w bedwerydd salon, gyda'r pryniant wedi'i gefnogi gan ficrofenthyciad o £9,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae sba cŵn Shampooch Dog Spa yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau trin cŵn ar gyfer anifeiliaid anwes yn ei salonau yn Nhrefynwy, Brynbuga a Chwmbrân. Wedi'i gymryd drosodd yn 2024 gan y triniwr cŵn cymwys Daniel Price, mae'n darparu gwasnaeth clipio ewinedd, baddonau, glanhau clustiau, brwsio dannedd, trimio llygaid a thrimio llawn ar gyfer cŵn o bob maint.

Yn gynharach eleni, gwelodd Daniel a'i bartner James Ralph gyfle i brynu Julie's Mucky Pups o Gas-gwent. Fe wnaeth micro-fenthyciad o £9,000 gan Fanc Datblygu Cymru, trwy Gronfa Micro-fenthyciadau Cymru, wedi cefnogi Daniel a James i adnewyddu'r busnes yng Nghas-gwent a gosod offer newydd.

Dyma'r ail dro i'r busnes gael ei gefnogi gan y Banc Datblygu, yn dilyn benthyciad o £15,000 yn yr hydref y llynedd, a helpodd Daniel a James i agor eu siop yng Nghwmbrân.

Dywedodd James Ralph, perchennog Shampooch Dog Spa: “Rydym wedi gallu tyfu’n gyflym oherwydd profiad Dan a’r enw da rydym wedi’i feithrin yn lleol. Roeddem yn ffodus iawn i gael y cyfle i gymryd drosodd y busnes yng Nghas-gwent, ac roedd y gefnogaeth a gawsom gan y Banc Datblygu yn golygu y gallem ei ailwampio’n gyflym ar gyfer ein hanghenion a’n brand.

“Roedden ni eisoes yn adnabod y Banc Datblygu o’r adeg y gwnaethon ni ehangu i Gwmbrân, ac roedden ni’n gwybod y bydden nhw’n gallu ein helpu ni gyda’r cam nesaf hwn yn ein taith fel busnes.”

Dywedodd Boni Koneti-Ash, Cynorthwyydd Monitro Portffolio ym Manc Datblygu Cymru: “Mae Dan a James wedi meithrin busnes gwych yn Shampooch Dog Spa, gyda lefelau uchel o gwsmeriaid sy’n dychwelyd ac enw da am drin cŵn yn lleol. Mae’r gyfradd y maent wedi tyfu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn brawf o ba mor uchel eu parch ydynt, ac rydym yn falch o fod wedi eu cefnogi gyda cham nesaf eu twf.”

Mae'r Banc Datblygu yn cynnig microfenthyciadau o £1,000 i £100,000 i helpu i ariannu twf busnes, gyda chyfraddau llog sefydlog am hyd y benthyciad, telerau hyblyg a cheisiadau cyflym ar gael.