Banc Datblygu Cymru yn cefnogi RJD Developments gyda benthyciad o £1.25 miliwn ar gyfer cartrefi newydd ar Ynys Môn

Keith-Clements
Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
RJD

Mae Banc Datblygu Cymru wedi cefnogi RJD Developments (Anglesey) Limited, sydd wedi'i leoli yn Ynys Môn, gyda benthyciad o £1.25 miliwn i helpu i ddarparu chwe chartref newydd ym Mryn Brochon ym mhentref Talwrn, ger Llangefni.

Mae'r prosiect yn cynnwys dau fyngalo ar wahân tair ystafell wely, un pâr o gartrefi pâr (rhan-gysylltiedig) tair ystafell wely ac un pâr o gartrefi pâr (rhan-gysylltiedig) dwy ystafell wely, gan gynnwys uned ddwy ystafell wely fforddiadwy. Dyma'r prosiect datblygu eiddo cyntaf y mae RJD wedi ymgymryd ag o gyda chefnogaeth gan y Banc Datblygu. Roedd y prosiect hefyd yn gymwys ar gyfer y Cymhelliant Cartrefi Gwyrdd, gyda phympiau gwres ffynhonnell aer wedi'u gosod yn yr eiddo newydd ar y safle.

Cafodd y safle ei gaffael gan RJD ym mis Medi 2022 fel y prosiect cyntaf i'r busnes, a ffurfiwyd yn 2020 fel menter ar y cyd rhwng Dylan Southern a Robert John Williams.

Mae prosiect Bryn Brochon yn darparu cymysgedd o gartrefi o ansawdd uchel sy'n adlewyrchu'r angen lleol am dai yn Nhalwrn a'r cyffiniau. Gyda chyfuniad o dai ar wahân a thai pâ (rhan-gysylltoedig), mae'r datblygiad yn cynnig dewis i deuluoedd, pobl sy'n lleihau maint eu cartrefi a phrynwyr tro cyntaf sy'n awyddus i aros yn eu cymuned.

Wedi'i leoli ger Llangefni, bydd y datblygiad yn helpu i ddiwallu'r galw parhaus am gartrefi modern, ynni effeithlon ar Ynys Môn, a chefnogi uchelgeisiau cynaliadwyedd ac adfywio ehangach y rhanbarth trwy adeiladu cartrefi wedi'u cynllunio'n dda o fewn gosodiad pentref.

Dywedodd Robert John Williams, Cyfarwyddwr RJD Developments: “Rydym yn falch iawn o fod yn bwrw ymlaen â’n datblygiad cyntaf fel RJD. Mae Talwrn yn gymuned wych, a bydd Bryn Brochon yn cynnig cymysgedd o gartrefi o ansawdd uchel sy’n addas i anghenion lleol.

“Mae cefnogaeth barhaus y Banc Datblygu yn rhoi hyder i ni wrth i ni symud ymlaen â’r prosiect cyntaf hwn, ac rydym yn ddiolchgar am y ffordd adeiladol y maent wedi ein helpu i symud o drafodaethau cynnar i gyflawni.”

Dywedodd Keith Clements, Swyddog Gweithredol Datblygu Eiddo Banc Datblygu Cymru: “Mae RJD Developments yn cyfuno gwybodaeth ymarferol am adeiladu ag arweinyddiaeth gref am brosiectau, ac mae Bryn Brochon yn enghraifft wych o’r math o gynllun tai dan arweiniad Cymru yr ydym am ei gefnogi.

“Bydd y datblygiad yn dod â ‑chartrefi sydd wedi’u cynllunio’n dda i Talwrn, gan gynnwys eiddo fforddiadwy i bobl leol. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Dylan a Robert wrth iddynt gyflawni eu prosiect cyntaf gyda’i gilydd o dan faner RJD.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn cefnogi adeiladwyr tai busnesau bach a chanolig drwy Gronfa Eiddo Preswyl Cymru, gan gynnig benthyciadau o £150,000 i £10 miliwn ar gyfer datblygiadau preswyl a chymysg ‑ledled Cymru. Mae'r gronfa'n helpu i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran ynni wrth alluogi datblygwyr i gyflwyno cynlluniau newydd mewn cymunedau ledled y wlad.

Am ragor o wybodaeth, ewch i weld bancdatblygu.cymru.