Head Candy yn adleoli i'w cartref newydd delfrydol

David-Knight
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Head Candy

Mae gŵr a gwraig Lyndsey a Paul Griffiths sy'n gweithredu fel tîm wedi symud i mewn i'w cartref delfrydol. 

Ar ôl deng mlynedd o rentu yn Tirydail, mae'r deuawd trin gwallt wedi prynu eu heiddo busnes eu hunain ar Heol yr Esgob, Rhydaman.

Mae micro-fenthyciad o £30,000 gan Fanc Datblygu Cymru wedi helpu'r cwpl i drawsnewid yr ysgubor segur i mewn i salon trin gwallt moethus gyda lle parcio pwrpasol.

Mae'r salon sydd wedi cael ei chynllunio'n hyfryd bellach yn cynnwys pum gorsaf waith a derbynfa groesawgar. Mae'r salon wedi'i chofrestru gyda L'Oreal a GHD.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Paul Griffiths fod yr amser yn iawn i brynu: "2007 oedd hi  pan sefydlwyd Head Candy yn Tirydail am y tro cyntaf. Ar ôl rhentu am ddeng mlynedd, roeddem wir eisiau buddsoddi yn ein lle ein hunain 

"Mae gennym gwsmeriaid ffyddlon iawn felly roedd hi'n bwysig iawn inni allu cynnig amgylchedd hardd i'n cleientiaid ymlacio. Mae ein cartref newydd yn yr Ysgubor Wair  yn bendant wedi cael derbyniad da! Mae ein cleientiaid wrth eu bodd gyda'r lle ac rydyn ni wedi gwirioni gyda'r canlyniad ond ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth a chefnogaeth gan y banc datblygu. Fe wnaethon’ nhw ei gwneud hi mor hawdd i ni sicrhau'r cyfalaf gweithio yr oedd ei angen arnom i adnewyddu'r salon. Roedd y broses yn gyflym ac yn syml. A dweud y gwir, bechod na fuasem wedi gwneud hyn  flynyddoedd yn ôl! "

Mae David Knight yn Swyddog Buddsoddi gyda thîm micro-fenthyciadau Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: "Rydyn ni yma i helpu busnesau bach fel Head Candy i ffynnu ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi helpu 49 o fusnesau lleol llynedd. Mae ein proses gyflym yn golygu ei bod yn syml iawn i berchnogion busnes wneud cais am gyllid. O brynu stoc a chyfarpar newydd i adeiladau neu gaffaeliadau newydd, fe allwn ni helpu i gyflawni eu potensial gyda micro fenthyciadau sy'n darparu'r cyfalaf sydd wir ei angen ar yr adeg pan fo fwyaf ei angen."