Y banc datblygu yw'r dewis cyntaf ar gyfer yr accident repair centre

Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
first choice

Mae Cyfarwyddwyr First Choice Accident Repair Centre sy'n seiliedig yng Nghaerdydd wedi cwblhau gwerthiant rheoli gwerth £2.1 miliwn.

Trwy gyfrwng bargen a ariannwyd yn rhannol gan y Banc Datblygu Cymru trwy Gronfa Olyniaeth Rheoli Cymru, mae'r cyfarwyddwyr Michael Summers, Calum Young a Sion Coughlin wedi prynu'r busnes gwerth £3 miliwn.

Mae'r cytundeb yn cynnwys buddsoddiad ecwiti o £1.1 miliwn gan y Banc Datblygu Cymru. Bydd Mervyn Ham o Iridium hefyd yn cymryd rhan ecwiti ynghyd â rôl y Cadeirydd.

Yn seiliedig ar Ipswich Road, Caerdydd, sefydlwyd y First Choice Accident Repair Centre yn 2002 fel gweithdy atgyweirio damweiniau a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer ceir a cherbydau bach eraill. Mae'r cwmni yn atgyweirydd cymeradwy ar gyfer y rhan fwyaf o ddarparwyr yswiriant mawr blaenllaw ac mae'n cynnig gwasanaeth rheoli damweiniau cynhwysfawr, adfer 24 awr, rheoli hawliadau ac mae ganddynt fflyd helaeth o gerbydau cwrteisi. Mae sicrwydd gwarant cyflawn yn safonol.

Meddai'r Cyfarwyddwr Michael Summers: "Roedd hi'n wych gweld pa mor hyblyg a hawdd i ddelio â hwy oedd y banc datblygu wrth strwythuro'r trafodiad hwn, ac mae profiad Mervyn yn Iridium fel perchennog busnes go iawn yn amhrisiadwy."

Meddai Mervyn Ham: "Mae hwn yn dîm gwych i weithio gydag o, ac unwaith eto mae Banc Datblygu Cymru yn dangos ei fod yn grefftwr cyfleoedd heb ei ail ar gyfer perchnogion a thimau rheoli yng Nghymru."

Dywedodd Bethan Cousins, Cyfarwyddwr Busnes Newydd ar gyfer Banc Datblygu Cymru: "Mae hon yn enghraifft wych o ble y gall ein cyllid olyniaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae pryniant rheoli sy'n cael ei ysgogi gan y gwerthwr yn ddull poblogaidd iawn o sicrhau parhad a chyfle busnes ar gyfer timau rheoli. Dyma yn aml yw'r dull cyflymaf o ran cwblhau bargeinion gyda benthyciadau hyblyg ac ecwiti ar gael a all gael ei deilwra i fodloni gofynion penodol.

"Mae'r tîm yn First Choice wedi creu brand llwyddiannus iawn. Mae hwn yn fusnes masnachol hir-sefydledig, proffidiol gydag uwch dîm rheoli sydd wedi bod yn barod ar gyfer y symudiad hwn ers peth amser. Dymunwn bob llwyddiant iddynt."

Mae Laura Herdman yn Aelod Gydymaith gyda Capital Law. Y hi wnaeth gynghori'r tîm a oedd yn ymdrin â'r pryniant gan y rheolwyr. Meddai: "Bu'n bleser gweithio gyda chyfarwyddwyr newydd First Choice Accident Repair ar y fargen hon gyda Banc Datblygu Cymru ac Iridium. Mae'n wych gweld olyniaeth o fewn busnesau llwyddiannus yng Nghymru fel First Choice Accident Repair ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw wrth iddynt gymryd y cam nesaf."

Hugh James a Seamus Gates o Broomfield Alexander gynghorodd y gwerthwyr. Bu Geraint Tilseley a James Vaughan o Geldards yn gweithredu ar gyfer y Banc Datblygu Cymru.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr