Owen & Owen, rheoli tir a stadau, yn cwblhau pryniant ecwiti uchelgeisiol yn llwyddiannus

Alun Thomas
Rheolwr Rhanbarthol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
owen

Mae Lloyd James, Partner yn Owen & Owen wedi cwblhau pryniant ecwiti'r busnes diolch i fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Owen & Owen yn gwmni sefydledig o syrfewyr siartredig, sy'n arbenigo mewn rheoli tir ac ystadau ac mae wedi'i leoli ym Mhenfro.

Mae'r cytundeb hwn yn cloi'r cynllun olyniaeth ar gyfer partneriaid sy'n ymddeol Anthony Owen a Joanne Owen a ddechreuodd yn 2015 pan ymunodd Lloyd James â'r bartneriaeth.

Darparodd Colin John, Partner yn Llewelyn Davies, Cyfrifwyr Siartredig, sydd wedi'i leoli yn Hendy-gwyn ar Daf, gyngor ariannol arbenigol ac mae bellach yn ymgynghorwyr cyllid i'r busnes.

“Mae Banc Datblygu Cymru a Llewelyn Davies wedi'n galluogi i brynu'r busnes yn llwyddiannus” meddai Lloyd James, Rheolwr Gyfarwyddwr Owen & Owen Limited sydd newydd ei ffurfio. “Byddwn hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn technoleg ac mae'n gyffrous ein bod eisoes yn tyfu ein tîm.”

Dywedodd Alun Thomas, Rheolwr Rhanbarthol Gorllewin Cymru ym Manc Datblygu Cymru “Roedd yn wych gweithio gyda Lloyd a'i gynghorydd Colin John ar y cytundeb hwn. Maent wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i gwsmeriaid presennol a newydd ac rwy'n edrych ymlaen at berthynas hir a ffrwythlon.”

Dywedodd Colin John, Partner yn Llewelyn Davies “Rwyf wrth fy modd bod y cytundeb hwn wedi dod i gasgliad mor gadarnhaol. Nid oeddwn yn oedi cyn rhoi Lloyd mewn cysylltiad ag Alun yn y banc datblygu pan geisiodd ddewisiadau ariannu. Rwyf bob amser wedi gweld y banc yn hyblyg, gyda gwybodaeth dda o'r farchnad leol yma yng ngorllewin Cymru.”

Mae gan y Banc Datblygu Cymru gronfa benodol i gefnogi gwerthiannau ac olyniaeth busnes, Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Mae buddsoddiad o £1,000 hyd at £5 miliwn hefyd ar gael o nifer o gronfeydd eraill y banc datblygu.

“Mae olyniaeth gynlluniedig, raddol yn ffordd wych o sicrhau parhad busnes i'ch cwsmeriaid a'ch staff,” ychwanegodd Alun Thomas.

“Mae'n wych gweld niferoedd cynyddol o berchnogion busnes yng Nghymru yn cynllunio eu hetifeddiaeth fusnes fel hyn. Rydym yn gweithio gyda mwy a mwy o werthwyr a thimau rheoli i gefnogi trafodion olyniaeth llyfn, fel y cwblhawyd yn Owen & Owen.”

Sefydlwyd Owen ac Owen ym 1991 gyda swyddfeydd ym Mhenfro, ac erbyn hyn mae'n gwasanaethu cwsmeriaid ar draws de a gorllewin Cymru. Mae tîm o syrfewyr siartredig cymwysedig yn darparu rheolaeth tir ac eiddo, prisio, prynu a gwerthu, a gwasanaethau cynghori arbenigol cysylltiedig i ystadau, busnesau ffermio, elusennau, buddsoddwyr eiddo a busnesau gwestai.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr