Hen Orsaf Bad Achub Llandudno yn gartref i ganolfa ddringo newydd

Kelly-Jones
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
boathouse climbing centre

Mae canolfan ddringo dan do newydd wedi agor yn yr hen dŷ cychod yn Llandudno, diolch i fenthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Canolfan Ddringo'r Boathouse yn cael ei rhedeg gan Andy Sutcliffe a'i wraig Emma-Jane a nhw yw'r unig ddarparwyr yn yr ardal sy'n rhedeg clybiau wythnosol ar gyfer plant gydag anableddau corfforol a meddyliol.

Mae Andy, 41, wedi treulio blynyddoedd lawer yn datblygu ei sgiliau a'i wybodaeth yn y sector awyr agored gan ddarparu hyfforddiant dringo creigiau, dringo mynyddoedd, caiacio, canŵio a cherdded ceunentydd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae Canolfan Ddringo y Boathouse, sydd yn hen orsaf gychod yr RNLI ar Stryd Lloyd, Llandudno, yn benllanw chwe blynedd o gynllunio ond mae Andy wedi gallu gwireddu ei freuddwyd yn y diwedd gyda chymorth cyllid Banc Datblygu Cymru.

Dywedodd: "Rwyf wedi rheoli'r cyfleusterau dringo dan do ar gyfer Canolfannau Hamdden Conwy yn fy rôl fel Cydlynydd Dringo yn flaenorol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ond yn anffodus nid oedd y cyngor mewn sefyllfa i fuddsoddi a datblygu cyfleusterau a rhaglenni ymhellach.

“Diolch i’r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru llwyddais i adnewyddu adeilad anhygoel ac agor cyfleuster sy’n helpu i hyrwyddo’r ardal ar gyfer twristiaeth ac rydym yn denu hyd yn oed mwy o bobl o’r gymuned leol i ddod i ddefnyddio’r cyfleusterau. Ni yw cartref Conwy Monkeys sy'n glwb dringo i blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth a'u brodyr a'u chwiorydd hefyd. Mae yna bolisi drws agored i anghenion ychwanegol eraill gyda neu heb ddiagnosis ffurfiol. Yn y tymor hir rydym yn gobeithio ehangu a chychwyn Conwy Gorillas ar gyfer oedolion sydd gan anghenion ychwanegol.

“Roeddem am ddatblygu’r Hen Orsaf Bad Achub gyda pharch a gofal am ei hanes ac rydym wedi defnyddio busnesau a chyflenwyr lleol ar gyfer y gwaith ail wampio. Rydym yn apelio at ddringwyr datblygedig a dechreuwyr fel ei gilydd. Mae ein dringwr ieuengaf yn ddwy oed a'n hynaf yn 94, felly mae rhywbeth at ddant pawb ac mae mwy o bobl yn cael y cyfle i gymryd rhan."

Lluniwyd y cynlluniau ar gyfer Canolfan Ddringo y Boathouse gan Leigh Topping, dylunydd sy'n arbenigo mewn strwythurau antur dan do. Roedd yn rhedeg ei fusnes waliau dringo ei hun yng Ngorllewin Swydd Efrog sydd â sylfaen cwsmeriaid sy'n tyfu'n gyflym, ac roedd hynny'n ei wneud yn fentor gwerthfawr i Andy.

Dywedodd Kelly Jones, y Swyddog Portffolio: “Mae Andy wedi bod yn cynnig gwasanaethau dringo ac antur i bobl yr ardal ers nifer o flynyddoedd. Mae ei waith gyda phlant anabl a'u teuluoedd wedi cael effaith gadarnhaol wirioneddol ar y gymuned leol. Gyda'r prosiect hwn, mae'n gallu cynnig cyfleusterau cyfoes i ddringwyr yn Llandudno. Mae'r Banc Datblygu yn angerddol am wneud buddsoddiadau a all gael effaith gymdeithasol ystyrlon ar y gymuned. Cawsom ein taro, nid yn unig gan gynllun busnes cadarn Andy ond yr effaith gadarnhaol y bydd Canolfan Ddringo'r Boathouse yn ei chael ar yr ardal.”