Hwb o £20,000 i Forwyr Sir Benfro i Agor yr Ail Ganolfan yn Lydstep

Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
pembrokeshire sailing

Academi Hwylio Perfformiad Sir Benfro yw'r cyntaf i fanteisio ar broses fenthyca llwybr cyflym wedi'i hailwampio ar gyfer benthyciadau hyd at £25,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Bydd selogion chwaraeon dŵr a hwylio yn hwylio o Lydstep pan fydd Academi Hwylio Perfformiad Sir Benfro yn agor ail ganolfan y Pasg hwn.

Gan ddefnyddio’r cyfleuster benthyca llwybr cyflym a ddiweddarwyd yn ddiweddar gan Fanc Datblygu Cymru, mae Richard wedi sicrhau £20,000 i brynu dau gwch hwylio a chychod pŵer ar gyfer ail safle ym Mhentref Gwyliau Carafanau Bourne Leisure yn Lydstep. Bydd gan gwsmeriaid fynediad at gawodydd a thoiledau ar y safle, yn ogystal a'r caffi Hafan.

Fel prif ganolfan hyfforddi hwylio a chychod pŵer y Gymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) yn ne orllewin Cymru, mae Academi Hwylio Perfformiad Sir Benfro yn darparu hyfforddiant ar gyfer selogion lefel mynediad a hwylio perfformiad uchel.

Wedi'i lleoli yn Nghildraeth Llanion ger Doc Penfro, mae Academi Hwylio Perfformiad Sir Benfro yn cael ei rhedeg gan gyn-hyfforddwr y lluoedd Richard Owens. Sefydlodd y busnes yn 2013 ar ôl cystadlu yn flaenorol ar lefel Ewropeaidd a Chenedlaethol fel Hyfforddwr gyda Chymdeithas Hwylio'r Fyddin.

Dywedodd y Cyfarwyddwr a’r Prif Hyfforddwr Richard Owens: “Cawsom gyfle i agor ail ganolfan yn Lydstep ond roeddem angen mynediad at gyllid cyflym er mwyn i ni allu bachu ar y cyfle yn gyflym. Mae'r benthyciad cyflym gan y Banc Datblygu yn golygu ein bod yn gallu buddsoddi mewn offer newydd ac arallgyfeirio ein busnes i'r farchnad dwristiaeth; gan ddarparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer twf a chreu gwaith newydd ar gyfer hyfforddwyr hwylio ar eu liwt eu hunain.

“Er mai swm cymharol fach o arian yw hwn, bydd y benthyciad o £20,000 gan y Banc Datblygu yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n potensial ni ac i fywoliaeth pobl leol sy’n dibynnu arnom am waith. Mae'n fuddugoliaeth fawr ac, yn holl bwysig, mae'r broses llwybr cyflym newydd yn golygu ei bod wedi bod yn gyflym o ddifri.”

Mae'r benthyciad llwybr cyflym gan Fanc Datblygu Cymru ar gael i bob busnes sydd wedi bod yn masnachu yng Nghymru ers dros ddwy flynedd. Yn flaenorol roedd cyllid wedi'i gyfyngu i £10,000 ond mae benthyciadau hyd at £25,000 bellach ar gael gyda phenderfyniad yn cael ei wneud mewn dim ond dau ddiwrnod gwaith. Mae angen datganiad o asedau a rhwymedigaethau yn hytrach na chynllun busnes llawn. Mae’r llog yn sefydlog dros gyfnod y benthyciad.

Mae Emily Wood yn Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: “Mae ein benthyciadau llwybr cyflym bellach ar gael hyd at £25,000 gyda phenderfyniad yn cael ei wneud o fewn dau ddiwrnod. Mae'r cyllid hwn yn ddelfrydol ar gyfer busnesau sydd wedi bod yn masnachu ers dros ddwy flynedd ac sy'n barod i gynyddu eu maint, buddsoddi mewn stoc ychwanegol, datblygu cynhyrchion neu sydd angen help llaw gyda llif arian. Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd gyda’r ymateb hyd yma gan fusnesau fel Academi Hwylio Perfformiad Sir Benfro. Mae'r busnesau rydyn ni'n eu cefnogi yn hoffi'r broses ymgeisio hawdd ar-lein ynghyd â chael person yn hytrach na chyfrifiadur yn gwneud penderfyniad. Mae cael y gefnogaeth gan ein timau lleol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Mae gan Richard fusnes gwych sy’n uchel ei barch gan y gymuned hwylio a chwaraeon dŵr. Mae agor yr ail ganolfan yn Lydstep yn ddilyniant naturiol ac, fel cyrchfan i dwristiaid, bydd yn ategu'r brif ganolfan yn Llanion fel gweithrediad gydol y flwyddyn. Rydyn ni'n edrych ymlaen at ein hymweliad cyntaf!”