Mae trawsnewid adeilad rheilffordd Fictoraidd yn rhan o gyfadeiladau adloniant a busnes bron wedi'i gwblhau wedi iddynt sicrhau buddsoddiad o £2.9 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.
Disgwylir iddo agor yn yr Haf 2020, ac mae'r sied nwyddau'r 1880au ar Hood Road, Y Barri yn rhan o'r Chwarter Arloesi yng Nglannau'r Barri, sy'n fenter adfywio ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun defnydd cymysg yn cynnwys pentref o gyfadeiladau cynhwysyddion cludo a fflatiau.
Mae'r cynllun sydd wedi'i osod a'i werthu'n gyfan gwbl yn cael ei ddatblygu gan DS Properties (Goods Shed) Limited sydd wedi ennill gwobrau a disgwylir iddo greu tua 150 o swyddi. Yn dilyn gwaith cynllunio gofalus yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth, mae'r gwaith ar y safle wedi ailddechrau yn dilyn saib cychwynnol ar ddechrau cyfnod llwyrgloi Cofid-19.
Mae DS Properties (Goods Shed) Limited yn masnachu fel y Loft Co. Mae Simon Baston, Rheolwr Gyfarwyddwr DS Properties yn disgrifio'r cynllun fel stryd drefol gyntaf y DU, gyda phobl yn gallu byw, gweithio a chwarae i gyd ar y safle. Meddai: “Rydyn ni'n dod ag adfywio cynaliadwy i gymunedau ledled Cymru. Mae pobl eisiau uniaethu â threftadaeth a diwylliant lleol mewn amgylchedd sy'n gwneud synnwyr o ran sut maen nhw eisiau byw, gweithio a siopa.
“Mae'r 'Stryd Fawr' yn ailsefydlu ei hun. Mae'n ymwneud â'r profiad a, gyda chymorth Banc Datblygu Cymru, rydym yn gweithio'n galed i adnewyddu’r stryd fawr a chymunedau lleol mewn lleoliadau gwych fel eu bod yn gallu dod yn gyrchfannau yn eu rhinwedd eu hunain. Mae effaith gymdeithasol ac economaidd ein gwaith yn bellgyrhaeddol. Nid mater o greu swyddi yn unig yw hyn, mae'n ymwneud ag ailgysylltu pobl â'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw trwy ddod â bywyd newydd ac ymdeimlad o bwrpas i adeiladau a oedd unwaith wrth galon y gymuned leol. Dyna beth sydd mor bwysig am ein perthynas hir sefydlog â Banc Datblygu Cymru.”
Daw'r benthyciad o £2.9 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru o Gronfa Safleoedd Segur Cymru. Mae'r gronfa'n darparu benthyciadau ar gyfer datblygiadau preswyl yng Nghymru na ellir eu symud ymlaen gyda chyllid datblygu traddodiadol. Mae benthyciadau o £150,000 i £4 miliwn ar gael hyd at 90% o'r Gwerth Datblygu Gros gan gynnwys hyd at 100% o'r costau adeiladu, gyda thelerau o hyd at bedair blynedd.
Dywedodd Nicola Crocker o Fanc Datblygu Cymru: “Bydd datblygiad y Goods Shed yn golygu bod adeilad rheilffordd brics treftadaeth yn dod yn ôl yn fyw ac yn dod yn gartref i oddeutu 30 o fusnesau newydd.
“Mae effaith gymdeithasol ac economaidd y cynllun adfywio gwych hwn yn ddwys oherwydd fe fydd y datblygiad yn tyfu’n organig; bydd yn creu tua 150 o swyddi ac yn denu ymwelwyr i'r ardal. Rydym yn falch iawn bod y gwaith wedi gallu ailddechrau'n ddiogel ar y safle a'n bod ninnau yn chwarae ein rhan wrth sicrhau bod y datblygiad cyffrous hwn yn cael ei wireddu.
Ychwanegodd Simon Baston: “Y peth gwych am weithio gyda Nicola a’r tîm ym Manc Datblygu Cymru yw eu bod nhw'n ein deall ni a'r hyn rydym yn ei wneud ac maen nhw'n barod i ymrwymo i ariannu hynny gyda buddsoddiad sy’n sbarduno newid go iawn. Nid yw ein datblygiadau yn brosiectau di-ysbryd y tu allan i'r dref. Nid ydym yn ddatblygwr sy'n cynnig cynlluniau sydd i gyd yn debyg i'w gilydd, mae effaith gymdeithasol yn flaenoriaeth gennym. Mae ots gynno' ni ein bod ni'n gwneud y peth iawn i bobl a lleoedd.”
Mae datblygiadau Loft Co’s yn cynnwys y Tramshed yng Nghaerdydd, sydd bellach yn lleoliad cerddoriaeth poblogaidd, gyda bariau, bwytai, canolfan tech, a swyddfeydd. Mae'r Pumphouse yn Y Barri yn adeilad rhestredig Gradd II o'r 1880au sydd bellach yn gartref i gampfa, siop goffi a bwyty enwog, yn ogystal â fflatiau ar gyfer byw / gweithio. Enillodd y prosiect sawl gwobr yn genedlaethol. Y Loft Co oedd yn gyfrifol am adnewyddu'r warws bondiau rhestredig hynaf yng Nghymru hefyd. Mae The Jennings ym Mhorthcawl bellach yn gartref i fwytai ac unedau byw / gweithio.