Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cwpl o Gonwy yn prynu Hops & Scotch a dechrau ar eu menter fusnes newydd

Rhiannon-Brewer
Dirprwy Reolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
hops

Mae Hops & Scotch ar y fwydlen ar gyfer trefnwyr digwyddiadau a chynllunwyr priodas wrth i’r cwpl o Ogledd Cymru Chris ac Anna Naylor wireddu eu breuddwyd o redeg eu busnes lletygarwch eu hunain.

Wedi'u lleoli yng Nghonwy, mae Chris ac Anna wedi prynu Hops & Scotch fel busnes gweithredol gan deulu yn Sir Fynwy. Mae benthyciad micro o £36,000 gan Fanc Datblygu Cymru bellach wedi galluogi’r Naylor’s i brynu’r brand, ewyllys da a’r asedau gan gynnwys bocs ceffylau wedi’i drosi a dau far pren.

Mae Hops & Scotch yn darparu gwasanaeth llogi bar preifat i briodasau a digwyddiadau preifat ledled y DU. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys sefydlu a steilio'r bar pren, pympiau, oergelloedd a'r system oeri. Mae Hops & Scotch hefyd yn darparu staff ar gyfer pob digwyddiad ynghyd â Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro.

Gydag archebion eisoes yn dod i mewn ar gyfer 2021 wrth i briodasau gael eu haildrefnu o 2020, mae'r Naylor's yn paratoi ar gyfer blwyddyn gyntaf brysur o fasnachu. Dywedon nhw: “Mae pandemig presennol Covid-19 yn golygu nad yw nawr yn amser amlwg i fod yn dechrau ar fenter newydd ond roedd prynu Hops & Scotch yn gyfle rhy dda i’w golli. Gyda chefnogaeth Banc Datblygu Cymru, rydyn ni'n gwireddu ein breuddwyd o weithio i ni'n hunain. Mae'n fater o ddewis ffordd o fyw a fydd yn gweddu'n berffaith i'n teulu ac rydyn ni'n gwybod bod gennym ni gefnogaeth y Banc Datblygu.”

Mae Rhiannon Brewer yn Ddirprwy Reolwr Cronfa ar gyfer tîm micro fenthyciadau Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: “Mae ein Cronfa Micro Fenthyciadau yn berffaith ar gyfer mentergarwyr fel Anna a Chris sydd angen cyllid i brynu busnes gweithredol neu ar gyfer sefydlu busnes newydd. Mae ein benthyciadau wedi galluogi llawer o fusnesau ledled Cymru i ddechrau a thyfu, yn ogystal â helpu i gefnogi caffaeliadau busnes. Yn fwy na hynny, mae ein  hymagwedd hyblyg yn golygu y gallwn strwythuro'r telerau i weddu i anghenion busnes.”