Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cwmni o Gymru sy’n arbenigo mewn Deallusrwydd Artiffisial yn gwneud penodiadau pwysig

Colin-Batten
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
paul hide

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Bot-Hive.

Cyn Reolwr Gyfarwyddwr Sharp UK a Rheolwr Cyffredinol Marchnata Sony UK yn ymuno â phencadlys Bot-Hive yng Nghaerdydd, sef platfform roboteg a thechnoleg awtomeiddio ar-lein mwyaf y byd.

Mae penodi Paul Hide yn Gynghorydd Strategol ar strategaeth fasnachol y cwmni yn hwb sylweddol i’r cwmni a grëwyd yn 2019, ac mae’n cysylltu cwmnïau, sefydliadau ac unigolion a chanddynt gynnyrch awtomeiddio arloesol a gwybodaeth gyffredinol am y diwydiant roboteg. Penderfynodd Bot-Hive ymsefydlu yng Nghymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, ac mae ganddo swyddfeydd ym Mryste ac Amsterdam.  Gwnaed y penodiad drwy’r rhwydwaith cadarn a gafodd ei gyflwyno i dîm Bot-Hive gan Fanc Datblygu Cymru, ar ôl iddo fuddsoddi ecwiti yn y cwmni yn gynharach eleni.

Meddai Jacques Bonfrer, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Bot-Hive: “Mae gan Paul wybodaeth a phrofiad helaeth a fydd yn gaffaeliad mawr i’r hyn rydym yn ei gyflawni yn Bot-Hive.  Ym mhob un o swyddi blaenorol a phresennol Paul, gwelwyd fod awtomeiddio yn un o brif hanfodion y timau a’r sefydliadau y bu’n gyfrifol amdanynt. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos ag ef.”

Paul yw’r penodiad cyntaf o dri phenodiad newydd a fydd yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf wrth i Bot-Hive geisio cryfhau ei statws yn y farchnad fel un o bartneriaid newydd y sianel ar gyfer gweithgynhyrchwyr roboteg, integreiddwyr a sefydliadau sy’n awyddus i gynnwys roboteg yn rhan o’u llif gwaith. Rhai o’i brif gwsmeriaid yw’r grŵp Japaneaidd Fanuc, a’r grŵp technoleg rhyngwladol Schunk.

Mae gan Paul dros 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y Sector Technoleg, ac mae’n Brif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr Offer Domestig (AMDEA) ar hyn o bryd. Yn y gorffennol bu’n Brif Swyddog Gweithredol Tech UK, sef y brif gymdeithas fasnach ar gyfer technoleg yn y DU.

Meddai Paul: “Rwyf wrth fy modd o gael y cyfle i weithio gyda thîm Bot-Hive.

Awtomeiddio Diwydiannol yw’r pedwerydd chwyldro ym maes gweithgynhyrchu ac optimeiddio’r gadwyn gyflenwi ac mae deallusrwydd artiffisial a Roboteg yn rhan hanfodol o greu atebion newydd. Mae’r posibiliadau yn anhygoel ac mae Bot-Hive mewn sefyllfa dda i fod yn un o’r prif arweinwyr i hyrwyddo’r byd newydd hwn.”

Meddai Col Batten o Fanc Datblygu Cymru: “Mae gan Paul brofiad helaeth o’r diwydiant ac mae’n cyflwyno rhwydwaith gwych i Bot-Hive. Mae ei benodiad yn ategu’r hyn yr ydym ni a’r cwmni’n ei gredu, sef bod y busnes technoleg cyffrous hwn yn sbardun i’r sector roboteg byd-eang, a hynny o brifddinas Cymru.  Rydym yn hynod falch ein bod wedi cyflwyno Paul i’r cwmni.”