1. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â'n cynnyrch benthyciad
Pam mae angen i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig ddefnyddio fy ngwybodaeth bersonol?
Os byddwch yn gwneud cais i ni am fenthyciad, bydd angen i chi roi gwybodaeth i ni amdanoch chi. Mae hyn er mwyn i ni allu penderfynu a ydych yn gymwys i gael benthyciad. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn parhau i ddefnyddio'ch gwybodaeth fel rhan o'n rheolaeth barhaus o gyllid i chi.
Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch a ddarperir gan eraill i lywio ein penderfyniadau benthyciad. Er enghraifft, os ydych chi'n gysylltiedig yn ariannol ag ymgeisydd, yna bydd angen i ni gasglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi'ch dau.
Rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth bersonol amdanoch gyda thrydydd partïon, gan gynnwys adrannau ac asiantaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n gweithio ar eu rhan, er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a chytundebol, a lle mae er ein budd cyfreithlon i wneud hynny (ar gyfer er enghraifft, ar gyfer atal twyll neu gamymddwyn ariannol, neu i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau'r cynllun).
Pa wybodaeth sydd angen i mi ei rhoi i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig?
Bydd yr union wybodaeth sydd ei hangen arnom yn cael ei nodi ar y ffurflen gais ei hun. Bydd yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad, cyfeiriadau blaenorol, a dyddiad geni. Byddwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth am eich sefyllfa ariannol.
Os byddwn yn penderfynu cynnig benthyciad, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen monitro amrywiaeth. Bydd unrhyw wybodaeth a roddwch i ni ar y ffurflen hon ddim ond yn cael ei defnyddio i'n helpu i fonitro a ydym yn cyflawni cyfle cyfartal gwirioneddol wrth ddarparu ein gwasanaethau. Ni fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnoch chi.
Beth mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn ei wneud â'm gwybodaeth?
Pan fyddwch yn darparu eich gwybodaeth i ni, neu os caiff ei darparu gan eraill fel rhan o gais, byddwn yn ei defnyddio er mwyn asesu’r cais ac i benderfynu a ddylid darparu’r benthyciad ai peidio. Yna byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth fel rhan o'n rheolaeth barhaus o'r benthyciad ac i hwyluso eich trafodion eiddo. Gall ein defnydd o’ch gwybodaeth gynnwys:
Cynnal chwiliadau amdanoch mewn asiantaethau gwirio credyd. Mae'r asiantaethau hyn yn rhoi gwybodaeth credyd i ni yn ogystal â gwybodaeth o'r gofrestr etholiadol a byddant yn cofnodi manylion unrhyw chwiliadau p'un a fydd eich cais yn mynd yn ei flaen ai peidio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut mae asiantaethau cyfeirio credyd ac asiantaethau atal twyll yn defnyddio'ch gwybodaeth trwy ddarllen Hysbysiad Gwybodaeth yr Asiantaeth Cyfeirio Credyd (“CRAIN”). Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut mae’r tair prif asiantaeth gwirio credyd yn defnyddio ac yn rhannu data personol. Gellir cyrchu'r CRAIN yma.
Rhannu eich gwybodaeth gyda datblygwyr a landlordiaid preifat er mwyn neilltuo plot / llain o dir a ddefnyddir ar gyfer datblygu eich eiddo.
Rhannu eich gwybodaeth gyda chyfreithwyr / trawsgludwyr er mwyn cynnal ffurfioldebau cyfreithiol mewn cysylltiad â’ch trafodiad eiddo.
Rhannu eich data gyda Chofrestrfa Tir EM er mwyn dilysu data eiddo a gedwir gennym ni gyda data eiddo a gedwir gan Gofrestrfa Tir EM.
Rhannu eich data gyda Rhentu Doeth Cymru er mwyn asesu cydymffurfiaeth â pholisi cynllun CiBC ar isosod eiddo.
Rhannu eich data gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau a gyflogir ar eu rhan, a all gysylltu â chi at ddibenion ymchwil. Mae’r dibenion hyn yn cynnwys cynnal adolygiadau cynllun, cael adborth gan gwsmeriaid ac ymgeiswyr, dadansoddi meysydd i’w gwella, a chynnal arolygon ymchwil ac ystadegol yn ymwneud â’r cynllun. Byddwch yn cael y cyfle i optio allan o'r rhain. Gall CiBC rannu’r data hwn yn gyfrinachol ag adrannau eraill y llywodraeth, awdurdodau lleol, ac asiantaethau sy’n gweithio ar CiBC ac ar ran Llywodraeth Cymru.
Rhannu eich gwybodaeth gyda chynghorwyr ariannol annibynnol a broceriaid morgeisi i asesu’r goblygiadau ariannol sy’n gysylltiedig â phrynu’ch eiddo, gan ystyried eich gallu i fforddio’r eiddo.
Rhannu eich gwybodaeth ag asiantau olrhain er mwyn casglu ôl-ddyledion, os byddwch yn mynd i ôl-ddyledion gyda'ch ad-daliadau o'ch benthyciad i ni.
Defnyddir eich gwybodaeth i ymdrin â ac i ddatrys cwyn a allai fod gennych, os dymunwch godi un, gan gynnwys rhannu'r wybodaeth honno ag Ombwdsmon, Gwasanaeth Datrys Anghydfodau, neu Awdurdod Rheoleiddio.
Defnyddio eich gwybodaeth yn unol â Thelerau ac Amodau’r gronfa.
Fel rhan o’r gweithgareddau a restrir, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r partïon a nodir uchod, eich cyfrifwyr, cyflogwyr, a Llywodraeth Cymru.
Rydych yn cydnabod ac yn cytuno y gall eich data personol gael ei brosesu y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”). Byddwn yn cymryd rhagofalon (yn unol â chanllawiau perthnasol gan gyrff rheoleiddio) i sicrhau y bydd unrhyw drosglwyddiad o’ch data y tu allan i’r AEE yn destun mesurau diogelu sy’n diogelu eich hawliau preifatrwydd, a bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel bob amser.
Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio fy ngwybodaeth?
O dan gyfraith diogelu data, rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn gwneud cais am fenthyciad gyda ni, gall y seiliau cyfreithiol canlynol fod yn berthnasol:
Perfformiad Contract
Mae eich cais yn gais i ni ymrwymo i gontract gyda chi. Caniateir i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol i ni wneud hynny er mwyn cyflawni camau cyn-gontractio, i ymrwymo i gontract gyda chi, ac i gyflawni contract sydd gennym yn ei le.
Rhwymedigaeth Gyfreithiol
Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo angen er mwyn i ni gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol.
Rydym yn ddarostyngedig i rwymedigaethau cyfreithiol amrywiol pryd bynnag y byddwn yn ystyried ceisiadau am fenthyciad, gan gynnwys deddfwriaeth gwrth-wyngalchu arian a gofynion yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Buddiannau Cyfreithlon
Caniateir i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo hynny’n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, ar yr amod nad yw ein buddiannau ni yn cael eu diystyru gan eich buddiannau chi.
Lle rydych wedi gwneud cais am fenthyciad gyda ni, neu yn gwsmer presennol, rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol am y rhesymau canlynol o dan ein buddiannau cyfreithlon:
Cynnal gwiriadau priodol ar ddarpar gwsmeriaid,
Sicrhau ad-daliad benthyciadau i ni.
Asesu cydymffurfiaeth â pholisïau a thelerau ac amodau’r cynllun,
Rheoli datblygiad eich eiddo a'ch trafodiad eiddo.
Cynnal dilysiad priodol o ddata eiddo a gedwir gennym ni (a ddarparwyd gennych chi) gyda data eiddo a gedwir gan Gofrestrfa Tir EM.
Ymchwilio a rheoli ymholiadau a chwynion, gan gynnwys dadansoddi ymholiadau a chwynion at ddibenion atal methiannau a chywiro effeithiau negyddol ar gwsmeriaid.
Ystyried anghenion lles cwsmeriaid, gan gynnwys darparu unrhyw addasiadau, cymorth neu amddiffyniad y mae angen eu rhoi ar waith.
Atal ac ymchwilio i dwyll, gwyngalchu arian a chamymddwyn ariannol arall.
Er mwyn datblygu a gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau, gan gynnwys cynnal arolygon cwsmeriaid ac ymchwil.
Sicrhau parhad busnes, adfer ar ôl trychineb a diogelwch rhwydwaith a gwybodaeth.
Sail Gyfreithiol ar gyfer Prosesu Data Categori Arbennig
Mae cyfreithiau Diogelu Data yn trin rhai mathau o wybodaeth bersonol fel rhai arbennig o sensitif. Gelwir y wybodaeth hon yn 'Ddata Categori Arbennig'. Ni fyddwn yn casglu nac yn defnyddio’r mathau hyn o ddata heb eich caniatâd oni bai bod y gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny. Os gwnawn hynny, dim ond o dan un o’r seiliau cyfreithiol canlynol:
Am resymau budd cyhoeddus sylweddol; neu
Mae fod gennym eich caniatâd penodol i wneud hynny; neu
Er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Am ba mor hir mae Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig yn cadw fy ngwybodaeth?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am o leiaf hyd eich contract gyda ni, ac wedi hynny am gyfnod o 12 mlynedd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennym gofnod llawn o'r contract rhyngom, os bydd unrhyw anghydfod ynghylch y contract.
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus neu’n cael ei dynnu’n ôl, byddwn yn cadw ac yn dinistrio eich data personol yn unol â’n hamserlen cadw data.
Mae’n bosibl y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth am gyfnod hwy lle mae’n angenrheidiol i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, i arfer hawliau cyfreithiol, i gydymffurfio â Thelerau ac Amodau’r gronfa neu i amddiffyn hawliadau cyfreithiol.
Mae gennym gyfnod cadw o 2 flynedd mewn perthynas â gohebiaeth e-bost. Os bydd angen i ni gadw eich e-byst am gyfnod hwy na’r hyn a nodir, byddwn yn gwneud hynny naill ai i gadw at y gyfraith, os oes hawliadau neu gwynion presennol a fydd yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth, neu am resymau rheoleiddiol neu dechnegol.
Beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn darparu fy ngwybodaeth i Cymorth i Brynu (Cymru) Cyfyngedig?
Er mwyn i ni ystyried eich cais, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth amdanoch i ni. Os na fyddwch yn darparu’r holl fanylion y gofynnwn amdanynt yn y ffurflen gais, ni fyddwn yn gallu asesu’ch cais a gallai olygu na fyddwch yn gallu cael mynediad i’n benthyciad.