Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

£250,000 i Go Banana

Colin-Batten
Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Go Banana logo

Mae marchnad ar-lein gyntaf y DU ar gyfer cyflenwadau adeiladu yn adleoli i Gymru ar ôl cwblhau cylch cyllido sbarduno gyda £500,000 wedi'i sicrhau gan Fanc Datblygu Cymru a BSKG Holdings.

Fe’i sefydlwyd yn 2016 gan y diweddar Rami Naori, mae Go Banana nawr wedi symud o Lundain i Dŷ Brwnel, Caerdydd. Gyda'i blatfform ar-lein lle gall masnachwyr brynu cyflenwadau adeiladu gan gannoedd o fasnachwyr dibynadwy, mae'r busnes technoleg sy'n tyfu'n gyflym eisoes yn rhestru dros 100,000 o gynhyrchion ar ei blatfform ac mae ganddo dros 10,000 o gwsmeriaid.

Mae'r meddalwedd a ddatblygwyd gan Go Banana yn mewnforio ac yn diweddaru miloedd o gynhyrchion adeiladu ar yr un pryd gan arbed hyd at 35% i ddefnyddwyr gyda phob pryniant. Gall defnyddwyr chwilio, cymharu a phrynu ar draws ystod eang o gyflenwadau adeiladau a DIY, gan gynnwys adeiladu a chaledwedd; teils a lloriau; plymio a gwresogi; paentio ac addurno a cheginau ac ystafelloedd ymolchi.

Bydd y buddsoddiad ecwiti o £250,000 gan Fanc Datblygu Cymru a chyllid cyfatebol gan BSKG Holdings yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r cam nesaf o dwf gan gynnwys datblygu offer technoleg newydd, caffael cwsmeriaid a marchnata. Bydd y timau datblygu cynnyrch i gyd yn cael eu symud yn fewnol a'u cryfhau trwy benodi tîm o arbenigwyr technegol newydd.

Dywedodd y cyd-sylfaenydd a’r Prif Weithredwr Phoebe Bull: “Rydym ar genhadaeth i gyd-grynhoi’r farchnad cyflenwadau proffesiynol masnach tameidiog iawn. Mae'r sector yn aml yn dibynnu ar berthnasoedd personol i gaffael offer ond rydym nawr yn cynnig agregydd marchnad sylfaenol sy'n profi'n boblogaidd iawn. Ein nod yw nid yn unig cynnig siop un stop ar gyfer gweithwyr proffesiynol masnach, ond hefyd cefnogi masnachwyr annibynnol lleol trwy gynnig ateb gwerthu ar-lein sydd ei angen nawr yn fwy nag erioed.

“Pris, cyflymder danfon a rhwyddineb defnydd yw’r tri phrif ffactor sy’n cyfrannu at ein twf. Bydd y buddsoddiad ecwiti gan y Banc Datblygu yn ein helpu i sicrhau mantais gystadleuol barhaus gyda chyfalaf amyneddgar tymor hir sydd wedi'i deilwra i weddu i'n hanghenion o'n cartref newydd yng Nghaerdydd. Mae llawer o fuddion i adleoli, gan gynnwys cael mynediad at gronfa wych o ddoniau i ddechrau adeiladu tîm eithriadol. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o gymuned gefnogol a chael gwell mynediad at gyllid deniadol a hyblyg.”

Dywedodd Colin Batten o Fanc Datblygu Cymru: “Mae adeiladu yn un o sectorau economaidd mwyaf y DU, ond er gwaethaf maint y farchnad deunyddiau adeiladu a gwella cartrefi, yr amcangyfrifir ei fod werth oddeutu £70 biliwn y flwyddyn, ni fu unrhyw ffordd i gymharu a chyferbynnu'r ystod eang o gynhyrchion ar y farchnad tan rwan.

“Mae Go Banana yn newid y ffordd y mae deunyddiau adeiladu yn cael eu prynu yn y DU, gyda’u platfform e-fasnach arloesol. Mae eu siop un stop yn caniatáu i weithwyr proffesiynol masnach a rhai sy'n gwneud DIY brynu cyflenwadau adeiladu a chymharu masnachwyr lluosog ledled y DU. Mae hyn yn golygu bod y farchnad cyflenwi adeiladau felly'n aeddfed ar gyfer cael ei darfu a hynny’n cael ei yrru gan dechnoleg sy'n cynnig mwy o dryloywder i werthwyr a phrynwyr, yn ogystal ag arbed amser a chost. Mae Go Banana yn arwain y ffordd ac rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi eu twf fel menter dechnoleg arloesol fel partneriaid ecwiti tymor hir.”

Gall Banc Datblygu Cymru fuddsoddi ecwiti mewn cwmnïau cychwynnol, cam cynnar neu sefydledig sy'n edrych i ddatblygu a manteisio ar dechnoleg gyda buddsoddiad mynediad o £50,000 i £2 filiwn. Mae buddsoddiad dilynol ar gyfer cwmnïau sefydledig hyd at £10 miliwn ar gael ynghyd â mynediad at rwydwaith mawr o gyd-fuddsoddwyr ac angylion busnes trwy gyfrwng Angylion Buddsoddi Cymru.