Seminar Busnes De Cymru Sefydliad y Cyfarwyddwyr

Mae Banc Datblygu Cymru yn noddi ac yn cyflwyno seminar busnes De Cymru ar y cyd â Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru ar 1 Chwefror 2018 yn Ysgol Fusnes Caerdydd. Bydd Bethan Cousins, dirprwy reolwr y gronfa o’n tîm buddsoddiadau newydd a Gareth Price, y dirprwy reolwr portffolios o’n tîm portffolio ecwiti yn bresennol.  

Bydd y seminar yn ystyried yr heriau a wynebir gan fusnesau sy’n awyddus i dyfu a sut y gellir goresgyn yr heriau hyn, sut y gall busnesau gynllunio ar gyfer twf, sicrhau'r partner cyllid iawn, cyflogi’r bobl gywir a delio â chynlluniau wrth gefn.  

Ochr yn ochr â Robert Lloyd Griffiths, cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru, bydd Bethan yn cynnal dadl fywiog gyda phanel o arbenigwyr, buddsoddwyr, cynghorwyr corfforaethol ac entrepreneuriaid ar sut mae gosod y sylfeini iawn er mwyn tyfu’n gynt.  

 

Y Panel:

  • Bethan Cousins, Banc Datblygu Cymru
  • Steve Berry, Acuity Legal
  • Frank Holmes, Gambit Corporate Finance
  • Steve Harris, Nuvias - SIPHON Networks Ltd gynt
  • Gareth Price, Banc Datblygu Cymru
     

Pwy sy'n dod

Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd