Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Swyddog buddsoddiadau cynorthwyol BMT (SBC)

Rydyn ni'n bwriadu recriwtio swyddog buddsoddiadau cynorthwyol BMT a fydd yn seiliedig yng Nghymru.

Pwrpas y swydd

Rôl SBC yw darparu cefnogaeth gyda thrafodion o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer y Tîm BMT ehangach. Gan weithio'n agos ochr yn ochr â Swyddogion Buddsoddi / Uwch Swyddogion Buddsoddi a Rheolwyr Cronfa, rhoddir cyfle i'r SBC arwain ar rai agweddau ar drafodion BMT, gan gynnwys cau rhai bargeinion BMT llai, ar ôl cael hyfforddiant. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys monitro asedau portffolio BMT a thasgau cysylltiedig, a darparu cefnogaeth ar hap fel bo'r angen.

Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau rhyngbersonol datblygedig, gyda diddordeb amlwg mewn buddsoddi mewn technoleg, sylw i fanylion a dull ymarferol rhagweithiol.

Byddem yn disgwyl i'r ymgeisydd ddatblygu i fod yn Swyddog Buddsoddi, fel arfer o fewn cyfnod o 2-3 blynedd, yn dibynnu ar brofiad.

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau (yn annibynnol a / neu dan oruchwyliaeth)

Bydd angen i SBC BMT:-

  • ddarparu cefnogaeth trafodion i Swyddogion Buddsoddi / Uwch Swyddogion Buddsoddi / Rheolwyr Cronfa yn nhîm BMT i gynorthwyo wrth asesu a chwblhau cyfleoedd buddsoddi newydd;
  • gymryd rhan yn y broses o drafod termau masnachol a'u trosi i daflenni term amlinellol / gyfarwyddiadau cyfreithiol / dogfennaeth fuddsoddi;
  • gysylltu â darparwyr diwydrwydd dyladwy allanol, cwmpasu aseiniadau gwaith a thrafod gwerth gorau am arian i gleientiaid.
  • Ar ôl cyfnod cychwynnol o hyfforddiant, byddai disgwyl i SBC allu ‘cau’ buddsoddiadau llai gyda goruchwyliaeth gan uwch gydweithwyr.
  • Dod o hyd i gyfleoedd buddsoddi BMT yn weithredol trwy gynnal cysylltiadau a rhwydweithiau gyda chyflwynwyr a chyfryngwyr busnes allweddol, gan fynychu digwyddiadau rhwydweithio yn ôl yr angen
  • Cyfrannu at farchnata / hyrwyddo Banc Datblygu Cymru.

Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys: -

Buddsoddiad

  • Mynychu cyfarfodydd gyda chleientiaid a chyfryngwyr i hyrwyddo buddsoddiadau BMT llwyddiannus.
  • Sgrinio ceisiadau yn ystod y camau cychwynnol. Ymgymryd ag ymchwil er mwyn gwneud asesiad ac ymateb yn ffurfiol i gleientiaid wrthod neu ofyn am wybodaeth bellach os oes angen.
  • Cynorthwyo gyda pharatoi papurau cryno ac adroddiadau sancsiynu a chyflwyno achosion buddsoddi i'w sancsiynu.
  • Adolygu modelau ariannol a chynorthwyo gyda dadansoddiad ariannol, gan gynnwys awgrymu a chynnal dadansoddiadau sensitifrwydd ar gyfer cyfleoedd buddsoddi newydd a phresennol.
  • Cynnal diwydrwydd dyladwy masnachol, ariannol, rheolaethol a thechnegol wrth ystyried cyfleoedd buddsoddi.
  • Bod yn bendant wrth wneud penderfyniadau, cymryd cyfrifoldeb a bod yn barod i gael sgyrsiau a allai fod yn anodd gyda darpar gleientiaid / cleientiaid presennol.
  • Cynnal a datblygu gwybodaeth am y diwydiant a deall arfer gorau mewn gweithgaredd buddsoddi.
  • Lledaenu enghreifftiau o arfer gorau ar gyfer gwneud cais i'r Cronfeydd BMT i gyflwynwyr busnes allweddol a sicrhau bod y broses ymgeisio yn cael ei mireinio a'i gwella'n barhaus i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gleientiaid.

Rheoli Portffolio

  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli portffolio o fuddsoddiadau BMT.
  • Cynnal cyswllt cymesur rheolaidd (misol yn nodweddiadol) â busnesau cleientiaid yn y portffolio i sicrhau dealltwriaeth gyfoes o'u hamgylchiadau a meithrin perthnasoedd cynhyrchiol â'r rheolwyr. Bydd y strategaethau cyswllt yn cael eu teilwra i amgylchiadau'r busnes dan sylw.
  • Gwneud y gorau o goladu data DPA cywir gan fusnesau portffolio yn amserol, gan gynnwys ysgrifennu adroddiadau / diweddaru dangos fyrddau yn dilyn cyfarfodydd cleientiaid.
  • Defnyddio matrics risg i argymell graddfa perfformiad a deall pryd mae angen ei drosglwyddo i'r Tîm Risg perfformiad.
  • Dangos gallu i ychwanegu gwerth i gwmnïau portffolio sy'n ychwanegol at rôl fonitro bur.

Cymorth Ychwanegol

  • Goruchwylio'r broses o gwblhau tynnu'r buddsoddiad i lawr ar eich trafodion penodol, gan weithredu fel pwynt cymeradwyo cychwynnol, gan sicrhau bod yr holl amodau sancsiynu wedi'u bodloni.
  • Rhoi arweiniad i Ddadansoddwr Cymorth Buddsoddi Tîm BMT CST.

Cwblhau tasgau ar hap fel bo'r angen fel y'u diffinnir gan y Swyddogion Buddsoddi, Uwch Swyddogion Buddsoddi, Rheolwyr Cronfa, neu Gyfarwyddwr y Gronfa i ddiwallu anghenion gweithredol tîm BMT.
 

Gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad

Hanfodol:

  • Yn llawn cymhelliant gyda'r gallu i gymryd agwedd ragweithiol a gweithio'n effeithlon heb lawer o oruchwyliaeth.
  • Yn gyffyrddus wrth ymdrin â gwaith sy'n sensitif i gleientiaid sy'n hanfodol i amser.
  • Yn gallu canolbwyntio ar ganlyniadau. Y gallu i flaenoriaethu a threfnu llwyth gwaith a gweithio'n effeithiol o dan bwysau a chyrraedd targedau.
  • Sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a rhyngbersonol da. Y gallu i addasu eich dull gweithredu er mwyn meithrin perthnasoedd gwaith cynhyrchiol.
  • Sgiliau datrys problemau.
  • Sgiliau trefnu a gweinyddol cryf.
  • Llygad graff am fanylion.
  • Wedi ymrwymo i ddatblygu gwybodaeth ac arbenigedd mewn buddsoddi cyfalaf sbarduno / menter.
  • Sgiliau cyflwyno rhagorol a lefel uchel o gymhwysedd gyda chynhyrchion safonol MS Office fel Word, PowerPoint ac yn benodol Excel.
  • Sgiliau ymchwil cryf, gyda'r gallu i gymathu, hidlo a chadw llawer o wybodaeth yn gyflym.
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Gradd wyddonol uwch a / neu gymhwyster proffesiynol.

Dymunol:

  • Profiad buddsoddi cyfalaf sbarduno / menter blaenorol.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o amgylchedd buddsoddi technoleg cam cynnar.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y sector cyhoeddus ym maes cyllid busnesau bach a chanolig.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd Busnes yng Nghymru.
  • Yn gallu siarad Cymraeg.

I wneud cais anfonwch eich ffurflen gais at: recriwtio@bancdatblygu.cymru

Ffurflen gais

Dyddiad cau 16 Medi