Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Trosglwyddo'r fflam gweminar

Pam ddylai cynllunio olyniaeth fod yn flaenoriaeth i fusnesau Cymru.

Ydych chi neu'ch cleientiaid yn meddwl am ymddeol? Be' ydych chi'n wybod am olyniaeth a'r holl opsiynau sydd ar gael ar gyfer ffyrdd ymadael posib?

Bydd ein digwyddiad gweminar Trosglwyddo'r Fflam yn edrych ar pam mae allbryniant rheolwyr (AllRh) yn opsiwn deniadol i berchnogion sy’n dymuno gwerthu a thimau rheoli sydd am brynu busnes. Byddwn yn archwilio olyniaeth a thwf ar ôl y trafodion.

Wedi'i anelu at berchnogion busnes, timau rheoli, cynghorwyr ariannol, a chyfrifwyr, bydd y weminar yn archwilio olyniaeth a thwf ar ôl trafodiad

Mae’r panel yn cynnwys:

Robert Lloyd Griffiths OBE Cynghorydd Strategol, Cadeirydd a CAn - Arweinydd uchel ei barch a chysylltiadau da yn y gymuned fusnes yng Nghymru a Chadeirydd Bwrdd Strategol Llywodraeth Cymru sy'n goruchwylio Cymorth Busnes yng Nghymru.

Alex Butler Partner, Geldards – Cyfreithiwr corfforaethol profiadol sy’n arbenigo mewn caffaeliadau, AllRh, cyllid corfforaethol a thrafodion ecwiti preifat. Mae Geldards yn gwmni cyfreithiol cenedlaethol gyda mwy na 320 o staff yn cefnogi ystod eang o gleientiaid ar draws y DU, Ewrop ac yn Rhyngwladol.

Chris Thomas Cyd-sylfaenydd, SME Finance Partners – Cyfarwyddwr Cyllid profiadol gydag ystod o brofiad ar draws busnesau o’r radd flaenaf a busnesau bach a chanolig. Mae Chris hefyd yn Gadeirydd yn Reel Label Solutions, cwmni portffolio Banc Datblygu Cymru. Mae gan SME Finance Partners dîm o Gyfarwyddwyr Cyllid sy’n gweithio’n agos gyda BBaChau i wella perfformiad busnes a chymorth mewn Rheolaeth Ariannol.

Jonathan Wright Rheolwr Gyfarwyddwr, Reel Labels Solutions – Jonathan oedd sylfaenydd a chyfarwyddwr gwerthu Reel Labels Solutions. Cefnogodd Banc Datblygu Cymru yr ailstrwythuro cyfranddalwyr yn 2022 gyda chymysgedd o gyllid dyled ac ecwiti, gyda Jonathan yn dod yn brif gyfranddaliwr a rheolwr gyfarwyddwr. Mae'r cwmni'n arbenigwr argraffu labeli digidol a hyblyg, sy'n cyflogi 17 o staff ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf.

Bethan Cousins Cyfarwyddwr Busnes Newydd, Banc Datblygu Cymru - Gyda chyfoeth o brofiad o fargeinion ecwiti, mae Bethan yn Gyfarwyddwr gyda Banc Datblygu Cymru, sydd ymhlith y 3 phrif buddsoddwr cyfalaf menter gorau yn y DU.

Pwy sy'n dod

Bethan-Cousins
Cyfarwyddwr Busnes Newydd