Gall codi cyllid ecwiti fod yn broses eithaf hir a chymhleth. Bydd angen i chi dreulio amser yn dod o hyd i'r buddsoddwr cywir ar gyfer eich cwmni, yn trafod telerau'r fargen, yn hwyluso'r broses diwydrwydd dyladwy, ac yn cwblhau'r dogfennau cyfreithiol terfynol, a hyn oll tra’n rhedeg eich busnes.
Ond trwy fod yn barod ac wedi paratoi'n dda, ac mae hynny’n cynnwys meddu ar gynllun busnes cryf, fe allwch chi helpu i sicrhau bod y broses yn mynd yn fwy llyfn a chynyddu eich siawns o sicrhau buddsoddiad.
Ariannu torfol ecwiti
Mae ariannu torfol ecwiti yn galluogi busnesau preifat i godi arian gan y cyhoedd. Mae'n gweithio mewn ffordd debyg i fathau eraill o gyllid ecwiti - rydych chi'n cyfnewid cyfranddaliadau yn eich cwmni am arian parod. Yr hyn sy'n gwneud ariannu torfol yn wahanol, fodd bynnag, yw eich bod yn cael symiau llai o arian gan nifer fawr o bobl (y 'dorf'). Maent wedyn yn berchen ar gyfran gymesur o ecwiti yn eich busnes.
Mae'r math hwn o ariannu yn digwydd ar-lein ar blatfformau ariannu torfol ecwiti. Mae'r platfformau hyn yn amrywio o ran sut y maent yn gweithredu - er enghraifft, gallant godi ffioedd gwahanol, bod â phrosesau fetio (edrych ar hanes ymgeiswyr) gwahanol, ac arbenigo mewn diwydiannau penodol. Felly mae'n bwysig eu cymharu â gweld pa un sy'n iawn i chi.
Mae'r rhan fwyaf yn ei gwneud yn ofynnol i chi osod targed ariannu ar gyfer eich ymgyrch ac amserlen ar gyfer cyrraedd y targed hwn. Os byddwch chi'n llwyddiannus, yna byddwch chi'n derbyn yr arian ar ddiwedd yr ymgyrch minws unrhyw ffioedd y mae'r platfform yn eu codi. Os na fyddwch chi'n cyrraedd eich targed, bydd y rhan fwyaf o wefannau cyllido torfol yn dychwelyd yr holl arian rydych chi wedi'i godi i'r cefnogwyr, er y gallai rhai ganiatáu i chi eu cadw am ffi.
Sut mae buddsoddwr yn gwneud arian o fuddsoddiad ecwiti?
Mae buddsoddwyr ecwiti yn gwneud arian trwy “enillion cyfalaf”, lle maent yn gwerthu cyfranddaliadau am bris uwch nag y gwnaethant dalu amdanynt, a/neu drwy ddifidendau. Mae difidendau yn gyfran o enillion y cwmni a ddosberthir i'w gyfranddalwyr, a delir yn chwarterol fel arfer.
Nid yw pob busnes yn dewis talu difidendau. Mae rhai, yn enwedig cwmnïau ifanc, yn dewis ail-fuddsoddi elw yn nhwf y busnes. Mae cwmnïau sy'n talu difidend gan amlaf yn gwmnïau mwy, sydd wedi'u hen sefydlu.
Mae sawl ffordd y gall buddsoddwr “ymadael” busnes (gwerthu ei gyfranddaliadau), gan gynnwys:
- Allbryniant y tîm rheoli - mae buddsoddwyr yn gwerthu cyfranddaliadau i dîm rheoli presennol y cwmni buddsoddi
- Gwerthiant masnach - mae'r cwmni buddsoddi yn cael ei werthu i brynwr masnach, fel arfer cwmni arall sy'n gweithredu yn yr un diwydiant
- Gwerthiant eilaidd – mae buddsoddwyr yn gwerthu cyfranddaliadau i brynwr trydydd parti, fel cyfalafwr menter neu gwmni ecwiti preifat
- Cynnig cyhoeddus cychwynnol (CCC) - pan fydd cwmni preifat yn rhestru ei gyfranddaliadau ar y gyfnewidfa stoc
Darllenwch ein canllaw olyniaeth busnes i ddarganfod mwy am wahanol fathau o ddigwyddiadau ymadael.
Dod o hyd i'r buddsoddwr ecwiti iawn
Pan fyddwch chi'n sicrhau cyllid ecwiti rydych chi'n ymrwymo i berthynas hirdymor â'ch buddsoddwr, felly mae'n holl bwysig dewis yr un iawn. Mae hyn yn golygu edrych y tu hwnt i'r arian ac ystyried beth arall y gallant ei ychwanegu ac a allwch chi weithio'n dda gyda nhw. Gallai gofyn y cwestiynau hyn i chi eich hun fod o gymorth:
- Faint o ran ydych chi am iddyn nhw ei chwarae?
- Pa adnoddau maen nhw'n eu darparu? A allan nhw gynnig gwybodaeth, profiad a chysylltiadau?
- A ydyn nhw'n aml yn gwneud buddsoddiadau dilynol mewn cwmnïau?
- A ydyn nhw'n gweddu'n dda i'ch brand a'ch diwylliant?
- Beth yw eu gweledigaeth ar gyfer y cwmni ac a yw'n cyd-fynd â'ch un chi?