Os ydych eisiau i’ch busnes ddod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol, mae cynnal archwiliad ynni yn gam pwysig cyntaf i chi, a gall arwain at fanteision sylweddol.
Nid yn unig y bydd yn eich galluogi i leihau eich ôl-troed carbon a helpu’r amgylchedd, bydd hefyd yn caniatáu i chi nodi cyfleoedd i arbed arian a rhoi hwb i enw da eich brand ymysg cwsmeriaid a gweithwyr.
Mae’r erthygl hon yn llawn gwybodaeth am archwiliadau ynni busnes - o beth yw archwiliad a beth mae’n ei gynnwys, i sut gallwch chi fynd ati a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Beth yw archwiliad ynni busnes?
Mae archwiliad ynni busnes yn asesiad o sut, pryd, a ble mae eich busnes yn defnyddio ynni. Mae'n edrych ar bob agwedd ar eich cyfleusterau a'ch prosesau, o strwythur eich adeilad i'r offer a ddefnyddiwch a sut mae'ch gweithwyr yn defnyddio ynni. Bydd yr archwiliad yn rhoi cipolwg i chi ar feysydd lle mae ynni’n cael ei wastraffu a bydd yn amlygu cyfleoedd i leihau’r defnydd o ynni, lleihau eich ôl troed carbon, a thorri costau.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i fusnesau mawr gynnal archwiliadau ynni - mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Argymhellir yn gryf bod busnesau bach a chanolig, er nad oes yn rhaid iddynt, gynnal archwiliad cyn unrhyw brosiect datgarboneiddio neu effeithlonrwydd-ynni, er mwyn sicrhau yr arbedion ynni a chostau mwyaf posibl i’r busnes.
Beth mae archwiliad ynni arferol yn ei gynnwys?
Fel arfer, bydd archwiliad ynni yn cynnwys:
1. Asesu eich defnydd presennol. Gall hyn gynnwys:
- Manylion o ddefnydd ynni yn ôl offer neu broses.
- Meincnodi perfformiad ynni yn erbyn eiddo neu brosesau tebyg.
- Dadansoddi’r adeilad, y gwasanaethau a’r rheolaethau.
2. Dadansoddi, cynllunio a chyfrifo costau. Gall hyn gynnwys:
- Adolygu’r gweithdrefnau rheoli ynni, gan gynnwys cynnal a chadw.
- Nodi cyfleoedd i arbed ynni a chostau ochr yn ochr â chyfnodau talu nôl y buddsoddiad sydd ei angen i weithredu’r mesurau arbed ynni.
3. Creu cynllun gweithredu. Gall hyn gynnwys:
- Blaenoriaethu cyfleoedd dim costau neu gost isel hyd at gyfleoedd buddsoddi cyfalaf mwy, a chreu cynlluniau gweithredu penodol i’r busnes.
- Argymhellion ar sut i gyfathrebu â gweithwyr am newidiadau, gan ganiatáu iddynt fod ynghlwm wrth leihau ôl-troed carbon cyffredinol y cwmni.
Ceir manylion llawn am ofynion allbwn archwiliadau ynni’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yma.
Pwy sy’n cynnal archwiliad ynni?
Yn dibynnu ar lefel yr archwiliad yr hoffech ei chael, gall eich archwiliad ynni busnes gael ei gynnal gan archwilydd ynni ardystiedig, cyflenwr technoleg, cwmni trydydd parti neu eich staff eich hun hyd yn oed.
Cyn cytuno i weithio gyda thrydydd parti, mae hi’n bwysig eich bod chi’n gwneud yn siŵr bod ganddo gymhwyster perthnasol gyda sefydliad proffesiynol mewn asesiadau ynni neu archwiliadau ynni adeiladau. Dyma enghreifftiau o gymwysterau perthnasol:
Fel pwynt cyfeirio cychwynnol, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael cip ar dudalen rhestr aseswyr y cynllun Cyfleoedd Arbed Ynni Llywodraeth y DU neu’r Archwilwyr Ynni Ardystiedig.
Beth sy’n digwydd yn ystod archwiliad ynni?
Yn ystod archwiliad ynni, bydd yr archwilydd fel arfer yn edrych ar adeiladau, offer, systemau a phrosesau eich cwmni i nodi cyfleoedd arbed ynni. Bydd archwiliad effeithiol yn adolygu'r holl ffactorau gwahanol sy'n cyfrannu at eich defnydd o ynni. Gall meysydd allweddol i’w hystyried gynnwys:
Dyluniad adeiladau
|
Mae hyn yn cynnwys ffactorau fel inswleiddio lloriau, waliau a thoeau, a chwilio am unrhyw fylchau o amgylch drysau, fentiau a ffenestri
|
Arferion defnyddio ynni
|
Er enghraifft, dad-blygio dyfeisiau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio a diffodd goleuadau wrth adael ystafell
|
Offer
|
Gallai hyn fod yn offer trydanol fel argraffwyr a chyfrifiaduron, yn ogystal â systemau gwresogi, awyru a thymheru aer (a adwaenir yn gryno fel HVAC) a systemau goleuo
|
Bydd yr archwilydd yn aml yn darparu adroddiad manwl ar sut mae eich busnes yn defnyddio ynni, a bydd yn gwneud argymhellion wedi’u targedu ar sut y gallwch leihau’r defnydd o ynni ar draws eich busnes ac arbed arian.
A fydd archwiliad ynni yn tarfu ar weithrediadau’r busnes?
Na. Er y bydd angen ymweliad(au) safle yn dibynnu ar sefyllfa weithredol eich busnes, nid yw’r rhain yn debygol o darfu ar fusnes fel arfer. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud o bell, gan ddefnyddio data ynni a gesglir.
Pam ddylid cynnal archwiliad ynni?
Mae archwiliad ynni yn arf gwerthfawr a all eich helpu i nodi a mynd i'r afael â meysydd aneffeithlonrwydd a gwastraff. Bydd hyn yn eich galluogi i leihau eich ôl troed carbon a thorri costau. Yn aml bydd archwiliad yn datgelu ‘enillion cyflym’ lle gall eich busnes ddechrau arbed arian ar unwaith trwy gymryd mesurau hawdd, isel i ddim cost, megis newid ymddygiad gweithwyr neu wneud newidiadau syml i brosesau. Gall rheoli eich defnydd o ynni yn aneffeithiol gael effaith ariannol barhaus ar eich cwmni a gwneud eich busnes yn agored i fwy o risg, yn enwedig gyda’r ansefydlogrwydd presennol yn y farchnad ynni.
Y dyddiau hyn, mae cwsmeriaid yn rheolaidd yn disgwyl cael cynnig datrysiadau cynaliadwy a mwy gwyrdd. Gall bod yn fwy cystadleuol o ran pris, drwy leihau eich costau gweithredol ac arddangos arloesedd yn eich gweithgareddau roi mantais gystadleuol i’ch busnes.
Sut gallaf ddechrau arni?
Mae nifer o ffyrdd y gallwch fynd ati:
- Ymgynghorwyr Effeithlonrwydd Adnoddau Busnes Cymru - I gael mynediad at gyngor am ddim, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gysylltu â’r tîm effeithlonrwydd adnoddau yn Busnes Cymru, a fydd yn gallu gweithio gyda chi i asesu eich prif weithgareddau ynni ac amlinellu argymhellion ar gyfer y dyfodol. Ffoniwch 0300 060 3000 neu gliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
- Archwiliad ynni a ariennir yn rhannol gan drydydd parti - Os ydych chi’n fusnes bach a chanolig, efallai y bydd gennych gyfle i gael cyllid cyfatebol hyd at 50% drwy gynnig y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd i ymgysylltu ag Archwilydd Ynni annibynnol i ‘archwilio’n fanwl’ eich defnydd o ynni a chreu blaengynllun â blaenoriaethau ar gyfer eich busnes. I gael gwybod mwy, mynnwch gip ar y canllawiau pellach yma neu ffoniwch 0300 060 3000.
- Cynnal archwiliad annibynnol - Ar gyfer busnesau mwy, neu’r rhai nad ydynt am fanteisio ar yr opsiynau uchod, mae’n bosibl y bydd dod o hyd i ymgynghorydd ynni annibynnol yn ddewis gwell.
- Cynnal eich asesiad eich hun - Ar gyfer busnesau gyda gweithrediadau llai cymhleth, neu rai sydd ag arbenigedd ymysg eu gweithlu, efallai y byddwch yn penderfynu y gallwch gynnal eich asesiad busnes eich hun yn hytrach nag archwiliad ynni annibynnol llawn. Mae nifer o sefydliadau a all ddarparu adnoddau a chanllawiau ardderchog er mwyn caniatáu i chi fynd ati, megis Carbon Trust ac SME Climate Hub.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gwblhau fy archwiliad?
Unwaith i chi gyflawni eich archwiliad ynni, os ydych chi’n deall y llwybr gosod, diweddaru a/neu dechnoleg yr hoffech ei defnyddio, yna eich cam nesaf yw dod o hyd i gyflenwr achrededig i gael dyfynbris am y gwaith. Mae’n bosibl y bydd eich ymgynghorydd ynni/archwilydd wedi argymell cyflenwyr. Fel arall, efallai y byddwch eisoes yn gweithio gyda chontractwyr/cyflenwyr a fydd yn gallu gwneud y gwaith, neu efallai y bydd yn well gennych archwilio’r farchnad.
Unwaith i chi gael dyfynbris boddhaol, efallai y byddwch am geisio cyllid allanol i helpu gyda’r buddsoddiad. Mae llu o gefnogaeth ar gael ar y farchnad, neu fel arall, efallai y byddwch yn awyddus i ddefnyddio cyllid â chymhelliant drwy’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.