Mae cefnogaeth Banc Datblygu Cymru wedi ein galluogi i gyrraedd ein carreg filltir gyntaf ar ein siwrnai wrth inni chwilio’n barhaus am ffyrdd i adeiladu dyfodol mwy gwyrdd.

Meddai Jane Wallace-Jones, sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Something Different

Gweld sut mae’r Banc Datblygu wedi cefnogi Fferm Bargoed ar ei thaith i ddod yn gwmni llwyddiannus a chynaliadwy.

Beth yw’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd?

Mae gennym oll gyfrifoldeb i daclo newid hinsawdd, a chyda marchnad ynni mor fregus, ni fu fyth amser gwell i fuddsoddi i arbed a rhoi newidiadau positif ar waith tuag at ddyfodol mwy gwyrdd.

Fel buddsoddwr profiadol, rydym yn deall y pwysau y mae busnesau’n eu hwynebu a blaenoriaethau sy’n cystadlu am adnoddau a buddsoddiadau, yn enwedig o ran gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio. Mae rhwystrau allweddol megis gwybod ble a sut i fuddsoddi, bod yn brin ar amser a sicrhau’r cyllid angenrheidiol yn cyfyngu ar allu busnesau i gymryd camau positif.

Mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn gweithio ar fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r problemau cyffredin hyn, ac yn darparu pecyn o gymorth i fusnesau Cymru sy’n helpu i leihau allyriadau carbon, gan alluogi busnesau i arbed ar filiau ynni yn y dyfodol.

Mae’n cyfuno:

  • Mynediad at gymorth ymgynghori wedi’i ariannu’n llawn ac yn rhannol sy’n helpu busnesau i ddeall eu llwybr eu hunain at ddatgarboneiddio
  • Cyfraddau llog sefydlog gostyngol ar fenthyciadau busnes gwyrdd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni a gosodiadau gwres carbon isel
  • Cyfalaf amyneddgar, gyda gwyliau ad-dalu cyfalaf ymlaen llaw a thymor benthyciad yn gysylltiedig ag ad-dalu'r prosiect

Mae manylion llawn, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd, ar gael yn y rhan gwybodaeth allweddol am y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.

 

Cefnogi eich taith ddatgarboneiddio

Fel llawer ohonom, efallai y byddwch yn teimlo wedi’ch llorio gan y llu o wybodaeth sydd ar gael ar leihau carbon a gweithredu sero net neu efallai y bydd gennych syniadau eisoes ynghylch ble y gallwch fuddsoddi, ond angen cymorth i newid y syniadau’n gynlluniau mwy penodol a deall y mathau o gyflenwyr y dylech fod yn ceisio ymgysylltu â nhw.

I helpu, mae’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn gweithio ar y cyd â Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu mynediad i arbenigedd a chyllid ar gyfer ymgynghoriaeth ynni.

Fel cam nesaf, gallech:

  • Siaradwch â Chynghorydd Effeithlonrwydd Adnoddau Busnes Cymru a fydd yn gweithio gyda'ch busnes i nodi camau gweithredu posibl a rhoi adroddiad busnes penodol i chi, gan gynnwys y camau nesaf. Ariennir hyn yn llawn. I gael mynediad i’r cymorth hwn, sydd wedi’i ariannu’n llawn, ffoniwch 0300 060 3000 neu gliciwch yma
  • Gwneud cais am gymorth grant os yw eich anghenion busnes yn fwy cymhleth, neu os hoffech gyflawni adolygiad ‘manwl’ o’ch cyfleoedd datgarboneiddio. Mae’r grant yn talu am eich dewis o arbenigwr marchnad annibynnol achrededig, a fydd yn cynnal archwiliad ynni manwl. Gallwch gael mynediad i grant gwerth hyd at 50% o’r costau hyd at uchafswm o £10,000 (£20,000 cyfanswm costau). Mae’r rhain yn debygol o gostio o dan £5,000. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth, neu ffoniwch 0300 060 3000.

Efallai y byddwch eisoes wedi gwneud cynnydd ar eich cynlluniau datgarboneiddio, gyda phrosiect yn barod i fynd, ond heb gyllid. Gallwch adolygu eich prosiect yn erbyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd a gwneud cais ar-lein.

Dyma’r mathau o brosiectau sy’n gymwys i gael cyllid drwy’r Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd:

  • Gwresogi, awyru ac aerdymheru – newid, rheoli, technoleg carbon isel
  • Gwella adeiladwaith adeiladau – inswleiddio, gwydr dwbl, goleuadau LED
  • Ynni adnewyddadwy – solar ffotofoltäig, pympiau gwres o’r ddaear/aer/dŵr
  • Gwella offer allweddol – monitro a rheoli, newid, technoleg carbon isel
  • Defnydd dŵr a lleihau gwastraff/gwelliannau gwastraff

Os nad yw’r prosiect rydych chi’n ei ystyried wedi’i restru, cysylltwch â’n tîm i gael rhagor o gyngor.

 

 

I wneud cais i'r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, rhaid i gwmnïau cyfyngedig, unig fasnachwyr neu bartneriaethau fod:

  • Wedi'u lleoli yng Nghymru
  • Yn masnachu am o leiaf dwy flynedd a chael o leiaf un set o gyfrifon blynyddol wedi'u ffeili

Am restr lawn o feini prawf cymhwyster, gan gynnwys costau carbon y prosiect, gweler gwybodaeth allweddol y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd.

Cefnogaeth ac arweiniad

Rydym yn cydnabod cymhlethdodau ychwanegol ariannu prosiectau sy’n seiliedig ar leihau allyriadau carbon, felly rydym wedi creu canllaw defnyddiol i’ch helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf

Logo strip