Canllaw i ddod yn fusnes sero net

Portrait of Sophie Perry
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
Cynaliadwyedd
Aerial view of green trees in forest

Y DU oedd yr economi fawr gyntaf yn y byd i basio deddfau i ddod â’i chyfraniad at gynhesu byd-eang i ben erbyn 2050. Mae’r targed yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU ddod â’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net neu net sero erbyn 2050, o gymharu â’r targed blaenorol o 80% o leiaf o gostyngiad o lefelau 1990.

Er ein bod ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw dyfodol sero net i’r blaned, pa fanteision sydd ynghlwm i hyn i chi, fel busnes? Yn ogystal ag arbedion cost gweithredol, gall economi sero net ddod â mwy o wytnwch a gwell enw brand da ymhlith eich cwsmeriaid a'ch cadwyn gyflenwi.

Felly, gadewch i ni edrych ar y ffordd i ddod yn fusnes sero net.

Beth yw sero net?

Mae’r diffiniad o sero net mewn termau syml yn golygu’r cydbwysedd rhwng faint o allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir a'r swm sy'n cael ei dynnu o'r atmosffer. Rydym yn cyrraedd sero net pan nad ydym bellach yn ychwanegu allyriadau newydd at yr amgylchedd.

Mae gwyddoniaeth hinsawdd yn dweud wrthym fod cyflawni sero net yn hanfodol er mwyn i dymheredd byd-eang sefydlogi. Y ffordd i gyflawni hyn yw drwy leihau allyriadau cymaint â phosibl. Yna, os oes unrhyw allyriadau 'gweddilliol' sy'n rhy anodd eu dileu, defnyddir tynnu nwyon tŷ gwydr (fel plannu coed) i wneud iawn amdanynt trwy dynnu swm cyfatebol allan o'r atmosffer.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng carbon niwtral a sero net?

Mae niwtraliaeth carbon yn golygu gwrthbwyso'r allyriadau a gynhyrchir gennych drwy gefnogi prosiectau lleihau carbon mewn mannau eraill, heb orfod lleihau allyriadau yn gyntaf. Mae sero net, ar y llaw arall, yn golygu gwneud gostyngiadau dwfn mewn allyriadau cyn gwrthbwyso unrhyw allyriadau sy’n weddill drwy gael gwared ar garbon prosiectau sy'n cymryd carbon o'r atmosffer yn barhaol.

Syniadau ar gyfer dod yn fusnes sero net

Mae llawer o fusnesau yn blaenoriaethu cynaliadwyedd ac yn symud tuag at ddyfodol gwyrddach, ond sut mae dod yn fusnes sero net a pham ei fod yn bwysig? Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i ddechrau arni.

Meddyliwch amdano fel cyfle

Gall cyrraedd sero net ymddangos yn dasg frawychus i gwmnïau, yn enwedig yn sgil pandemig Covid-19. Ond mae hefyd yn gyfle busnes mawr, gan gynnig buddion sylweddol fel:

  • Arbed arian trwy wella effeithlonrwydd
  • Ennill mantais gystadleuol wrth i alw defnyddwyr am gynnyrch cynaliadwy dyfu. Mae cwmnïau mawr hefyd dan bwysau i ddatgarboneiddio eu cadwyni cyflenwi, felly os ydych yn gyflenwr cynaliadwy gallech ennill mwy o fusnes
  • Denu a chadw gweithwyr, sydd hefyd yn dod yn fwyfwy ymwybodol o'r amgylchedd

 

Trwy drin sero net fel cyfle a'i gyfathrebu mewn ffordd gadarnhaol i'ch rhanddeiliaid, byddwch yn paratoi'ch hun ar gyfer llwyddiant.

 

Mesurwch eich allyriadau

Mae cyfrifo eich ôl troed carbon yn gam cyntaf pwysig yn eich taith sero net. Mae angen ichi ddeall o ble y daw eich allyriadau er mwyn eu lleihau’n effeithiol.

Mae Safon Gorfforaethol Protocol Nwyon Tŷ Gwydr, y fframwaith rhyngwladol i fusnesau fesur a rheoli eu hallyriadau, yn rhannu allyriadau cwmni yn dri ‘chwmpas’:

Cwmpas 1: allyriadau uniongyrchol a gynhyrchir gan ffynonellau y mae eich cwmni’n berchen arnynt neu’n eu rheoli – er enghraifft, adeiladau, cerbydau ac offer.

Cwmpas 2: allyriadau anuniongyrchol sy'n deillio o ddefnyddio trydan, stêm, gwres neu oeri a brynwyd.

Cwmpas 3 : yr holl allyriadau anuniongyrchol eraill o fewn cadwyn werth eich cwmni. Mae Cwmpas 3 yn debygol o gyfrif am y rhan fwyaf o’ch ôl troed carbon, gan ei fod yn cynnwys allyriadau o’ch cadwyn gyflenwi, defnydd o gynnyrch gan gwsmeriaid, teithiau busnes, cymudo gan gyflogeion, a gwaredu gwastraff.

Bydd mesur eich ôl troed yn golygu nodi'r gweithgareddau busnes sy'n rhyddhau allyriadau, casglu data ar gyfer pob un o'r gweithgareddau hyn, yna trosi'r data.

Dylai casglu gwybodaeth ar gyfer cwmpasau 1 a 2 fod yn weddol syml, gan fod llawer ohoni’n debygol o ddod o ffynonellau sydd ar gael yn rhwydd. Er enghraifft, efallai y byddwch yn defnyddio biliau trydan i weld cyfanswm yr oriau cilowat a ddefnyddiwyd, neu dderbynebau ar gyfer faint o litrau o danwydd yr ydych wedi'u prynu.

Mae Mesur Cwmpas 3 yn anoddach, gan eich bod yn dibynnu ar bartïon allanol fel cyflenwyr i ddarparu data.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy, darllenwch y canllaw defnyddiwr busnes bach hwn gan DEFRA.

 

Gosod targedau a datblygu strategaeth sero net

Unwaith y byddwch wedi cyfrifo eich allyriadau, gallwch wedyn ddechrau gosod targedau. Ar gyfer eich nod cyffredinol, dylech naill ai gyrraedd targed sero net y DU neu edrych ar ddyddiad cau cynharach na 2050, os yw'n ymarferol. Mae bod yn uchelgeisiol ond yn realistig yn allweddol. Byddwch hefyd am osod targedau lleihau allyriadau interim, y gallwch fonitro eich cynnydd yn eu herbyn.

Os oes angen cymorth arnoch i osod targedau ac eisiau dangos eich ymrwymiad i sero net, mae'r fenter Targedau yn Seiliedig ar Wyddoniaeth (mTSG) yn galluogi busnesau i osod targedau credadwy, wedi'u dilysu yn unol â gwyddor hinsawdd ac mae bellach yn cynnig llwybr symlach i BBaChau.

Dylai eich nodau sero net gael eu hintegreiddio'n llawn i'ch strategaeth fusnes gyffredinol. Bydd y map ffordd i sero net yn amrywio’n fawr o fusnes i fusnes, ond dyma rai enghreifftiau o fesurau a allai fod yn rhan o gynllun cwmni:

  • Newidiwch i dariff ynni adnewyddadwy 100% neu, os yn bosibl, gosodwch ynni adnewyddadwy ar y safle
  • Trawsnewid i gerbydau trydan neu hybrid
  • Uwchraddio i offer ynni-effeithlon
  • Sicrhau bod adeiladau swyddfa wedi'u hinswleiddio'n dda
  • Addysgu gweithwyr am bwysigrwydd lleihau'r defnydd o ynni
  • Cyflwyno ffyrdd hyblyg o weithio a chymell gweithwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gerdded/beicio
  • Cydweithio â chyflenwyr a'u hannog i reoli eu hallyriadau eu hunain

 

Chwiliwch am gefnogaeth

Gall fod yn anodd datblygu a gweithredu strategaeth sero net gynhwysfawr, felly mae cael cyngor yn allweddol. Efallai y bydd angen buddsoddiad mawr ymlaen llaw hefyd ar gyfer rhai o'r mesurau y mae angen i chi eu cymryd i gyrraedd sero net.

Gall ein cyllid helpu busnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn dod yn fwy cynaliadwy a chefnogi eu trawsnewidiad i fod yn garbon niwtral. Gallwn hefyd ddarparu benthyciadau ac ecwiti i gwmnïau sy’n datblygu ac yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau gwyrdd arloesol yng Nghymru.

Rydym yn cefnogi ein cwsmeriaid i wella a lleihau eu heffaith amgylcheddol drwy weithio’n agos gyda Busnes Cymru. Mae eu hymgynghorwyr cynaliadwyedd arbenigol yn cynnig cymorth ar grantiau, ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd amgylcheddol, a'r Addewid Twf Gwyrdd.

Dolenni perthnasol: