Pam fod cynaliadwyedd yn bwysig mewn busnes?

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
Busnesau technoleg
lightbulbs

Mae’r symudiad i economi carbon isel ar y gweill, ac mae gweithredu corfforaethol yn cyflymu. Mae penawdau newyddion a thrafodaethau hyd yn hyn wedi canolbwyntio’n aml ar fusnesau mawr a’u hymrwymiadau hinsawdd. Ond ni fydd eu hymdrechion yn unig yn ddigon.

Mae busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn cyfrif am 99.9% o boblogaeth busnes y DU. Gyda’i gilydd, maent yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu Cymru i gyrraedd ei tharged sy’n rhwymol gyfreithiol dim allyriadau carbon net erbyn 2050.

Yn yr erthygl hon, rydym yn trafod y risgiau y gallai eich busnes eu hwynebu os na fyddwch yn gweithredu. Rydym hefyd yn archwilio’r cyfleoedd y mae cynaliadwyedd yn eu cyflwyno, gan roi rhai enghreifftiau go iawn o BBaCh sy’n gweithredu ar yr hinsawdd ac yn elwa’n fasnachol o ganlyniad.

Beth yw cynaliadwyedd mewn busnes?

Mae llawer o dermau gwahanol yn cael eu defnyddio yn y drafodaeth ar ddod yn fwy cynaliadwy – datgarboneiddio, carbon-niwtral vs net-sero, ond beth yw eu hystyr mewn gwirionedd? Dyma grynodeb cyflym o'r termau mwyaf cyffredin:

Datgarboneiddio

Mae'r term datgarboneiddio yn cyfeirio at y broses o leihau neu ddileu allyriadau carbon deuocsid a ryddheir i'r atmosffer gan weithgaredd dynol. Gall gwledydd a chwmnïau ddatgarboneiddio trwy leihau eu defnydd o danwydd ffosil a defnyddio ffynonellau ynni carbon isel yn lle hynny.

Carbon-niwtral

Mae person neu gwmni yn garbon niwtral os ydynt yn tynnu cymaint o garbon deuocsid o'r atmosffer ag y maent yn ei greu. Fel arfer cyflawnir hyn drwy wrthbwyso carbon, lle maent yn gwneud iawn am eu hallyriadau eu hunain drwy gefnogi prosiectau sy'n lleihau swm cyfatebol o allyriadau mewn mannau eraill.

Net-sero

Yn yr un modd â niwtraliaeth carbon, mae net sero hefyd yn golygu sicrhau cydbwysedd rhwng yr allyriadau a gynhyrchir ac allyriadau a dynnir o'r atmosffer. Er bod y termau net sero a charbon niwtral yn aml yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol, mae gwahaniaethau allweddol rhwng y ddau.

Yn gyffredinol, mae strategaeth net sero yn golygu dileu allyriadau cymaint â phosibl cyn prynu gwrthbwysiadau carbon i wneud iawn am unrhyw allyriadau sy'n weddill sy'n rhy anodd eu dileu. Felly mae'n anoddach cyrraedd sero net nag ydyw i gyflawni niwtraliaeth carbon.

Gwahaniaeth arall yw, gyda dull net sero, mae’n rhaid i unrhyw wrthbwysiad a brynir dynnu carbon o'r atmosffer yn barhaol, yn hytrach na dim ond ei leihau.

Pam mae cynaliadwyedd yn bwysig i BBaChau?

Nid yw cael cynnyrch neu wasanaeth da bob amser yn ddigon mwyach, gan fod mwy a mwy o bobl yn blaenoriaethu cynaliadwyedd wrth wneud penderfyniadau prynu. Felly, sut mae cynaliadwyedd a gwariant defnyddwyr yn gysylltiedig?

Yn ôl ymchwil gan Deloitte , dywed 23% o ddefnyddwyr y byddant yn newid i brynu cynhyrchion gan gwmnïau sy'n rhannu eu gwerthoedd amgylcheddol, ac mae 42% wedi newid arferion defnydd eu hunain oherwydd pryder am yr amgylchedd.

Gyda pholisi, cadwyni cyflenwi, a galw defnyddwyr eisoes yn symud i gyfeiriad sero net, bydd angen i'ch busnes ddechrau ei daith ei hun er mwyn aros yn gystadleuol - gorau po gyntaf, gorau oll.

Beth yw'r cyfleoedd?

Y newyddion da yw bod heriau yn dod gyda chyfleoedd. Rydym wedi gweld hyn yn ystod y pandemig, gyda llawer o BBaCh yn arallgyfeirio ac yn cael mantais mewn adfyd. Os caiff ei drin fel cyfle, gallai datgarboneiddio ddod â manteision pwerus i'ch busnes. Dyma ddwy o'r prif fanteision:

Torri costau

Gallech arbed arian drwy wella effeithlonrwydd ynni. Yn aml, gall busnesau gyflawni arbedion cost ar unwaith gyda mesurau syml, isel i ddim cost, fel:

  • Diffodd offer pan nad oes ei angen
  • Newid i dariff ynni gwyrdd am bris cystadleuol
  • Aildrefnu gofod swyddfa i wneud y mwyaf o olau naturiol a gwneud yn siŵr nad yw dodrefn yn rhwystro rheiddiaduron ac awyrellau
  • Cadw drysau allanol ar gau lle bynnag y bo modd yn y gaeaf; os oes angen eu gadael ar agor, gall gosod llenni aer neu stribedi llenni helpu i arbed ynni
  • Agor ffenestri a chau bleindiau yn yr haf cyn troi'r aerdymheru ymlaen

Mae mesurau eraill, fodd bynnag, yn fwy cymhleth a gall fod angen buddsoddiad sylweddol ymlaen llaw. Gall gosod technolegau ynni adnewyddadwy neu drosglwyddo i fflyd cerbydau trydan, er enghraifft, arbed llawer o arian i fusnesau yn y tymor hir.

Gall seibiannau treth fel y lwfans cyfalaf didyniad uwch wneud pethau'n haws. Mae hyn yn cynnig rhyddhad blwyddyn gyntaf o 130% ar fuddsoddiadau offer a pheiriannau cymwys tan 31 Mawrth 2023, gan gynnwys eitemau fel paneli solar a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.

I lawer o fusnesau, fodd bynnag, mae cyllid allanol yn allweddol. Mae cael cyngor am ble i fuddsoddi a meddwl yn gyfannol am weithredu hefyd yn bwysig. Er enghraifft, os ydych yn symud tuag at ddefnyddio cerbydau trydan, bydd angen i chi hefyd feddwl am bwyntiau gwefru a'r cyflenwad ynni y maent yn ei ddefnyddio. Os nad yw'n ynni adnewyddadwy, rydych mewn perygl o beidio â chyflawni buddion y buddsoddiad.

Mae Cyfrifwyr Siartredig Evens & Co yn enghraifft wych o fusnes Cymreig sydd wedi lleihau ei ôl troed carbon drwy gychwyn ar raglen gynaliadwyedd gyda chymorth Busnes Cymru a chyllid gennym ni ym Manc Datblygu Cymru.

Mae benthyciad busnes ar gyfer adleoli, ynghyd â chymorth ar gyfer gweithredu Addewid Twf Gwyrdd, wedi galluogi'r cwmni i leihau allyriadau CO2 ac ymgysylltu'n rhagweithiol â gweithwyr a chwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys ymestyn cylchoedd oes cynnyrch, cyd-berchnogi a rhannu cynhyrchion ar draws safleoedd, cyrchu'n lleol lle bynnag y bo modd, a gwneud y gorau o gadwyni cyflenwi i gyflawni perfformiad carbon isel.

Mae'r mesurau i wella trosi ynni yn lleihau ôl troed carbon ac yn helpu'r cwmni i arbed arian yn y tymor hir.

Ennill mantais gystadleuol

Mae'r cyfnod pontio net sero hefyd yn creu cyfleoedd refeniw newydd. Fel yr ydym wedi sôn, mae busnesau mwy o dan bwysau i ddatgarboneiddio eu cadwyni cyflenwi a byddant yn cynnwys cynaliadwyedd yn eu prosesau caffael. Gallai rhoi hwb i'ch manylion gwyrdd eich helpu i ennill busnes.

Mae galw defnyddwyr am gynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy ar gynnydd, a bydd busnesau sy'n arloesi i fodloni'r galw hwn yn elwa. Gallai hyn fod trwy gynnig cynhyrchion carbon isel, neu gynhyrchion sy'n helpu eraill i leihau eu hôl troed carbon eu hunain.

Cymerwch Deer Technology , er enghraifft - cwmni rydym wedi'i gefnogi gyda buddsoddiad ecwiti. Dyfeisiodd y cyd-sefydlwyr Hugh Mort a Garry Jackson y LimpetReader ™ i gymryd darlleniadau mesurydd cywir. Mae'r dechnoleg yn darparu safon newydd o ran cofnodi darlleniadau mesurydd ar gyfer dŵr, trydan, nwy a defnydd mesuredig o bell, anfewnwthiol a chywir.

Mae darlleniadau mesuryddion rheolaidd yn hanfodol i sicrhau bod y DU yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr net-sero erbyn 2050 – fel arall gall gwastraff fynd heb ei ganfod a heb ei ddatrys. Gydag amcangyfrif o 56.4 miliwn o fetrau cyfleustodau yn y DU yn unig, mae hon yn farchnad sy'n cynnig y cyfle gwirioneddol i Deer Technology gynyddu graddfa’n gyflym.

Denu a chadw gweithwyr

Nid cwsmeriaid yn unig sy'n chwilio am gymwysterau cynaliadwyedd cryf; mae gweithwyr yn gwneud hefyd. Mae nifer cynyddol o geiswyr gwaith eisiau gweithio i gwmni sy'n gwerthfawrogi cynaliadwyedd ac sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Mewn arolwg o fwy na 3,700 o fyfyrwyr busnes, dywedodd 64% nad oeddent yn meddwl bod busnesau'n gwneud digon i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol. Gall mabwysiadu arferion gwyrdd eich helpu i wella brand eich cyflogwr, a gall cael man gwaith ecogyfeillgar, er enghraifft gyda gwell awyru a golau naturiol, greu amgylchedd gwaith hapusach ac iachach.

Beth yw'r risgiau o anwybyddu datgarboneiddio / net sero?

Yn 2019, rhybuddiodd Mark Carney, llywodraethwr Banc Lloegr ar y pryd, y bydd cwmnïau nad ydyn nhw’n addasu i newid yn yr hinsawdd “yn mynd yn fethdalwr heb amheuaeth”. Mae planed sy'n cynhesu yn cyflwyno amrywiaeth o risgiau na all busnesau fforddio eu hanwybyddu.

Risgiau corfforol

Rydym eisoes yn gweld effeithiau diriaethol newid yn yr hinsawdd ar ffurf digwyddiadau tywydd eithafol fel llifogydd a sychder a digwyddiadau arafach fel lefel y môr yn codi. Gall y rhain gael ôl-effeithiau enfawr i fusnesau, o ddifrod i asedau ffisegol a chostau yswiriant uwch i darfu ar weithrediadau a chadwyni cyflenwi.

Yr unig ffordd i atal y risgiau ffisegol rhag gwaethygu yw cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr net sero. Os cyflawnir net sero yn fyd-eang erbyn 2050, dywed gwyddonwyr y gallai tymereddau byd-eang sefydlogi o fewn ychydig ddegawdau. Mae hynny’n golygu bod y camau a gymerwn i gyd yn awr yn cael effaith uniongyrchol ar ein dyfodol.

Risgiau pontio

Dyma’r risgiau sy’n codi o ganlyniad i’r newid i economi carbon isel, gan gynnwys:

Rheoliadau a pholisïau’r Llywodraeth

Ar hyn o bryd, mae gan y DU nifer o drethi carbon ymhlyg gan gynnwys tollau tanwydd a’r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd, yn ogystal â Chynllun Masnachu Allyriadau sy’n cwmpasu sectorau penodol. Mae ganddo drethi amgylcheddol eraill hefyd, fel Treth Tirlenwi a'r Dreth Pecynnu Plastig newydd , a ddaw i rym o fis Ebrill 2022.

Hefyd o fis Ebrill ymlaen, bydd yn rhaid i gwmnïau a sefydliadau ariannol mwyaf y DU ddatgelu gwybodaeth ariannol yn ymwneud â’r hinsawdd, yn unol ag argymhellion y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol Cysylltiedig â'r Hinsawdd (a adwaenir fel TCFD).

Mae'n debygol y bydd gofynion adrodd yn dod yn fwy eang, gan effeithio ar fusnesau bach yn y pen draw. Gellid ehangu prisiau carbon hefyd. Un posibilrwydd yw treth garbon sy’n rhoi pris uniongyrchol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir gan fusnesau.

Bydd y pwysau rheoleiddio cynyddol hyn yn gadael busnesau heb fawr o ddewis ond mynd yn wyrdd. Ond yn hytrach nag aros am reoleiddio i orfodi'r newid, bydd paratoi nawr yn eich rhoi ar y blaen ac yn eich helpu i osgoi costau yn nes ymlaen.

Pwysau gan brynwyr

Er nad yw’r gofynion adrodd newydd yn effeithio’n uniongyrchol ar BBaChau, mae’r ffaith bod gan gwmnïau mawr ymrwymiadau i ddatgarboneiddio ganlyniadau perthnasol iddynt. Mae llawer o fusnesau mawr yn edrych ar eu hallyriadau 'Cwmpas 3' - allyriadau anuniongyrchol gan gynnwys y rhai gan gwmnïau eraill yn eu cadwyni cyflenwi - gan fod y rhain yn aml yn ffurfio'r rhan fwyaf o ôl troed carbon sefydliad.

Os ydych yn cyflenwi i gwmnïau mawr, mae'n bwysig eich bod yn deall eich allyriadau Cwmpas 1 a 2 , oherwydd efallai y bydd angen i chi adrodd arnynt a'u lleihau cyn bo hir. Mae Cwmpas 1 yn cwmpasu allyriadau nwyon tŷ gwydr y mae eich cwmni’n eu gwneud yn uniongyrchol, tra bod Cwmpas 2 yn cwmpasu allyriadau anuniongyrchol o ddefnyddio trydan, stêm, gwres neu oeri a brynwyd.

Buddsoddi mewn cwmnïau cynaliadwy

Ym Manc Datblygu Cymru, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd a chefnogi strategaeth net sero Llywodraeth Cymru.

Gall ein cyllid helpu busnesau yng Nghymru i fuddsoddi mewn dod yn fwy cynaliadwy a chefnogi eu trawsnewidiad i fod yn garbon niwtral. Gallwn hefyd ddarparu benthyciadau ac ecwiti i gwmnïau sy’n datblygu ac yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau gwyrdd arloesol yng Nghymru.

Cefnogaeth a chysylltiadau

Rydym yn cefnogi ein cwsmeriaid i wella a lleihau eu heffaith amgylcheddol drwy weithio’n agos gyda Busnes Cymru. Mae eu hymgynghorwyr cynaliadwyedd arbenigol yn cynnig cymorth ar grantiau, ynni adnewyddadwy, cynaliadwyedd amgylcheddol, a'r Addewid Twf Gwyrdd.

Dolenni perthnasol