Gall rhedeg busnes bach eich gadael chi'n teimlo'n aml eich bod chi'n gwneud popeth ar eich pen eich hun. Ar ben popeth sydd ei angen i werthu eich cynnyrch neu wasanaeth, rydych chi hefyd yn gyfrifydd, marchnatwr, rheolwr, dylunydd gwe, dadansoddwr cyfryngau cymdeithasol a glanhawr eich hun.
Wrth chwilio am gefnogaeth neu gyngor, mae cael barn cyfoedion a gweithwyr proffesiynol yn talu ar ei ganfed yn aml iawn.
Ond mae grŵp arall o bobl allan yna, y bydd eu cyngor yn amhrisiadwy o ran gwella a thyfu eich busnes – ac weithiau, maen nhw mor amlwg fel ei bod hi'n hawdd eu colli.
Eich cwsmeriaid.
Adborth, cyngor a gwelliannau
Mae eich cwsmeriaid yn ffynhonnell wych o adborth, cyngor a gwelliannau. Os oes unrhyw un am leisio barn ar eich busnes a'r hyn sydd ganddo i'w gynnig, nhw yw'r rhai hynny. Does dim rhyfedd mewn gwirionedd bod y dywediad ‘mae’r cwsmer bob amser yn iawn" yn un poblogaidd.
Bydd gennych gyfoedion, mentoriaid a gweithwyr proffesiynol yn rhoi arweiniad i chi. A dylech wrando arnyn nhw. Ond trwy gadw eich cwsmeriaid yn fodlon y gallwch chi gadw eich busnes yn tyfu – yn enwedig os ydych chi'n gallu ennill eu teyrngarwch.
Drwy roi eu hadborth i chi, mae cwsmeriaid yn dweud wrthych chi beth maen nhw eisiau i'ch busnes ei wneud. Be mae nhw eisiau i’ch busnes fod. A’i gyflawni.
Efallai na fyddwch chi'n gallu gweithredu ar bopeth maen nhw'n ei ddweud wrthych chi bob amser. Ond bydd llawer ohono yn ddefnyddiol, ac yn rhoi pethau defnyddiol i chi feddwl amdanyn nhw pan fyddwch chi'n edrych ar wella.
Y peth cyntaf i'w ystyried yw – sut ydych chi'n cael eu mewnbwn nhw?
Sut i gael adborth gan eich cwsmeriaid
Y peth cyntaf sydd angen i chi edrych arno yw sut mae eich cwsmeriaid yn rhoi gwybod i chi beth maen nhw'n ei feddwl am eich cynhyrchion neu wasanaethau.
Os cewch chi e-bost achlysurol, boed hynny gan rywun yn gwneud awgrymiadau ar sut allwch chi wella, neu'n canmol yr hyn rydych chi eisoes yn ei gynnig, mae hynny'n ddechrau gwych. Ond dim ond dechrau ydi hynny yn dal i fod o hyd.
Os ydych chi wirioneddol eisiau gwybod beth mae eich cwsmeriaid yn ei feddwl, does dim ffordd well o ddarganfod na gofyn iddyn nhw.
Gallech chi roi post byr ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol eich busnes, gan eu gwahodd i roi eu barn. Neu efallai y gallech chi wneud yr un peth trwy gylchlythyr, os oes gennych chi un. Mae hyd yn oed yr opsiwn amlwg o sgwrsio â chwsmeriaid pan fyddwch chi'n cwrdd â nhw wyneb yn wyneb yn beth dda.
Ond, os ydych chi wir yn bwriadu gwneud rhywbeth gyda'u hatebion, efallai y byddai mynd i lawr llwybr mwy ffurfiol yn well, hyd yn oed os yw'n ymddangos ychydig yn ddull hyd braich.
Cofiwch – nid dim ond gofyn am sgwrs ydych chi. Bydd eu hadborth nhw yn llywio sut rydych chi'n meddwl am eich cynlluniau busnes o hyn ymlaen. Felly nid dim ond llawer o negeseuon ysgrifenedig yw'r canlyniad gorau i chi – rydych chi eisiau data, a fydd yn rhoi cipolwg clir i chi ar sut maen nhw'n meddwl eich bod chi'n perfformio.
Arolygon a chwestiynau adborth cwsmeriaid – mynnwch y data
Mae digon o wefannau ar gael sy'n cynnig y cyfle i chi greu a chynnal arolygon am ddim, neu am bris rhad. Yn sicr fe allwch chi ddefnyddio'r rheini i gasglu barn pobl - yn enwedig os ydych chi'n eu hyrwyddo allan yna gyda phost cyfryngau cymdeithasol neu gylchlythyr e-bost.
A thrwy rhain, fe allwch chi gael eich cwsmeriaid i ateb cwestiynau gosodedig gydag atebion gosodedig. Gall y data hwnnw fod yn hynod bwysig wrth i chi gynllunio eich camau nesaf, oherwydd gall roi cipolwg pwerus, mesuredig i chi ar yr hyn y mae pobl yn ei feddwl am eich busnes – boddhad cwsmeriaid, sgoriau cynnyrch neu arferion prynu.
Sut i ddefnyddio adborth cwsmeriaid
Mae eich cwsmeriaid wedi cwblhau arolygon, holiaduron neu ffurflenni adborth. Dyna ni - gwych – mae gennych chi’r wybodaeth honno. Dychmygwch eich bod chi hyd yn oed wedi treulio amser yn darganfod beth mae’r adborth yn ei olygu – efallai bod nifer fawr o’r rhai sy’n ymateb i gyd yn meddwl yr un peth am sut y gallai eich cynnyrch wella. Os felly, mae gwneud y gwelliant hwnnw’n beth amlwg i chi fynd ati i’w wneud.
Fel y soniwyd yn gynharach, efallai nad oes gennych yr arian na'r adnoddau sydd eu hangen i roi'r gwelliannau a awgrymir ar waith. Ond gallai rhai ohonynt fod yn bethau hawdd a buddiol i’w sefydlu neu eu gwneud yn gyflym, heb orfod gwneud newidiadau enfawr i'ch cynlluniau busnes ehangach. Gallai hyn fod yn rhywbeth mor amlwg â gwneud taliadau ar-lein yn haws trwy eich gwefan, gan ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at eich anfonebau,
Ond gall eich helpu i wneud newidiadau strategol mawr hefyd. Gall roi gwybod i chi beth mae eich cwsmeriaid yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd am yr hyn rydych chi'n ei wneud. Gallai hynny roi'r hyder sydd ei angen arnoch i roi'r gorau i weithio ar bethau nad oes ganddyn nhw ddiddordeb ynddynt, i ganolbwyntio ar ble yn union mae’r pethau pwysig hynny.
Ac os gallwch chi gysylltu'r hyn rydych chi'n ei ddysgu gan eich cwsmeriaid â data arall a gasglwyd am eich busnes, rydych chi mewn sefyllfa arbennig o dda.
Drwy gydweddu anghenion eich cwsmeriaid yn effeithlon y gallwch wella eich busnes a chynllunio ar gyfer twf.
Cynllunio ar gyfer twf – buddsoddi a gwella
P'un a ydych chi'n bwriadu gwneud newidiadau mawr i'ch cynlluniau busnes yn unol ag adborth cwsmeriaid, neu eisiau rhoi cynnig ar gynnyrch neu wasanaeth newydd, rydym ni yma i'ch helpu chi.
Rydym yn cynnig benthyciadau o £1,000 i £10 miliwn, a buddsoddiad ecwiti o £50,000 i £10 miliwn. Beth bynnag rydych chi wedi'i ddysgu gan eich cwsmeriaid busnes, gallwn eich helpu i fodloni eu disgwyliadau gyda chyllid wedi'i dargedu.