Gall penderfynu dechrau busnes fod yn gam mawr. Gall swm a maint y pethau y mae angen i chi eu hystyried ymddangos fel rhywbeth llethol.
Dyna pam rydym wedi llunio'r canllaw syml hwn. Y nod gyda’r canllaw hwn yw darparu'r holl wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen, er mwyn gwneud y gwaith o sefydlu busnes ymddangos fel rhywbeth sy'n llai brawychus. Bydd yr union beth y mae'n rhaid i chi ei wneud yn amrywio o un cwmni i'r llall. Mae'r hyn a ganlyn, fodd bynnag, yn gyngor cyffredinol a ddylai fod yn ddefnyddiol i bawb.
I gael rhagor o wybodaeth am ddechrau busnes yng Nghymru, ymwelwch â Busnes Cymru.
Sut i ddewis strwythur busnes
Pan fyddwch chi'n sefydlu busnes, yn gyntaf mae'n rhaid i chi benderfynu pa fath o fusnes fydd o.
Mae'r rhan fwyaf o fusnesau newydd yn mabwysiadu un o dri phrif fath o strwythur cyfreithiol:
Masnachwyr unigol
Dyma'r strwythur busnes symlaf. Dyma sut mae'r rhan fwyaf o unigolion yn rhedeg eu busnes eu hunain os nad oes ganddynt bartneriaid eraill. Rydych yn cadw unrhyw elw ar ôl treth ond rydych hefyd yn gyfrifol am yr holl ddyledion busnes. Yn wir, ni ystyrir bod asedau personol a busnes yn asedau ar wahân os ydych chi'n sefydlu fel unig fasnachwr.
Sefydlu fel unig fasnachwr yw'r dewis amlwg i'r rhan fwyaf o bobl a fydd yn gweithio ar eu pennau eu hunain. Gallai hynny olygu darparu gwasanaethau ar eich liwt eich hun o'ch cartref, neu sefydlu fel gyrrwr hunangyflogedig neu yrrwr tacsi.
Partneriaethau
Mae partneriaethau yn gwmnïau a sefydlwyd gan fwy nag un person. Er gwaethaf yr enw, nid oes rhaid i bartneriaeth fod yn ddau berson. Gallant gynnwys llawer mwy na dau o bobl os dymunir. Mae gan bob partner gyfrifoldebau a rennir ar gyfer y busnes.
Gall union natur cyfrifoldebau unigol partneriaid fod yn wahanol. Yn aml byddant yn cael eu hymgorffori mewn cytundeb partneriaeth. Yn gyffredinol, bydd yr holl bartneriaid yn rhannu dyledion cwmni. Mae gan bartneriaethau hefyd fwy o gyfrifoldebau cyfrifyddu na masnachwyr unigol.
Cwmnïau cyfyngedig
Mae cwmnïau cyfyngedig yn unedau cyfreithiol eu hunain. Mae eu cyllid yn gwbl ar wahân i gyllid yr unigolion sydd wedi eu sefydlu. Os ydynt yn ‘gyfyngedig yn ôl cyfranddaliadau’, yna bydd gan y cwmnïau gyfarwyddwr ac o leiaf un cyfranddaliwr. Yn wahanol i strwythurau busnes eraill, mae'n rhaid i gwmnïau cyfyngedig hefyd dalu treth corfforaeth.
Rhennir yr elw ar ôl treth gan gwmnïau cyfyngedig rhwng y cyfranddeiliaid. Mae gan y math hyn o fusnesau y cyfrifoldebau cyfrifyddu a rheoli mwyaf o bell ffordd. Byddwn yn trin a thrafod hyn mewn ychydig mwy o fanylder isod.
Cofrestru gyda chyllid a thollau EM
Unwaith y byddwch wedi dewis eich strwythur busnes, mae'n bryd cofrestru gyda CThEM a chyrff perthnasol eraill. Mae'r union beth y mae'n rhaid i chi ei wneud yn dibynnu ar eich strwythur dewisol:
Masnachwyr unigol
Mae'n hawdd cofrestru fel unig fasnachwr. Rhaid i chi gofrestru ar gyfer trethiant Hunanasesiad a ffeilio ffurflen dreth ar gyfer pob blwyddyn. Er mwyn cadw'r ffurflenni hynny yn gywir, mae'n rhaid i chi gadw cofnodion o werthiannau a threuliau eich busnes. Gall masnachwyr unigol fasnachu o dan eu henwau eu hunain, yn hytrach nag enw busnes swyddogol.
Fel unig fasnachwr, mae’n rhaid i chi dalu treth incwm ar eich elw. Mae angen i chi hefyd wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4. Rhaid i chi hefyd gofrestru ar gyfer TAW os yw eich trosiant dros £85,000. Mae hyn yn annhebygol ar gyfer busnes newydd ei sefydlu. Mae CThEM yn darparu manylion mwy cynhwysfawr ar sut i sefydlu busnes fel unig fasnachwr.
Partneriaethau
Wrth sefydlu partneriaeth mae'n rhaid i chi ddewis enw partneriaeth a 'phartner enwebedig’. Y partner enwebedig sy'n gyfrifol am reoli ffurflenni treth a chadw cofnodion busnes. Rhaid iddynt hefyd gofrestru'r bartneriaeth gyda CThEM.
Ynghyd â chofrestru'r bartneriaeth, rhaid i bob partner anfon eu ffurflenni treth unigol eu hunain bob blwyddyn. Rhaid i bartneriaethau hefyd gofrestru ar gyfer TAW os oes ganddynt drosiant o fwy na £85,000. Unwaith eto, gellir dod o hyd i fwy o fanylion trwy CThEM.
Cwmnïau cyfyngedig
I sefydlu fel cwmni cyfyngedig, bydd angen i chi gofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw ar-lein. Mae'n costio £12 ac, yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch gofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth ar yr un pryd.
I gofrestru, byddwch angen:
- cyfeiriad cwmni swyddogol
- dewis enw cwmni a gwirio a yw ar gael
- manylion o leiaf un cyfarwyddwr (mae ysgrifenyddion cwmni yn ddewisol)
- gwybodaeth am gyfranddeiliaid os yw eich cwmni yn 'gyfyngedig drwy gyfranddaliadau'
- nodi eich Pobl â Rheolaeth Arwyddocaol - e.e. unrhyw un sydd â hawliau pleidleisio neu fwy na 25% o gyfranddaliadau'r cwmni
Bydd angen i chi hefyd baratoi dogfennau sy'n nodi sut yr ydych chi'n mynd i redeg eich cwmni ee eich rheolau ysgrifenedig. Gelwir y rhain yn 'femorandwm’ ac yn ‘erthyglau cwmni’. Os fyddwch chi'n cofrestru ar-lein, caiff eich memorandwm ei greu'n awtomatig fel rhan o'ch cofrestriad. Ar gyfer eich erthyglau cwmni, gallwch naill ai ddefnyddio erthyglau safonol (a elwir yn ‘erthyglau enghreifftiol') neu eu hysgrifennu eich hun a'u huwch llwytho neu eu hanfon pan fyddwch yn cofrestru eich cwmni.
Y cam olaf yw gwirio pa gofnodion cwmni a chyfrifyddu y bydd angen i chi eu cadw a'u ffeilio gyda Thŷ'r Cwmnïau. Gallwch chi logi pobl eraill i reoli rhediad eich cwmni o ddydd i ddydd, ond fel cyfarwyddwr cwmni, rydych chi'n gyfreithiol gyfrifol am gofnodion, cyfrifon a pherfformiad y cwmni.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael tystysgrif corffori sy'n cadarnhau bod y cwmni'n bodoli'n gyfreithiol.
Defnyddiwch y canllaw cam wrth gam defnyddiol hwn i gael gwybod mwy am gofrestru fel cwmni cyfyngedig.
Creu cyllideb neu gynllun busnes
Nid yw'r gwaith o godi busnes newydd oddi ar y ddaear yn hawdd. Un o'r awgrymiadau pwysicaf o ran sefydlu busnes yw eich bod wedi paratoi. Mae hynny'n golygu llunio cyllideb gynhwysfawr a chywir ar y dechrau.
Mae angen i chi ystyried a chyfrifo'r holl gostau y byddwch yn eu hwynebu wrth sefydlu a rhedeg y busnes. Bydd yr union beth y bydd y rheini'n ei gynnwys yn amrywio o un busnes i'r llall. Mae'r hyn a ganlyn yn enghreifftiau gwych o gostau y mae'n rhaid i lawer o fusnesau newydd eu hariannu / gyllidebu ar eu cyfer:
- Offer – Popeth o gyfrifiaduron a deunydd ysgrifennu i beiriannau ac offer / peiriannau arbenigol.
- Cyfathrebiadau – Costau sy'n gysylltiedig â sefydlu llinell ffôn fasnachol, cynnal gwefannau a sefydlu cyfrifon e-bost proffesiynol.
- Cerbydau – Llogi neu brynu cerbydau ar gyfer danfoniadau neu arferion busnes allweddol eraill.
- Eiddo – Prynu neu rentu gofod swyddfa neu blaen siop. Talu'r cyfraddau a chyfleustodau ar gyfer unrhyw eiddo.
- Marchnata – Argraffu deunyddiau marchnata, rhedeg ymgyrchoedd hysbysebu, neu gontractio asiantaeth farchnata broffesiynol, er enghraifft.
- Staff – Cyflogau gweithwyr neu dalu am wasanaethau gweithwyr llawrydd.
Unwaith y byddwch wedi llunio cyllideb, bydd gennych syniad gwell a fyddai eich busnes yn elwa o gael cyllid allanol. Os ydych am geisio benthyciad busnes neu gyllid arall, bydd angen i chi gynhyrchu cynllun busnes. Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu ceisio cyllid, mae cynllun busnes yn dal i fod yn arf defnyddiol i'ch busnes.
Nid yw cynllun busnes yn bodoli ddim ond ar gyfer helpu i ddarbwyllo buddsoddwyr posibl. Gall hefyd eich helpu i dyfu'ch busnes eich hun a chadw ffocws ar eich amcanion. Yn bwysicach, mae'n darparu ‘map ffordd’ ar gyfer cyflawni'r amcanion hynny.
Mae'n hanfodol os ydych chi am i'r cynllun busnes fod yn wirioneddol ddefnyddiol, eich bod yn ei gadw'n onest ac yn realistig. Yr hyn sydd hefyd yn ddefnyddiol yw cadw mewn cof y syniad nad yw eich cynllun busnes byth yn gyflawn. Dylai fod yn ddogfen sy'n datblygu o hyd ac yn datblygu ochr yn ochr â datblygiad eich busnes.
Cadw trefn dda ar y llyfrau busnes a’r gweinyddu
Pan fyddwch chi'n sefydlu busnes, mae'n rhaid i chi ddod i arfer yn gyflym gyda chadw cyfrifon a chyfrifyddu. Hyd yn oed os yw'ch cwmni'n cymryd amser i sbarduno fel petai, mae angen i chi ddechrau cadw'ch llyfrau o'r diwrnod cyntaf. Mae'n gwbl hanfodol nid yn unig ar gyfer ffeilio ffurflenni treth ond hefyd ar gyfer cadw golwg gywir ar sut mae'ch busnes yn perfformio.
Mae cadw eich llyfrau yn golygu cynnal cofnodion cywir a chyfredol o incwm a threuliau'r cwmni. Bydd angen i chi gadw a ffeilio pethau fel anfonebau, derbynebau a datganiadau banc. Byddwch hefyd am gadw tabiau rheolaidd ar elw neu golledion cyffredinol. Gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio rhaglen syml fel Microsoft Excel. Fel arall, efallai y byddai'n well ichi fuddsoddi mewn meddalwedd cadw llyfrau.
Mae yna hefyd ystyriaethau ariannol a gweinyddol eraill i'w meistroli cyn gynted ag y byddwch yn sefydlu busnes. Er enghraifft, efallai y bydd angen i chi sefydlu cyfrif banc busnes. Os gwnaethoch gofrestru fel cwmni cyfyngedig, mae hyn yn angenrheidiol. Os ydych chi'n bartneriaeth neu'n unig fasnachwr, gall eich helpu i gadw gwell golwg ar gyllid busnes.
Yn dibynnu ar eich busnes newydd, efallai y bydd angen i chi gymryd rhai mesurau i sicrhau eich bod yn cydymffurfio. Mae ar lawer o gwmnïau angen trwyddedau neu hawlenni i weithredu'n gyfreithiol. Efallai y bydd angen i chi hefyd feddwl am bethau fel diogelu data neu seiberddiogelwch, os ydych chi'n mynd i weithredu ar-lein.
Bydd llawer o fusnesau hefyd angen rhyw fath o yswiriant. Mae yswiriant busnes, fel yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac offer, yn aml yn ddewis da. Fodd bynnag, mae llawer o gynhyrchion ar gael. Gall rhyw fath o yswiriant personol fod yn ddefnyddiol hefyd. Nid oes gennych chi bellach gyflogwr i ddibynnu arno am dâl salwch a buddion eraill.
Adeiladu ar y sylfeini hynny
Dylai'r cyngor a'r arweiniad uchod ddarparu sylfeini da ar gyfer adeiladu busnes. Eich cyfrifoldeb chi yw'r gweddill. Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru, yn cydymffurfio ac wedi cyllidebu, yna mae hi'n bryd sbarduno eich busnes o ddifri.
Mae beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol yn wahanol i bob cwmni. Efallai y bydd yn golygu neidio i mewn yn y pen dwfn a phrynu'r adeilad blaen siop hwnnw. Gallai olygu anfon cawodydd o e-byst neu wneud galwadau ffôn cyson er mwyn denu’r cleientiaid cyntaf hynny. Beth bynnag y mae'n ei olygu, os ydych chi wedi dilyn ein canllaw syml ar sut i sefydlu busnes, byddwch chi yn y sefyllfa orau i lwyddo.
Os oes angen cyllid arnoch i ddechrau eich busnes, dysgwch fwy am y cyllid hyblyg y gall Banc Datblygu Cymru ei gynnig i fusnesau yng Nghymru.