Beth yw olyniaeth busnes?

Portrait of Sophie Perry
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
Gwerthu busnes
businesswomen at table

Mae perchnogion busnes yn aml yn cael eu dal yn y pwysau beunyddiol o redeg a thyfu cwmni. Efallai mai'r diwrnod y maent yn camu i lawr ohono yw'r peth pellaf o'u meddyliau. Ond gall methu â chynllunio ymlaen llaw achosi ansicrwydd ac aflonyddwch, a pheryglu dyfodol y busnes maen nhw wedi treulio blynyddoedd o waith caled yn ei adeiladu.

Gelwir trosglwyddo perchnogaeth cwmni i berson neu dîm arall yn olyniaeth busnes. Mae sawl ffordd y gall hyn ddigwydd, yn amrywio o'i drosglwyddo i aelod o'r teulu i'w werthu i brynwr masnach neu dîm rheoli.

Yn yr erthygl hon, rydym yn egluro pwysigrwydd cynllunio olyniaeth ac yn crynhoi rhai o'r llwybrau olyniaeth cyffredin. Os ydych chi'n ystyried prynu neu werthu busnes, dylai hyn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r opsiynau sydd ar gael i chi.

 

Pam mae angen i chi gynllunio olyniaeth

Yn rhy aml mae cynllunio olyniaeth yn rhywbeth sy'n digwydd yn adweithiol. Nid yw llawer o berchnogion busnes yn mynd i'r afael â hyn hyd nes eu bod yn cael eu gorfodi gan amgylchiadau fel oedran neu iechyd gwael i adael y cwmni. Gall hyn arwain at benderfyniadau brysiog, di-hyddysg ac chyda diffyg rheolaeth dros y canlyniad terfynol. Mae bod yn rhagweithiol a chreu cynllun olyniaeth cadarn yn gynnar yn eich rhoi mewn sefyllfa well o lawer. Gorau po gyntaf y byddwch chi'n dechrau'r broses, a'r mwyaf yw'r siawns y byddwch chi a'r cwmni'n sicrhau canlyniad dymunol. Gall cynllunio ymlaen llaw ganiatáu i chi:

  • Ddewis yr olynwyr mwyaf addas i symud y cwmni ymlaen a'u harfogi â'r sgiliau angenrheidiol i gymryd eich rôl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau goroesiad a thwf tymor hir y busnes
  • Canolbwyntio ar wneud y gorau o werth a gwneud y busnes mor ddeniadol â phosibl ar gyfer gwerthiant yn y dyfodol
  • Penderfynu sut i wneud y mwyaf o'ch enillion o unrhyw fargen a lleihau enillion cyfalaf a threthi incwm i'r eithaf. Efallai y gallwch chi fanteisio ar Ryddhad Gwaredu Asedau Busnes, gan eich galluogi i dalu llai o dreth enillion cyfalaf pan fyddwch chi'n gwerthu'ch busnes cyfan neu ran ohono
  • Gwerthuso darpar brynwyr neu gynigion. Pan nad ydych o dan bwysau i werthu a'ch bod yn fwy gwybodus, gallwch wneud penderfyniad p'un ai i dderbyn cynnig neu aros am gynnig mwy priodol
  • Rhoi mwy o sicrwydd i weithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig i'r cwmni
  • Cadw rheolaeth ar y broses, yn hytrach na gadael i rywun arall wneud penderfyniadau a chymryd rheolaeth

 

Mae cynllunio olyniaeth yn dechrau wrth i chi fynd ati i ddiffinio'ch nodau personol a'ch gweledigaeth ar gyfer y busnes yn glir. Mae yna lawer o bethau i'w hystyried, er enghraifft:

  • Beth yw eich cynlluniau ôl-olyniaeth? Ydych chi'n mynd i ymddeol neu a ydych chi am ddilyn hynt ryw gyfle, fel lansio busnes newydd?
  • Os ydych chi'n gwerthu'ch cyfranddaliadau, a ydych chi eisiau ymadawiad lawn neu rannol, a hynny yn unol â pha amserlen?
  • Beth yw eich anghenion ariannol? A fydd gennych chi ddigon o adnoddau i gefnogi'r ffordd o fyw rydych chi ei eisiau wrth symud ymlaen?
  • Ydych chi am barhau i fod yn rhan o'r busnes ar ôl yr olyniaeth, ym mha rinwedd, ac am ba hyd?
  • Beth yw'r nodau tymor hir i'r busnes? Sut gallai gwerthu / trosglwyddo perchnogaeth effeithio ar dwf y cwmni yn y dyfodol?
  • Ydych chi eisiau adeiladu gwaddol a sicrhau bod swyddi'n cael eu cadw'n lleol?

 

Gall y cwestiynau hyn fod yn anodd eu hateb, ond mae gwybod yn union beth rydych chi am ei gyflawni a gallu cyfleu hyn i'r sawl sy'n eich cynghori ynghyd â'ch rhanddeiliaid yn allweddol i gael canlyniad llwyddiannus.

Mathau o olyniaeth

Mae yna lawer o ffyrdd o drosglwyddo perchnogaeth. Dyma ychydig o lwybrau olyniaeth poblogaidd i'w hystyried os ydych chi'n ystyried gwerthu neu brynu busnes:

Allbryniant Rheoli (AllRh)

Allbryniant rheoli yw pan fydd y tîm rheoli presennol yn prynu'r busnes cyfan neu ran ohono. Weithiau mae perchnogion cwmnïau'n anwybyddu'r tîm rheoli pan maen nhw'n bwriadu gwerthu. Ond gall AllRh fod y strategaeth ymadael orau, gan fod o fudd i'r gwerthwr a'r rheolwyr ac yn gadael y cwmni yn nwylo'r bobl sydd fwyaf abl i'w redeg.

Mae manteision AllRh yn cynnwys:

  • Yn nodweddiadol mae'n caniatáu ar gyfer trosglwyddiad llyfn ac yn aml gellir ei gwblhau'n gyflymach na gwerthiant allanol
  • Gall roi sicrwydd i'r gwerthwr y bydd gwerthoedd a diwylliant y cwmni'n cael eu cadw ac y bydd swyddi'n cael eu gwarchod
  • Mae gweithwyr, cwsmeriaid a chyflenwyr hefyd yn fwy tebygol o fod yn gyffyrddus â'r cyfnod pontio gan eu bod yn gyfarwydd â'r tîm rheoli ac fe allant ddisgwyl gweld parhad
  • Yn nodweddiadol mae angen llai o ddiwydrwydd dyladwy gan fod gan y prynwyr wybodaeth fanwl am y busnes eisoes
  • Nid oes angen darparu gwybodaeth gyfrinachol i brynwyr strategol, h.y. cystadleuwyr
  • O safbwynt y tîm rheoli, mae'n opsiwn deniadol oherwydd y darpar enillion mwy y byddan nhw'n eu cael o fod yn berchnogion y cwmni yn hytrach nac yn weithwyr. Mae'n gyfle i ddefnyddio eu huchelgais a'u harbenigedd i dyfu cwmni y maen nhw eisoes yn ei adnabod a'i ddeall.

 

Gall y cyllid sy'n ofynnol ar gyfer AllRh fod yn sylweddol. O ganlyniad, nid yw llawer o dimau rheoli yn bachu ar y cyfle i brynu'r busnes oherwydd eu bod yn credu na allant fforddio gwneud hynny. Ond mae yna amrywiaeth o ddulliau cyllido ac yn aml bydd cyllidwyr allanol yn darparu'r mwyafrif o'r cyllid, gan adael i'r tîm rheoli dalu cyfran fach yn unig. Darllenwch ein blog bost Sut i ariannu eich allbryniant rheoli i gael gwybod mwy.

Mewnbryniant Rheoli (MRh)

Dyma lle mae rheolwr allanol neu dîm rheoli yn prynu busnes i gyd, neu ran reoli ynddo, a nhw fydd yn dal yr awenau rheolaeth newydd dros y cwmni. Er nad oes gan dîm allanol yr un lefel o wybodaeth am y busnes â thîm mewnol, maent yn aml yn swyddogion gweithredol profiadol iawn sydd â gwybodaeth helaeth o'r sector. Yn yr un modd â AllRh, mae MRh fel rheol yn ymofyn am gyfuniad o gyllid o amrywiol ffynonellau, gan gynnwys cyfraniad ariannol gan y tîm rheoli i ddangos eu hymrwymiad i dyfu'r busnes.

Mae MRh fel arfer yn fuddiol i'r prynwr a'r gwerthwr. Gall fod yn opsiwn gwych lle nad oes olynydd clir a lle nad oes gan y tîm rheoli presennol ddiddordeb mewn prynu'r cwmni, neu os nad yw'r cwmni'n cael ei reoli'n dda ar hyn o bryd. Gall y tîm rheoli newydd ddod â phrofiad, arbenigedd a chysylltiadau i yrru twf y cwmni a chynyddu ei werth.

Mewnbrynu Allbryniant Rheoli (MARh)

Mae MARh yn cyfuno elfennau o AllRh a MRh. Mae o leiaf rhai o'r tîm rheoli presennol yn prynu'r busnes ochr yn ochr ag un neu fwy o reolwyr allanol, sy'n ymuno â'r tîm yn dilyn y pryniant. Gall hon fod yn strategaeth ddelfrydol os oes bwlch sgiliau yn y tîm rheoli presennol, efallai oherwydd ymadawiad y perchennog gwerthu, y gall arbenigedd arweinwyr allanol ei lenwi.

Allbryniant gweithwyr (AllG)

Gelwir prynu cwmni gan ei weithwyr presennol yn Allbryniant gweithwyr. Gall gynnwys perchnogaeth uniongyrchol (mae gan bob gweithiwr gyfranddaliadau yn uniongyrchol), perchnogaeth anuniongyrchol (mae cyfranddaliadau yn cael eu dal gan ymddiriedolaeth gweithiwr ar ran y gweithwyr), neu gyfuniad. Yn yr un modd â phryniant gan reolwyr, gall AllG fod yn ddatrysiad da i berchnogion busnes sydd am sicrhau etifeddiaeth a sicrhau bod swyddi gweithwyr yn cael eu cadw. Mae'n gyfle i wobrwyo gweithwyr ffyddlon, a fydd, fel cyfranddalwyr, yn cael eu cymell yn fawr i dyfu'r cwmni.

Rydym yn darparu benthyciadau hyblyg ac ecwiti i gefnogi all-bryniant gweithwyr. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda Cwmpas a’u rhaglen bwrpasol i gefnogi Perchnogaeth Gweithwyr Cymru

Caffael neu werthiant masnach

Gwerthiant neu gaffaeliad masnach yw pan fydd un cwmni'n prynu rhan neu'r cyfan o gwmni arall ac yn ennill rheolaeth. Gall fod â manteision sylweddol i'r prynwr, sy'n aml yn gaffaelwr strategol sy'n gweithredu yn yr un diwydiant. Er enghraifft, gallai eu galluogi i ennill sgiliau neu dechnolegau yn gyflym, cynyddu eu cyfran o'r farchnad, neu leihau costau oherwydd arbedion maint. I'r perchennog sy'n gwerthu'r busnes, gall fod yn strategaeth ymadael broffidiol a, gan fod synergedd clir rhwng y ddau gwmni fel arfer, gall y caffaeliad arwain at fwy o dwf a mwy o werth yn y dyfodol.

 

Cyllid olyniaeth gan Fanc Datblygu Cymru

Os ydych chi'n fentergarwr neu'n dîm rheoli sydd am brynu neu werthu busnes yng Nghymru, gallwn ni helpu gyda benthyciadau ac ecwiti hyd at £3 miliwn a chyllid dilynol. Mae gennym dimau lleol ymroddedig a hanes cryf o fargeinion olyniaeth. Mae ein cyllid yn cwmpasu'r mwyafrif helaeth o'r cyfalaf ar gyfer AllRh a MRh, felly dim ond buddsoddiad bach sydd ei angen gan y tîm rheoli. Ewch draw i weld ein tudalen ‘prynu busnes’ i ddarganfod mwy neu cysylltwch â ni isod.

Be' nesaf?

Cysylltwch â’n tîm buddsoddi penodedig i drafod eich opsiynau cyllid.

Cysylltwch â ni