Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy


 

A ddylwn i brynu busnes? 

Cyn dechrau ar y broses o brynu busnes, mae'n bwysig pwyso a mesur y manteision a'r anfanteision posibl, gan gynnwys:

Manteision

  • Cwsmeriaid presennol. Fel arfer bydd gan fusnes presennol gynnyrch neu wasanaeth profedig a sylfaen cwsmeriaid gadarn. Gall hyn arbed llawer o amser ac adnoddau i chi lansio a phrofi cynnyrch cwbl newydd. Mantais fawr arall sylfaen cwsmeriaid presennol yw y gall roi llif arian a refeniw cyson i chi o'r diwrnod cyntaf.
  • Brand sefydledig. Brand cryf yw un o'r asedau mwyaf gwerthfawr y gall busnes ei gael, gan helpu i gadw cwsmeriaid a denu rhai newydd. Mae prynu cwmni sydd â chydnabyddiaeth brand uchel a theyrngarwch yn golygu y gallwch chi elwa ar y buddion heb fod angen buddsoddi cymaint o amser ac ymdrech i adeiladu brand o'r dechrau.
  • Tîm presennol. Gall prynu busnes gyda thîm sefydledig roi mynediad i chi at weithwyr medrus a gwybodus.
  • Data hanesyddol. Bydd gan gwmni presennol gofnodion ariannol a data gwerthiant a pherfformiad a all eich helpu i gynllunio, gwneud penderfyniadau gwybodus, a rhagweld perfformiad yn y dyfodol yn fwy cywir.
  • Mynediad haws o bosibl at gyllid : Efallai y bydd rhai darparwyr cyllid yn ystyried busnes sydd â hanes o lwyddiant yn llai o risg, a allai wneud sicrhau benthyciadau neu fathau eraill o fuddsoddiad yn haws nag y byddai ar gyfer busnes newydd.

Anfanteision

  • Buddsoddiad cychwynnol uchel. Gall cost ymlaen llaw prynu busnes fod yn sylweddol, ond yn ffodus mae opsiynau cyllid ar gael i helpu. Bydd angen i chi hefyd ystyried cost ymrestru ymgynghorwyr proffesiynol fel cyfrifwyr a chyfreithwyr.
  • Problemau etifeddol. O ddyledion heb eu talu i heriau gweithredol a materion yn ymwneud ag enw da, gallech etifeddu rhai problemau posibl. Mae cynnal diwydrwydd dyladwy trylwyr yn hanfodol i wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o bob agwedd ar y busnes rydych yn ei brynu.
  • Gwrthwynebiad i newid. Weithiau gall gweithwyr, cyflenwyr neu gwsmeriaid presennol wrthsefyll y newidiadau a ddaw yn sgil perchnogaeth newydd. Fodd bynnag, gall cynllun pontio clir a chyfathrebu effeithiol eich helpu i oresgyn yr heriau hyn.

     

Sut i brynu busnes

Mae yna wahanol ffyrdd o brynu busnes sy’n cynnwys gwahanol fathau o brynwyr – er enghraifft, efallai eich bod yn gyflogai neu’n rhan o dîm rheoli. Mae rhai o'r ffyrdd mwyaf cyffredin o brynu busnes yn cynnwys:

Dyma lle mae tîm rheoli neu weithlu presennol yn prynu’r cyfan neu ran o fusnes gan ei berchnogion. Fel arfer y math llyfnaf o olyniaeth busnes, mae pryniant gan reolwyr yn aml yn darparu cwblhau cyflymach i'r gwerthwr ac yn rhoi cyfle i'r tîm AllRh ddefnyddio eu gwybodaeth am y busnes.

Pan fydd tîm rheoli allanol yn prynu i mewn i gwmni targed fe'i gelwir yn mewnbryniant rheolwyr. Gall fod yn ffordd dda i reolwyr profiadol neu dimau rheoli ddod yn rhanddeiliad mwyafrifol mewn busnes.

Mae Allbryniant Mewnbrynnol yn cyfuno elfennau o AllRh a MeRh. Gall fod yn opsiwn da i fusnesau sydd â rheolaeth weithredol gref ond diffyg arweinyddiaeth wrth i'r perchennog gwerthu adael. Mae'n digwydd pan fydd y tîm rheoli presennol yn prynu busnes ochr yn ochr â rheolwyr allanol, sydd yn y pen draw yn ymuno â nhw fel perchnogion ac yn aml yn eistedd ar y tîm rheoli newydd.

Mae allbryniant a ysgogir gan y gwerthwr yr un peth i bob pwrpas ag allbryniant rheolwyr, ac eithrio ei fod yn cael ei ysgogi gan y perchennog presennol yn hytrach na'r tîm rheoli.

Mae prynu un cwmni gan gwmni neu endid busnes arall yn cael ei adnabod fel gwerthiant neu gaffaeliad masnach. Mae'r prynwr yn aml yn gaffaelwr strategol sy'n gweithredu yn yr un diwydiant.

Dyma lle mae gweithwyr cwmni yn prynu'r busnes gan ei berchnogion. Gall fod yn ffordd o gadw swyddi a gwobrwyo gweithwyr ffyddlon, a fydd fel cyfranddalwyr yn cael eu cymell i dyfu'r cwmni.

Pethau i'w hystyried wrth brynu busnes

Mae llawer o ffactorau i'w hystyried pan fyddwch chi'n prynu busnes. Rydym yn ymdrin â’r rhain yn fanylach yn ein Canllawiau Hybiau Dysgu, ond dyma grynodeb cyflym o rai o’r ffactorau allweddol:

  • Amseru – mae cael yr amseru’n iawn, o safbwynt personol ac ariannol, yn allweddol. Mae'n hanfodol pwyso a mesur eich amgylchiadau personol eich hun a pheidio â rhuthro i wneud penderfyniad, yn ogystal ag ymchwilio i facroamgylchedd a micro-amgylchedd y busnes yr ydych yn ystyried ei brynu.
  • Gwerthuso iechyd ariannol y cwmni - yn gyffredinol mae hyn yn golygu dadansoddi'r datganiadau ariannol (mantolen, datganiad incwm, a datganiad llif arian) am y tair i bum mlynedd ddiwethaf.
  • Materion cyfreithiol a rheoleiddiol – gallai’r rhain gynnwys contractau a chytundebau, hawliau eiddo deallusol, trwyddedau a hawlenni, a materion cyflogaeth. Mae ymgysylltu â gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn hollbwysig.
  • Diwydrwydd dyladwy – mae meysydd allweddol yn cynnwys diwydrwydd dyladwy ariannol, diwydrwydd dyladwy marchnad, diwydrwydd dyladwy cyfreithiol, diwydrwydd dyladwy gweithredol, a diwydrwydd dyladwy amgylcheddol.
  • Prisiad – bydd angen i chi ddarganfod beth yw gwerth y busnes er mwyn negodi pris teg. Gall cynghorydd helpu i bennu ystod o brisiadau a chymorth yn eich trafodaethau.
  • Ariannu – mae’n debygol iawn y bydd angen cyllid arnoch i’ch helpu i brynu busnes. Edrychwch ar y gwahanol opsiynau ariannu sydd ar gael a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y cyllid cywir ar gyfer eich anghenion.

 

Sut i gael benthyciad i brynu busnes

Gallwn gefnogi timau rheoli a gweithwyr gyda phecynnau ariannu hyblyg i'w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau o brynu busnes.

Os ydych yn chwilio am fuddsoddiad ecwiti neu benthyciad i brynu busnes yna cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni