A1 Eyewear

Andrea-Richardson
Uwch Swyddog Portffolio

Rwy'n ddiolchgar iawn i Fanc Datblygu Cymru a Busnes Cymru am eu cefnogaeth ardderchog. Gall prynu busnes fod yn brofiad sy'n chwarae ar nerfau rhywun ond roedd eu dull trylwyr a di-lol yn golygu fy mod i'n teimlo'n hollol hyderus trwy gydol y pryniant.

Huw Owens, Perchennog

Wedi'i sefydlu yn 1986, mae A1 Eyewear yn un o optegwyr annibynnol blaenllaw Wrecsam sy'n cynnig profion llygaid, sbectols, lensys cyswllt ac ategolion ynghyd â gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw.

Fe wnaeth yr optegydd lleol Huw Owens gaffael y practis llwyddiannus gyda chymorth micro-fenthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru a chyngor gan Fusnes Cymru, a fu'n gymorth iddo gytuno ar strwythur busnes ac ar gyfer datblygu cynllun busnes cadarn.

Bellach mae ganddo gynlluniau i ddatblygu ymhellach yr ystod o wasanaethau gofal llygaid a'r gwahanol fathau o sbectols ayyb a ddarperir ganddynt.

Gwyliwch y fideo isod a darllenwch y datganiad i'r wasg i ganfod mwy.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr